
Mae'r Gweinidog Addysg, Leighton Andrews, wedi cyhoeddi y bydd pob Athro Newydd Gymhwyso (ANG) yn cael y cyfle i ddilyn rhaglen Meistr fel rhan o’u cyfnod Sefydlu a’u Datblygiad Proffesiynol Cynnar o fis Medi 2012 ymlaen.
Dyma'r ail fwletin ynghylch y system genedlaethol ar gyfer bandio ysgolion. Cafodd gwybodaeth dros dro am fandio ysgolion uwchradd ei hafon at ysgolion ac awdurdodau lleol ddydd Iau 15 Medi. Darllenwch fwletin yr Hydref a’r ddogfen Cwestiynau ac Atebion diweddaraf.
Mae’r Gweinidog Addysg, Leighton Andrews, wedi dweud wrth gynrychiolwyr Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) heddiw ei fod yn disgwyl i grwpiau consortia rhanbarthol ganfod gwerth £20 miliwn o adnoddau i’w dyrannu i wasanaethau addysg rheng flaen yng Nghymru.
Ar 22 Tachwedd gwnaeth y Gweinidog dros Addysg a Sgiliau Ddatganiad llafar yn y Siambr ar: Llywodraethu Addysg Bellach.
Mae ymchwil yn dweud wrthym fod gormod o bobl ifanc yn meddu cymwysterau sydd ddim yn cyfateb i’r hyn mae cyflogwyr yn chwilio amdano ac nad yw cyflogwyr yn cyfathrebu’n ddigon clir y cyfleoedd sydd ar gael yn y gweithle.
Ym mis Medi 2011, cyhoeddwyd Adolygiad o Gymwysterau gan Ddirprwy Weinidog Sgiliau Llywodraeth Cymru. Bydd yr Adolygiad yn ystyried sut i sicrhau bod y system cymwysterau yng Nghymru yn cael ei deall a’i gwerthfawrogi, a’i bod yn bodloni anghenion pobl ifanc ac economi Cymru. Bydd rhan o’r adolygiad yn ystyried pa un a ddylid graddio Cymhwyster Bagloriaeth Cymru. I ddechrau, rhoddir ystyriaeth i egwyddor graddio. Yn y cyd-destun hwn, fe’ch gwahoddir i lenwi arolwg byr. Nid yw wedi’i fwriadu i fod yn archwiliad manwl o ddulliau graddio. Gellir llenwi’r arolwg mewn ychydig funudau, ar-lein, a gellir cael gafael arno o wefan Llywodraeth Cymru ar 23 Tachwedd.
Mae’r adroddiad, yn tynnu sylw at ddiffyg arweinyddiaeth strategol, a gyfrannodd at greu diwylliant lle’r oedd yn anodd i unrhyw un o’r asiantaethau unigol gyflawni eu cyfrifoldeb i ddiogelu ac amddiffyn plant sydd mewn perygl o gael eu cam-drin gan weithwyr proffesiynol. Datganiad i’r wasg a’r adroddiad.
Mae staff Gyrfa Cymru yn edrych ymlaen at weithio gyda’u partneriaid a’u cleientiaid i gasglu adborth am y fersiwn newydd o gyrfacymru.com wrth iddo gael ei ddatblygu yn ystod y misoedd sy’n dod. Mae’r fersiwn beta o’r wefan newydd yn wahanol iawn i’r fersiwn bresennol a fersiynau’r gorffennol. Bellach, mae mwy o ffocws ar gysyniadau dysgu a chynllunio gyrfa modern. Cliciwch yma i gael mynediad i’r wefan – a chliciwch yr offeryn Adborth i roi eich barn i Gyrfa Cymru. Cadwch eich llygad ar gyrfacymru.com – bydd yn parhau i ddatblygu!
Diben y rhan hon o’r wefan yw eich helpu i ddod o hyd i’r cyllid sydd ei angen arnoch i fanteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd addysg a dysgu sydd ar gael i chi.
Mae’r Ffeiliau Ffeithiau diweddaraf a gynhyrchwyd gan Lywodraethwyr Cymru yn canolbwyntio ar Cwestiynau ac Atebion ar Ffederasiwn.
Addysg Bellach, Dysgu Seiliedig ar Waith a Dysgu cymunedol, 2010/11 (dros dro)
Cyfres o adnoddau manwl, gydag elfennau rhyngweithiol a chwestiynau perthnasol fydd o gymorth i’r myfyrwyr sy’n astudio hyn ar gyfer yr arholiad U2.
Mae’r adnodd dysgu hwn yn eich helpu i ddysgu’r sgiliau a’r technegau sy’n rhan o bêl droed.
(Yn anffodus, nid yw'r erthyglau canlynol ar gael yn y Gymraeg)
Ofsted has publishes the Annual Report 2010/11, drawing on over 31,000 inspection visits across the schools, early years, children’s social care and learning and skills sectors in England. Launched by Her Majesty’s Chief Inspector Miriam Rosen, this in-depth analysis provides an unmatched insight into the quality of those services for children and learners, what is working well and what needs to improve.
The focus of this e-bulletin is to report on key developments in employment and skills, from the perspectives of research and policy.
The UCAS Board commissioned a review of the admissions process which represents the first comprehensive review of an admissions process which has served the Higher Education sector and applicants well for 50 years since the inception of UCCA in 1961.
This report provides interim findings from the independent evaluation on the impact of changes to A levels and GCSEs in England. The changes included a move from six units to four for the majority of subjects, the introduction of greater stretch and challenge at A2, and the A* grade.