Mae Llywodraeth Cymru wedi gwahodd Sefydliadau Addysg Uwch i dendro er mwyn achredu, darparu a dyfarnu’r Radd Meistr newydd mewn Ymarfer Addysgol (MEP).
Bob blwyddyn, mae Prif Arolygydd Estyn yn cyhoeddi Adroddiad Blynyddol sy’n darparu asesiad cyffredinol o safonau a pherfformiad ysgolion, a darparwyr addysg a hyfforddiant yng Nghymru. I ddarllen yr adroddiad diweddaraf ac i wylio gweddarllediad gan Ann Keane yn trafod prif ganfyddiadau’r adroddiad, ewch i www.estyn.gov.uk
Mae cyflogwyr ledled Cymru yn cael eu hannog yr wythnos hon i gyflogi a hyfforddi prentisiaid ifanc er gwaetha’r hinsawdd economaidd anodd, er mwyn cael y sgiliau hanfodol sydd eu hangen ar eu busnesau i oroesi a thyfu yn y dyfodol. Datganiad i’r we a mwy o wybodaeth ar wythnos prentisiaethau 2012
‘Ar 29 Tachwedd, cyhoeddais fy ymateb cychwynnol i'r cyngor a gafwyd gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) ynghylch strwythur y sector addysg uwch yng Nghymru. Nodais fy mod o'r farn bod CCAUC wedi cyflwyno dadl sy’n argyhoeddi o blaid uno Prifysgol Morgannwg, Prifysgol Fetropolitan Caerdydd a Phrifysgol Cymru, Casnewydd, i greu prifysgol wirioneddol 'fetropolitan' yn y De-ddwyrain...’
Mae Llywodraeth Cymru wrthi’n trefnu cyfres o bedair cynhadledd addysg ar draws Cymru. Diben y cynadleddau hyn fydd cyflwyno'r newyddion diweddaraf i ymarferwyr ac i'r rhai hynny sy'n ymwneud â darparu a datblygu polisi addysg ynghylch hynt y gwaith a amlinellwyd gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau yn ei gynlluniau i godi safonau ysgolion. Mwy o wybodaeth a’r agenda
Am y tro cyntaf y mis Ionawr hwn, bydd Llywodraeth Cymru yn dechrau casglu gwybodaeth am iaith gyntaf pob disgybl o oed ysgol gorfodol ym mhob ysgol a gynhelir drwy broses y Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion (CYBLD).
Mae’r diweddariad isod yn darparu’r newyddion addysgol diweddaraf a chrynodeb o wybodaeth am gyhoeddiadau a digwyddiadau cyfredol, ac yn y dyfodol.
Mae’n bosibl y bydd y gweithdy y mae Menter Addysg ac Ymchwil y DU ac India sef UKIERI II yn ei drefnu i helpu pobl i ddysgu mwy am y broses o gyflwyno ceisiadau o ddiddordeb i Sefydliadau Addysg Uwch ac Addysg Bellach sy’n chwilio am gymorth arainnol i greu dolenni cyswllt ag India. Cynhelir y gweithdy yng Nghaerdydd ar 29 Chwefror. Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru yw 8 Chwefror. Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi UKIERI.
Mae’r newyddlen yn cynnwys newyddion ynglŷn â niferoedd myfyrwyr a chyllido.
Mae'r adnodd yma’n rhoi cymorth ar gyfer dysgu ac ymarfer strwythurau iaith a gramadeg Ffrangeg, a hynny mewn ffordd ddeniadol a diddorol.
Cyfres o adnoddau manwl, gydag elfennau rhyngweithiol a chwestiynau perthnasol fydd o gymorth i’r myfyrwyr sy’n astudio hyn ar gyfer yr arholiad U2.
(Yn anffodus, nid yw'r erthyglau canlynol ar gael yn y Gymraeg)
Higher education in the United Kingdom is undergoing a period of significant change. This is being driven by a number of factors: political, cultural, economic, and technological. The trends are global in their scope, and far reaching in their impact.
This report presents an international comparison of the intermediate skills systems (particularly apprenticeship programmes) in Germany, the Netherlands and Australia.