
Diwrnod cenedlaethol sydd wedi’i neilltuo i esbonio’r newidiadau i gyllid myfyrwyr yng Nghymru ar gyfer myfyrwyr addysg uwch yn 2012/13 yw Diwrnod Cyllid Myfyrwyr Cymru. Rydym wedi creu nifer o adnoddau er mwyn eich helpu i drosglwyddo’r neges am y newidiadau i gyllid myfyrwyr i’ch cynulleidfaoedd.
Cafodd y canllawiau newydd hyn eu llunio i gefnogi’r gwaith o ddatblygu sgiliau llythrennedd ac iaith drwy greu cysylltiadau ar draws Cymraeg, Cymraeg ail iaith, Saesneg ac ieithoedd tramor modern.
Mae’r deunyddiau dwyieithog hyn wedi’u cynllunio i gefnogi gwaith addysgu ac asesu o safon ym maes Cymraeg ail iaith. Yn benodol, eu nod yw cefnogi athrawon Blwyddyn 6 y bydd angen iddyn nhw asesu cyrhaeddiad dysgwyr mewn Cymraeg ail iaith ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 2. Bydd copi yn cael ei ddosbarthu i bob ysgol uwchradd hefyd ar gyfer gwaith pontio Cyfnod Allweddol 2 a 3 a chymedroli clwstwr. Bydd yr adnoddau hyn yn cael eu dosbarthu i ysgolion mewn ffurf copi caled/CD ar gychwyn wythnos 14 Tachwedd 2011.
Mae’r Gweinidog Addysg, Leighton Andrews, wedi cyhoeddi Rhaglen Addysg Ryngwladol newydd a fydd yn helpu pobl ifanc Cymru i ddysgu gwersi o bob ban byd. Nod y Rhaglen Addysg Ryngwladol yw sicrhau bod gan bobl ifanc Cymru yr wybodaeth ynghyd â’r sgiliau angenrheidiol i gyfrannu’n weithgar at gymdeithas fyd-eang. Datganiad i’r wasg a mwy o wybodaeth
Mae rhifyn diweddaraf Materion Arlwyo'r Ysgolion ar gael yn awr. Mae Materion Arlwyo’r Ysgolion yn cynnwys y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf am Blas am Oes, sef strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella’r bwyd a’r diod sy’n cael eu gweini yn ysgolion Cymru. Mae’r cylchlythyr hwn yn darparu cyngor a chanllawiau, a fydd yn helpu ysgolion ac awdurdodau lleol i baratoi ar gyfer y safonau statudol sy’n cael eu cyflwyno ar gyfer bwyd a diod mewn ysgolion.
Mae pobl ifanc ledled Cymru yn cael eu hannog i gymryd rhan mewn cyfres o weithgareddau dros gyfnod o wythnos er mwyn dathlu gwaith ieuenctid.
Mae adroddiad interim wedi'i gyhoeddi ar gyfer yr Ymchwiliad hwn sy'n cynnwys nifer o argymhellion ar gyfer cyrff dyfarnu. Yr haf diwethaf canfuwyd bod nifer annerbyniol o bapurau arholiad TGAU a Safon Uwch yn cynnwys gwallau.
Mae colegau addysg bellach Cymru yn ehangu eu cysylltiadau â Tsieina drwy fenter newydd a lansiwyd gan y Prif Weinidog, Carwyn Jones, sydd ar ymweliad â’r wlad.
O dan brosiect mawr a gafodd ei lansio heddiw, mae deg prifysgol Cymru wedi dod at ei gilydd i gynnig hyfforddiant ac arbenigedd i’r farchnad addysg uwch, sy’n tyfu, yn Tsieina.
Comisiynwyd Old Bell 3, mewn cysylltiad â Dateb, gan Adran Addysg a Sgiliau (AdAS) Llywodraeth Cymru i gynnal gwerthusiad ffurfiannol o’r Rhaglen Cymraeg i Oedolion. Cynhaliwyd y gwerthusiad hwn rhwng mis Medi 2007 a mis Mawrth 2010.
Dysgwch sut y gall pobl ifanc rhwng 11 ac 18 oed elwa ar Gemau Olympaidd a Pharalympaidd 2012! Gallwch gymryd rhan yn y Gystadleuaeth Posteri INSPIRE>ASPIRE, sy’n un o raglenni ‘Inspire’ swyddogol Gemau Llundain 2012. Bydd y templed unigryw ar gyfer llunio poster, a’r deunyddiau ategol ar y we, yn eu helpu eich dysgwyr i ystyried eu cymeriadau, eu delfrydau a’u gwerthoedd eu hunain.
Mae AdAS wedi ymrwymo i ragori wrth gyfathrebu ac ymgysylltu â chi. Yn sgil derbyn canlyniadau Arolwg Rhanddeiliaid 2010, rydym wedi paratoi ffurflen adborth gryno i ymchwilio ymhellach i’r hyn yr ydych chi’n ystyried yw cryfderau a gwendidau’r Adran. Byddem yn gwerthfawrogi, felly, pe byddech yn gallu neilltuo ychydig funudau i lenwi’r ffurflen gyfrinachol hon.
Pecyn cymorth ar gyfer ymgynghori â phobl ifanc yng Nghymru ar addysg rhyw a pherthnasoedd.
Bwriedir i’r adnodd gael ei ddefnyddio fel rhan o raglen strwythuredig o addysgu a dysgu, yn cynorthwyo myfyrwyr i gymhwyso gwybodaeth at amrywiaeth o gyrff teithio a thwristiaeth sy’n gweithredu mewn sectorau gwahanol o’r diwydiant.
(Yn anffodus, nid yw'r erthyglau canlynol ar gael yn y Gymraeg)
Previous research and anecdotal evidence has suggested that offering a broader curriculum, and in particular, vocational qualifications, may be a way to motivate young people who have become disengaged from education and improve their subsequent attainment. However, this hypothesis has not been systematically evaluated.
The subjects and courses young people choose to take from age 14 onwards can have profound implications for their later-life education and economic opportunities. It is therefore vital we understand how young people make their choices, and whether any aspects of the current decision-making process may be detrimental to young people’s future welfare.
The qualifications regulators in Wales (the Welsh Government), England (Ofqual) and Northern Ireland (CCEA), commissioned Ipsos MORI to carry out an independent evaluation of the introduction of controlled assessment within GCSEs.