
Cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog Sgiliau, Jeff Cuthbert, manylion adolygiad eang o’r holl gymwysterau sydd ar gael i bobl ifanc rhwng 14 ac 19 oed yng Nghymru.
Dyma'r ail fwletin ynghylch y system genedlaethol ar gyfer bandio ysgolion. Cafodd gwybodaeth dros dro am fandio ysgolion uwchradd ei hafon at ysgolion ac awdurdodau lleol ddydd Iau 15 Medi. Darllenwch fwletin yr Hydref a’r dogfen Cwestiynau ac Atebion diweddaraf
Bwriad y Mesur Bwyta’n Iach mewn Ysgolion (Cymru) at ei gilydd yw ei gwneud hi’n ofynnol i awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu hybu bwyta ac yfed yn iach ymhlith disgyblion mewn ysgolion a gynhelir yng Nghymru a gwneud darpariaeth i reoleiddio bwyd a diod a ddarperir yn yr ysgolion hynny. Mae’r Gweinidog Addysg a Sgiliau wedi cytuno ar amserlen i gychwyn y darpariaethau yn y Mesur Bwyta’n Iach mewn Ysgolion (Cymru).
Canllawiau ar-lein newydd i helpu darparwyr dysgu i nodi a chydlynu’r ystod lawn o weithgareddau profiad sy'n canolbwyntio ar waith y gellid eu darparu ym mhob cyfnod yn y cwricwlwm.
Mae’r Adran dros Addysg a Sgiliau wedi diwygio sawl set o reoliadau sy'n ymwneud ag adrodd i rieni, y System Drosglwyddo Gyffredin, Adroddiadau Blynyddol Llywodraethwyr, prosbectysau ysgolion a gosod targedau i ysgolion. Mae dogfen canllawiau cryno ar gyfer y rheoliadau newydd ar gael ar y wefan.
Canllawiau ar-lein newydd sy’n darparu atebion i gwestiynau cyffredin am Gyrfaoedd a’r byd gwaith.
Comisiynwyd yr adroddiad gan y rheoleiddwyr cymwysterau er mwyn gwirio a yw’r prosesau ystadegol a fabwysiadwyd ar gyfer pennu canlyniadau lefel A yn arwain at ganlyniadau teg ar draws cyrff dyfarnu a ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.
Ymysg y blaenoriaethau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru, roedd rhoi mwy o gyfleoedd prentisiaeth i bobl ifanc.
Mae grantiau CILT Cymru (Y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ieithoedd) hyd at £1000 ar gael yn awr i ysgolion i gymryd rhan mewn gwaith ymchwil weithredu i ddatblygu llythrennedd ar draws ieithoedd. Bydd 10 ysgol arloesol yn derbyn cyllid i ddatblygu rhagor o arfer effeithiol, adnoddau a strategaethau yn y maes hwn.
Os ydych chi yn ddisgybl yn yr ysgol uwchradd ac yn teimlo nad oes neb yn gwrando arnoch ond bod gennych broblemau yr hoffech eu trafod, hwyrach y byddai’n werth siarad â chwnselydd yn yr ysgol. Ceir cyfle ar y wefan i weld profiadau pobl ifanc yn siarad â chwnselydd yn yr ysgol.
Mae Alun Davies AC, y Dirprwy Weinidog Rhaglenni Ewropeaidd, wedi cyhoeddi bod prosiect £15 miliwn a fydd yn rhoi dyfodol gwell i dros 1,500 o bobl ifanc wedi cael hwb gan gyllid yr UE.
Y mae'r canllawiau yn amlinellu sut y gall ysgol ddatblygu a chefnogi cyfranogiad disgyblion effeithiol a chyfannol, gydag adrannau arbennig ar sut i gynnwys pobl ifanc wrth werthuso dysgu ac addysgu, ac wrth benodi staff.
Mae llu o ddeunyddiau - llyfrynau, gemau, cynlluniau gwersi, a clipiau fideo – ar gael nawr i ddangos sut y gall newid a gwella bywydau plant a phobl ifanc.
(Yn anffodus, nid yw'r erthyglau canlynol ar gael yn y Gymraeg)
Parental engagement has a large and positive impact on children’s learning. It is therefore a priority to identify interventions that are effective in supporting parental involvement, particularly those parents who are either not significantly involved in their children’s education or who are not involved at all.
This study provides a review of evidence on role of upskilling as a lever in helping people make the transition from worklessness into sustainable jobs with progression.
This report offers an overview of the research evidence on the outcomes that extended services can produce, and on how those services can be made most effective. It has something to say to all practitioners and decision makers who are working on extended services. However, it is particularly aimed at head teachers who are developing services in and around their schools.