
Mae'r Gweinidog Addysg, Leighton Andrews, wedi cyhoeddi fuddsoddiad o bron i £1.4 biliwn yn ein hysgolion dros gyfnod o saith mlynedd, fel rhan o Raglen Cyllid Cyfalaf Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif.
Yn gynharach eleni, cyhoeddodd y Gweinidog Addysg a Sgiliau fod y System Cynllunio ac Ariannu Genedlaethol yn cael ei hatal am y tro a dywedodd y byddem yn cynnal adolygiad cynhwysfawr o'r system cynllunio ac ariannu ôl-16. Mae’r adolygiad hwn wedi dechrau’n ffurfiol erbyn hyn. Rydym yn bwriadu annog cynifer o randdeiliaid â phosibl i gymryd rhan yn yr adolygiad. Nid ydym yn bwriadu cyhoeddi dogfen ymgynghori; yn hytrach, byddwn yn ymgynghori â chi drwy gydol yr adolygiad. Os hoffech gael gwybod am y datblygiadau diweddaraf, darllenwch ein llythyr i randdeiliaid neu ewch i’r tudalennau Ôl-16. I gael rhagor o wybodaeth neu i gysylltu â ni unrhyw bryd, anfonwch e-bost i’r mewnflwch Adolygiad o’r System Cynllunio ac Ariannu Ôl-16.
Mae’r Gweinidog Addysg, Leighton Andrews, wedi datgelu cynigion ar gyfer dyfodol Addysg Uwch yng Nghymru, gan alw am sefydliadau cryf, cynaliadwy a llwyddiannus Datganiad i’r wasg a’r datganiad llafar.
Mae’r Gweinidog Addysg a Sgiliau wedi gofyn i Janet Hayward, Pennaeth Ysgol Gynradd Cadoxton, gadeirio grŵp gorchwyl a gorffen i ystyried sut orau i ddefnyddio addysg ddigidol i wella profiadau dysgwyr a chydweithredu ymhlith athrawon. Mae Janet yn awyddus i dderbyn sylwadau a safbwyntiau o bob rhan o addysg a hyfforddiant yn cynnwys: 1) Sut ddylai cynnwys digidol Cymraeg a Saesneg hygyrch o’r radd flaenaf gael ei ddatblygu ar gyfer yr ystafell ddosbarth? A 2) Sut ddylai athrawon gael y sgiliau addysgu digidol i ddefnyddio TGCh i weddnewid ysgolion? Os hoffech rannu’ch sylwadau a’ch profiadau, anfonwch eich atebion at y blwch post. Y dyddiad cau ar gyfer derbyn sylwadau yw 6 Ionawr 2012.
Sefydlodd Deddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 Ofqual (Swyddfa Rheoleiddio Cymwysterau ac Arholiadau) yn rheoleiddiwr annibynnol ar gymwysterau, arholiadau ac asesiadau. Er hynny, oeddech chi’n gwybod mai Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am reoleiddio cymwysterau sy’n cael eu darparu yng Nghymru?
Mae ymchwil yn dweud wrthym fod gormod o bobl ifanc yn meddu cymwysterau sydd ddim yn cyfateb i’r hyn mae cyflogwyr yn chwilio amdano ac nad yw cyflogwyr yn cyfathrebu’n ddigon clir y cyfleoedd sydd ar gael yn y gweithle...Mae Llywodraeth Cymru yn dymuno ehangu ac ymestyn y defnydd o wybodaeth am y farchnad lafur (LMI) ar draws Cymru. Dyma'r cyntaf o nifer o erthyglau.
Diben y rhan hon o’r wefan yw eich helpu i ddod o hyd i’r cyllid sydd ei angen arnoch i fanteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd addysg a dysgu sydd ar gael i chi.
Mae’n dda gan NACE Cymru ddweud bod y gwaith o lunio’r Pecyn Hyfforddi ar gyfer Disgyblion Mwy Abl a Dawnus ar y gweill. Mae’r pecyn yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a bydd ar gael i bob ysgol. Bydd hefyd yn galluogi Cydgysylltwyr Disgyblion Mwy Abl a Dawnus i gynnig sesiynau datblygu proffesiynol â chydweithwyr yn yr ysgol a bydd yn helpu i ymgorffori darpariaeth ar gyfer disgyblion mwy abl a dawnus mewn ysgolion. Caiff y Pecyn Hyfforddi ar gyfer Disgyblion Mwy Abl a Dawnus ei lansio yng nghynadleddau NACE Cymru ar draws pob cyfnod yn ystod tymor y gwanwyn 2012 – Llandudno: 24 Ebrill, Caerdydd: 26 Ebrill. I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â naceevents@nace.co.uk
Mae Barclays a Channel 4 wedi lansio cystadleuaeth newydd a chyffrous sy’n ceisio ysbrydoli pobl ifanc i feddwl am syniadau ynghylch mentrau neu fusnesau posibl neu syniadau ar gyfer eu cymunedau. Trwy wneud hyn byddant yn gwella eu sgiliau ariannol mewn modd hwyliog ac arloesol. Bydd y gystadleuaeth hon yn parhau hyd at 23 Rhagfyr. Gall pobl ifanc gymryd rhan yn y gystadleuaeth drwy fynd i’r wefan. Mae adnoddau ar gyfer athrawon a gweithwyr ieuenctid ar gael i’w lawrlwytho.
Cystadleuaeth dylunio yw hon ar gyfer merched sy’n astudio disgyblaeth greadigol yng Nghymru, er enghraifft, celf, dylunio graffeg, ffasiwn, cerflunio etc, ar lefel Safon Uwch neu uwch yn yr ysgol, y coleg neu’r brifysgol. Y nod yw creu darn o waith sy’n symbol o “Chwarae Teg i Fenywod” mewn cyd-destun newydd ac arloesol.
Disgyblion sy'n Ymadael ag Addysg heb Gymhwyster, 2010/11
Canlyniadau Arholiadau, 2010/11
Cyfres gynhwysfawr o adnoddau amlgyfrwng i gefnogi addysgu cwrs TGAU Dylunio a Thechnoleg, Technoleg Tecstilau.
Bydd pob uned yn canolbwyntio ar grwpiau gwahanol o anifeiliaid, ac yn pwysleisio anghenion rhywogaethau o fewn amrediad o gategorïau.
(Yn anffodus, nid yw'r erthyglau canlynol ar gael yn y Gymraeg)
Seven years ago 1 child in 10 did not have a book of their own while today the figure stands at a startling 1 child in 3. The decline in children’s book ownership is of particular concern as the report shows that the number of books in the home is directly linked to children’s reading levels.
How, and to what extent, are colleges and other providers addressing the impact of globalisation and the changing learning and skills needs within their programmes, courses and general support for the learners? This report, commissioned by LSIS from the Institute of Education University of London, reviews the current situation in the sector.