
Mae Jeff Cuthbert, y Dirprwy Weinidog Sgiliau, wedi cyhoeddi mai Huw Evans OBE, Pennaeth Coleg Llandrillo, fydd yn arwain yr Adolygiad o Gymwysterau i bobl ifanc 14-19 oed yng Nghymru.
O fis Ebrill 2012 ymlaen, bydd y cyllid ar gyfer cefnogi’r ddarpariaeth Gymraeg mewn ysgolion yn cael ei drosglwyddo at, a’i weinyddu gan, yr Adran Addysg a Sgiliau. Bydd Grant y Gymraeg mewn Addysg newydd ar gyfer 2012-13 yn cyfuno arian a ddarparwyd yn flaenorol gan nifer o gynlluniau grant.
Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu sefydlu cytundeb fframwaith a fydd yn darparu ystod o wasanaethau ymgynghori addysg ac arbenigedd pwnc i gefnogi gwaith yr Adran Addysg a Sgiliau (AdAS). Bydd y Fframwaith yn dechrau ar 1 Ebrill 2012 ac yn gweithredu am gyfnod o bedair blynedd.Dylai unigolion neu sefydliadau a hoffai weld y manylion hyn a chyfleoedd eraill i ddarparu gwasanaethau i Lywodraeth Cymru a sefydliadau sector cyhoeddus eraill gofrestru ar Sell2Wales.
Mae gwaith y Grŵp wedi canolbwyntio ar y gwahaniaethau mewn perfformiad addysgol rhwng bechgyn a merched yn ogystal â’r problemau economaidd-gymdeithasol ehangach sydd yn effeithio ar eu perfformiad. Mwy a’r datgainiad Ysgrifenedig
Gwobrau Prentisiaethau Cymru yw gwobrau pwysicaf Cymru ar gyfer unigolion, cyflogwyr a darparwyr hyfforddiant sy’n ymwneud â chyflenwi Prentisiaethau yng Nghymru. Thema’r gynhadledd flynyddol eleni yw manteision a gwerth Sgiliau a Hyfforddiant Galwedigaethol wrth gydweithio â busnesau er lles Cymru.
Bydd y gynhadledd flynyddol ddeuddydd yma’n canolbwyntio ar weithredu Cyflenwi Dysgu Cymunedol yng nghyd-destun trawsnewid y sector ôl-16 yn ehangach a hinsawdd economaidd anodd. Bydd y gynhadledd yn dod ynghyd â phawb sy’n ymwneud ag addysg oedolion yng Nghymru.
Yn dilyn arolwg Estyn ym Mai 2011, mae’r Coleg yn falch o gyhoeddi y bydd yn cynnal cynhadledd ddydd Llun 28 Tachwedd i ledaenu’r arfer da a gydnabuwyd gan Estyn fel ‘Rhagorol’ yn ei arolwg o ddarpariaeth y Coleg.
Mae'r Wythnos Gwaith Ieuenctid 1 – 7 Tachwedd yn gyfle i ganolbwyntio ar waith gweithwyr ieuenctid ledled Cymru ac i werthfawrogi'r gwaith hwnnw. Estynnir gwahoddiad i chi fynychu digwyddiad 'Gwaith Ieuenctid yng Ngogledd Cymru – Cydweithio' sy'n cael ei drefnu yn Swyddfa Llywodraeth Cymru, Cyffordd Llandudno ar 7 Tachwedd 2011 rhwng 15:00 a 18:30.
Mi fydd cynhadledd ar gyfer ysgolion sy’n dymuno creu cysylltiadau addysg gyda phartneriaid o Rwanda yn cymryd lle ar Ddydd Iau, 10fed Tachwedd 201 yn Abertawe.
Cyfres o adnoddau yn cynnwys fideo, animeiddiad a deunyddiau bwrdd gwyn sy'n mynd i'r afael â'r sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth o sut mae gwyddoniaeth yn gweithio o fewn manylebau TGAU yng nghyd-destun ffurfiant elfennau mewn sêr.
Cyfres o adnoddau i gefnogi addysgu Trigonometreg i fyfyrwyr sy’n astudio Mathemateg Ychwanegol neu Fathemateg Uwch/UG.
(Yn anffodus, nid yw'r erthyglau canlynol ar gael yn y Gymraeg)
Applicants for all courses are down by 9.0%.
This research, undertaken by the National Institute of Economic and Social Research, develops our understanding of the role that high-level skills play in improving economic performance and growth.
This research introduces a sophisticated conceptual definition of occupational regulation; maps its different forms in the UK; and produces estimates on its prevalence and impact.