
Mae’r Gweinidog dros Addysg a Sgiliau wedi penderfynu diwygio’r safonau proffesiynol ar gyfer Cynorthwywyr Addysgu Lefel Uwch, athrawon a phenaethiaid a bydd y safonau diwygiedig hyn yn dod i rym o 1 Medi 2011. Ewch i’r safonau Proffesiynol Diwygiedig ar gyfer Ymarferwyr Addysg. Yn ogystal, gallwch ddarllen crynodeb o’r ymatebion i’r ymgynghoriad.
A hithau bellach yn ddechrau'r tymor, gallwn roi rhagor o fanylion i chi am yr amserlen ar gyfer mireinio'r model bandio terfynol ac ar gyfer cytuno ar y model hwnnw; ar gyfer cyhoeddi'r wybodaeth fandio dros dro a'r wybodaeth fandio derfynol, a darparu'r deunyddiau cymorth i'ch helpu i esbonio bandio i rieni ac i'r cyhoedd.
Mae’r Gweinidog Addysg a Sgiliau wedi penderfynu caniatáu i ysgolion barhau i gymryd hyd at ddau ddiwrnod HMS ychwanegol cyn belled ag y cânt eu trefnu yn ystod tymor haf blwyddyn academaidd 2011/12 a’u bod yn canolbwyntio ar lythrennedd a rhifedd yn unig. Er hynny, fel y digwyddodd y llynedd, bydd ysgolion yn colli’r defnydd o’r diwrnodau HMS ychwanegol hyn ar sail pro-rata os bydd unrhyw amser addysgu yn cael ei golli oherwydd tywydd garw yn ystod y ddau dymor cyntaf.
Ewch i wefan Estyn lle gallwch ddarllen am y modd y mae darparwyr o bob cwr o Gymru wedi goresgyn heriau yn effeithiol, fel cefnogi disgyblion mwy abl a dawnus, cyflwyno cwricwlwm yn seiliedig ar fedrau a gwella llythrennedd bechgyn. Mae’r adran newydd ar arfer orau ar wefan Estyn yn rhan o ymrwymiad Estyn i hyrwyddo gwelliant wrth gyflwyno addysg a hyfforddiant ledled Cymru.
Ymunodd y Gweinidog Addysg a Sgiliau, Leighton Andrews, â'r dathliadau wrth i fyfyrwyr gasglu eu canlyniadau TGAU a Chymhwyster Bagloriaeth Cymru.
Mae Leighton Andrews, y Gweinidog Addysg, wedi llongyfarch y miloedd o fyfyrwyr yng Nghymru sy’n dathlu llwyddiant yn eu harholiadau wrth i ganlyniadau Bagloriaeth Cymru, Safon Uwch a Safon Uwch Gyfrannol gael eu cyhoeddi.
Mae Gwobrau Prentisiaeth eleni yn cael eu trefnu mewn partneriaeth â Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Byddant yn cael eu cynnal gyda’r nos ar 16 Tachwedd yng Ngwesty Mercure Holland House, Caerdydd, cyn iddynt gynnal eu cynhadledd flynyddol ar gyfer 2011. Mae'n rhaid i'r ceisiadau ddod i law erbyn 12 o'r gloch, Dydd Mercher 28 Medi 2011.
Fel rhan o’i rhaglen Buddsoddi mewn Ansawdd, mae’r Adran Addysg a Sgiliau yn darparu cyllid er mwyn helpu darparwyr i ddatblygu gweithgareddau penodol sy’n gwella ansawdd y dysgu, profiadau dysgwyr, cyrhaeddiad neu arweinyddiaeth a rheolaeth. Bydd darparwyr Dysgu Seiliedig ar Waith yn gallu gwneud cais am grant o hyd at £6,000 er mwyn cyflawni gweithgareddau penodol ar gyfer gwella ansawdd.
Fel rhan o’r gwaith parhaus o ddatblygu Fframwaith Trin Camddefnyddio Sylweddau Llywodraeth Cymru, crëwyd fframwaith ar gyfer Addysgu am Alcohol a’i Atal mewn Sefydliadau Addysg Uwch a Phellach. Mae’r canllawiau hyn yn nodi arferion da ar gyfer mynd i’r afael â’r broblem o gamddefnyddio alcohol mewn Sefydliadau Addysg Uwch a Phellach yng Nghymru. I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch ar Fframwaith Trin Camddefnyddio Sylweddau Llywodraeth Cymru.
Mae pobl yn gallu mynd i rigol yn ystod unrhyw adeg o'u bywydau. Efallai eu bod nhw'n cael trafferth dod o hyd i'w swydd gyntaf neu efallai eu bod nhw'n teimlo eu bod wedi cyrraedd pen y daith yn eu swydd bresennol. I gael rhagor o wybodaeth am sut i roi cynnig ar rywbeth newydd, ennill sgiliau newydd a chael cymorth ar gyfer ariannu cwrs, ewch i wefan ‘Your Future’.
Mae’r cylch ceisiadau ar gyfer cyllid newydd i helpu ysgolion sydd â phlant y Lluoedd Arfog i liniaru’r effaith y mae symud ac adleoli yn ei chael, fel rhan o’r Lluoedd Arfog, ar agor yn awr. I gael rhagor o wybodaeth a ffurflen gais, cysylltwch â Laura Peel neu Claudia Guy
Mae’r Rhaglen Lleoli Athrawon yn rhoi’r cyfle i athrawon cymwysedig o Gymru weithio mewn ysgol yn Lesotho am 6 neu 12 mis. Mae’r rhaglen yn canolbwyntio ar rannu sgiliau proffesiynol a gwella addysg yn Lesotho tra hefyd yn datblygu sgiliau’r athrawon o Gymru a rhoi profiad rhyngwladol unigryw iddynt sy’n cyfoethogi eu gwaith wedi iddynt ddychwelyd i Gymru. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 15 Medi 2011.
(Yn anffodus, nid yw'r erthyglau canlynol ar gael yn y Gymraeg)
New National Literacy Trust research* of 18,141 children reveals a polarised nation of young readers with 1 in 6 reporting that they don’t read a single book in a month, while 1 in 10 say they read more than 10 books in a month.
An Ofsted report, Progression post-16 for learners with learning difficulties and/or disabilities, found that learning opportunities beyond school for young people with learning difficulties and disabilities varies considerably between local areas.
Intelligence is a monthly e-briefing which reports on key developments in the fields of employment and skills.
The overall purpose of this follow-up research project was to find out key stage 3 science teachers' perceptions of the introduction of APP, and how APP has been embedded into practice during its first 12-18 months.