
‘Diben fy natganiad heddiw yw rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau am yr hyn sydd eisoes wedi’i wneud a’n hymrwymiadau parhaus yn unol â’n Rhaglen Lywodraethu i ariannu adeiladau a darpariaeth TGCh o safon drwy’r Rhaglen Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif.
Mae Llywodraeth Cymru yn trefnu cyfres o gynadleddau ‘Codi Safonau Ysgolion’ ledled Cymru. Pwrpas y digwyddiadau hyn fydd i gyflwyno i ymarferwyr y cynnydd sydd wedi digwydd ers 2 Chwefror 2011 pan fu’r Gweinidog yn cyflwyno ei gynlluniau i Godi Safonau Ysgolion. Bydd y cyntaf yn y gyfres o ddigwyddiadau yn cymryd lle ar 8 Mawrth 2012 yng Nghanolfan y Cenhedloedd yng Nghaerdydd. Leighton Andrews, Gweinidog Addysg a Sgiliau fydd y prif siaradwr yn y digwyddiad yma. Bydd tair cynhadledd arall yn cymryd lle yn ystod mis Mawrth: 13 Mawrth, Parc y Scarlets; 15 Mawrth - Venue Cymru, Llandudno a’r 20 Mawrth – Prifysgol Morgannwg. Byddwch cystal ag e-bostio i gofrestru’ch diddordeb mewn mynychu un o’r digwyddiadau.
Dylai fod gan bob ysgol uwchradd yng Nghymru aelod o staff addysgu uwch sy'n ymwneud â datblygu'r defnydd o PISA a chwestiynau o fewn arddull PISA i gefnogi addysgu a dysgu yn eu hysgol. Mae 46 ysgol wedi eu cofrestru ar y rhaglen ddatblygu ‘Datblygu Meddwl ac Asesu ar Gyfer Dysgu PISA’. Mynychwyd yr ysgolion yma eu sesiwn rhaglen gyntaf ym Medi 2011, bydd yr ail sesiwn ddatblygu yn y rhaglen yn cael ei gynnal ym mis Chwefror. Mae pob ysgol arall yn cael eu gwahodd i anfon cynrychiolydd i'r gweithdai dilynol un diwrnod.
Bydd y gynhadledd yn bwydo'r Adolygiad Cymwysterau. Fe'i threfnir gan Golegau Cymru mewn partneriaeth a Llywodraeth Cymru. Ei bwriad yw dod ag arweinwyr addysg a hyfforddiant ynghyd i drafod dyfodol cymwysterau 14-19 yng Nghymru.
Ym mis Tachwedd, cafodd pob ysgol uwchradd gyflenwad o ‘Codi Safonau Ysgolion: Canllawiau i rieni a gofalwyr’ a oedd yn cynnwys gwybodaeth am y system bandio ysgolion. Mae’r Adran Addysg a Sgiliau yn gwerthfawrogi’ch barn, a byddem yn fawr ein diolch pe bai modd i chi roi ychydig funudau o’ch amser i ystyried y cwestiynau canlynol. 1) Pa mor fodlon oeddech chi â chynnwys y daflen? 2) A oedd y daflen o gymorth i chi gyfleu gwybodaeth am fandio ysgolion wrth rieni? 3) A gafwyd llawer o ddiddordeb gan rieni? A oeddynt yn gwerthfawrogi’r daflen? 4) Pa mor fodlon oeddech chi â’r modd y bu’r Adran yn cyfathrebu â chi ynghylch bandio ysgolion? 5) Unrhyw sylwadau eraill? Anfonwch eich adborth mewn e-bost i Louise Massaro
Mae Llywodraeth San Steffan wedi torri cwys trwy sefydlu Deddf ‘Cydraddoldeb’ 2010 i gymryd lle 116 o wahanol statudau ym maes cydraddoldeb. Dyma linc â chanllawiau WLGA i’r ysgolion a’r adrannau addysg. Diben y rhain yw rhoi i’r ysgolion wybodaeth a meini prawf y gallan nhw eu defnyddio wrth baratoi’r cynlluniau strategol mae gofyn i’w cyhoeddi yn ôl Dyletswyddau Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus, sydd wedi deillio o Ddeddf 'Cydraddoldeb’ 2010.
Mewn adroddiad a gyhoeddir heddiw, Effaith dysgu oedolion yn y gymuned ar les dysgwyr hลทn, daw Estyn i’r casgliad nad yw dysgwyr dros 65 oed yn gallu manteisio’n ddigonol ar gyfleoedd addysg neu gyfleoedd i ddatblygu medrau a fyddai’n eu helpu i wella ansawdd eu bywyd.
Mae'r Cylch Gwaith y Prif Arolygydd dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru am 2012-13 yn nodi'r cyngor sy'n cael ei gomisiynu gan yr Adran Addysg a Sgiliau (AdAS) yn 2012-2013.
Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yng Nghymru wedi cyhoeddi y bydd yn cynnig cwrs e-ddysgu ‘Lefel 2 mewn Diogelwch a Hylendid Bwyd (Arlwyo)’ i ysgolion yng Nghymru. Mae’r cwrs ar gael yn rhad ac am ddim i ysgolion yng Nghymru, er bod cyllid yn gyfyngedig, a chaiff athrawon eu cynghori i gysylltu â’r ASB os oes diddordeb.
Mae Leighton Andrews, y Gweinidog Addysg, wedi canmol dwy ysgol yn Abertawe sy’n arwain y ffordd ac yn arloesi o ran defnyddio technoleg ddigidol yn yr ystafell ddosbarth.
Mae deall pa sgiliau mae cyflogwyr eu heisiau a'u buddsoddiad mewn sgiliau datblygu gweithle nid yn unig yn hollbwysig i'n lles economaidd, ond yn bwysig ar sail dydd-i-ddydd ar gyfer unigolion a busnesau fel ei gilydd....Mae Llywodraeth Cymru'n dymuno ehangu ac ymestyn y defnydd o Wybodaeth ar y Farchnad Lafur ledled Cymru. Mae hyn yn un o gyfres o erthyglau fydd yn ymddangos yng nghylchlythyr Dysg.
Amcan gwefan Llais Disgyblion Cymru yw cefnogi pobl broffesiynol a disgyblion wrth ddatblygu llais y disgybl effeithiol. Y mae Llywodtaeth Cymru am wybod beth yw eich barn am y wefan, a sut y gellir ei gwella. A wnewch chi gymryd ychydig o funudau i gwblhau'r holiadur hwn erbyn 29 Chwefror 2012? Trwy fynegi eich barn byddwch yn sicrhau bod y wefan yn well byth!
Mae NIACE Dysgu Cymru yn falch i lansio Gwobrau Ysbrydoli! 2012. Gwahoddir enwebiadau ar gyfer tiwtoriaid a dysgwyr eithriadol o addysg bellach, addysg uwch, y gweithle neu'r gymuned. Y dyddiad cau ar gyfer enwebiadau yw Dydd Gwener 10 Chwefror 2012.
Unedau sy’n cynnig clipiau ffilm, tasgau a gemau adolygu yn ymwneud â defnydd diogel o feddyginiaethau milfeddygol. Mae’r gwaith ar gyfer y myfyrwyr hynny sy’n astudio amaeth ôl 16 oed.
(Yn anffodus, nid yw'r erthyglau canlynol ar gael yn y Gymraeg)
Employer ownership of skills: securing a sustainable partnership for the long term (UKCES)
Employer ownership of skills: securing a sustainable partnership for the long term is the UK Commission’s long term vision for skills in England. The paper outlines why skills matter, issues in the current system, our five high level principles for reform, proposals, benefits and a call to action to employers to come forward with their own bold propositions for how they would step up and take responsibility for training.