
Ar 1 Tachwedd 2011 gwnaeth y Gweinidog dros Addysg a Sgiliau Ddatganiad llafar yn y Siambr ar Archwiliad yr Uned Safonau Ysgolion.
Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) wedi ei fabwysiadu gan Lywodraeth Cymru ac ers Mai 2011 Cymru yw’r unig wlad o fewn y DU i ymgorffori’r Confensiwn o fewn ei chyfraith ddomestig. Mae’n diogelu hawliau dynol pob plentyn o dan 18 oed. Beth am gynnal gweithgareddau yn eich ysgol i ddysgu am y Confensiwn i eraill? Mae digon o adnoddau ar gael ar wefan Llais Disgyblion Cymru a Gwneud Pethau’n Iawn.
Pwrpas yr arweiniad anstatudol hwn yw helpu penaethiaid a chyrff llywodraethu i egluro’u polisïau ar godi tâl a pheidio â chodi tâl am weithgareddau ysgol ac ymweliadau ysgol.
Mae adroddiad ar werthusiad annibynnol a gyhoeddwyd gan Gymdeithas Cwnsela a Seicotherapi Prydain (BACP) yn barnu bod Cwnsela mewn Ysgolion yn rhan annatod o ddarpariaeth ysgolion yng Nghymru. Datganiad i’r wasg a’r Adroddiad Terfynol
Mae'r cwrs undydd hwn yn rhoi cyflwyniad i Gymunedau Dysgu Proffesiynol ac yn esbonio eu pwysigrwydd i ddatblygiad ysgolion. Mi fydd y digwyddiadau yn cael eu cynnal yng Nghaernarfon ar 22ain o Dachwedd ac yn Abertawe ar 13eg o Rhagfyr 2011.
Diwrnod cenedlaethol sydd wedi’i neilltuo i esbonio’r newidiadau i gyllid myfyrwyr yng Nghymru ar gyfer myfyrwyr addysg uwch yn 2012/13 yw Diwrnod Cyllid Myfyrwyr Cymru. Rydym wedi creu nifer o adnoddau er mwyn eich helpu i drosglwyddo’r neges am y newidiadau i gyllid myfyrwyr i’ch cynulleidfaoedd.
Diben y ddogfen hon yw helpu athrawon i adnabod a hybu sgiliau uwch mewn mathemateg yng Nghyfnod Allweddol 3 a thrwodd i Gyfnod Allweddol 4.
Yn ogystal â chynnig tocynnau rhad ac am ddim, rydym yn cynnig y cyfle i ysgolion sy’n perthyn i’r rhwydwaith Bydd Barod i enwebu disgybl 12 oed i redeg gyda’r Fflam Olympaidd. Ymunwch â’r rhwydwaith Bydd Barod cyn 16 Rhagfyr 2011 i achub ar y cyfle i enwebu un o’ch disgyblion. Ymunwch nawr
Gallwch hawlio eich tocynnau rhad ac am ddim i’r Gemau drwy fenter Ticketshare Llundain 2012 neu gallwch sicrhau bod eich disgyblion yn cael cyfle i ymuno yn hwyl y Gemau drwy gyflwyno ffurflen gais heddiw ar ran eich ysgol i fod yn rhan o’r rhwydwaith Bydd Barod. Mwy o wybodaeth a chyflwynwch eich cais.
(Yn anffodus, nid yw'r erthyglau canlynol ar gael yn y Gymraeg)
This circular provides information on the plans for the 2012 National Student Survey (NSS). It also provides further information about outcomes from earlier surveys and general features of the survey.
Mae’r uned yn cynnwys cyflwyniad ac arbrawf rhyngweithiol sy’n cefnogi dysgwyr CA3 wrth iddynt gyflawni ymholiad gwyddonol. (GCaD Cymru)
Mae'r adnodd hwn yn rhoi cymorth ar gyfer dysgu ac ymarfer strwythurau iaith a gramadeg Ffrangeg. Mae’n addas ar gyfer disgyblion hyd lefel TGAU a chymwysterau eraill.
(Yn anffodus, nid yw'r erthyglau canlynol ar gael yn y Gymraeg)
The main aims of the evaluation were to assess the impact of the Diplomas on learners – in terms of attainment of qualifications and progression to further (FE) and higher education (HE) and to review the implementation and delivery systems of Diplomas.
The study has assessed how to track young people and adults into Apprenticeships, through their training (including into any subsequent learning), and then into employment, in order to gauge the extent to which their future earnings and employment status (as well as other outcomes including progression to further learning, job satisfaction, acquisition of skills and mobility between jobs) were influenced by the completion of an Apprenticeship.