
Yr wythnos hon, bydd pob ysgol uwchradd yn derbyn cyflenwad o ‘Codi Safonau Ysgolion: Canllaw i rieni a gofalwyr’. Cafodd y canllawiau hyn eu llunio i helpu rhieni i ddeall y system fandio newydd a’r rhesymau dros ei chyflwyno. Rhaid i ysgolion uwchradd ddosbarthu taflenni i bob disgybl gael mynd â hwy adref cyn yr wythnos sy’n cychwyn 5 Rhagfyr, pan fydd yr wybodaeth bandio yn cael ei chyhoeddi. Nodwch ein bod wedi gallu dwyn ymlaen y dyddiad cyhoeddi o’r wythnos yn dechrau 12 Rhagfyr i’r wythnos sy’n dechrau 5 Rhagfyr.
Mae’r canllawiau yn cyfeirio rhieni/gofalwyr at y dudalen www.cymru.gov.uk/hysbysysgolionirieni i gael rhagor o wybodaeth. Byddwn yn cysylltu ag ysgolion uwchradd i gael eu hadborth yn y flwyddyn newydd. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, anfonwch e-bost atom yn SSU@wales.gsi.gov.uk
Mewn araith i lywodraethwyr ysgol yng Ngogledd Cymru mae’r Gweinidog Addysg, Leighton Andrews, wedi siarad am y prif heriau sy’n wynebu ysgolion yng Nghymru. Pwysleisiodd hefyd y gwahaniaeth y gall cyrff llywodraethu gwych ei wneud i berfformiad ysgolion.
Cafwyd cyfle i ddathlu’r dechnoleg ddiweddaraf mewn busnesau blaengar, rhaglenni prentisiaeth pwrpasol sydd wedi’u cynllunio i ateb anghenion gwahanol ddiwydiannau a llwyddiant ysbrydoledig gan unigolion, mewn seremoni wobrwyo fawreddog yng Nghaerdydd neithiwr.
Ym mis Medi 2011, cyhoeddwyd Adolygiad o Gymwysterau gan Ddirprwy Weinidog Sgiliau Llywodraeth Cymru. Bydd yr Adolygiad yn ystyried sut i sicrhau bod y system cymwysterau yng Nghymru yn cael ei deall a’i gwerthfawrogi, a’i bod yn bodloni anghenion pobl ifanc ac economi Cymru. Bydd rhan o’r adolygiad yn ystyried pa un a ddylid graddio Cymhwyster Bagloriaeth Cymru. I ddechrau, rhoddir ystyriaeth i egwyddor graddio. Yn y cyd-destun hwn, fe’ch gwahoddir i lenwi arolwg byr. Nid yw wedi’i fwriadu i fod yn archwiliad manwl o ddulliau graddio. Gellir llenwi’r arolwg mewn ychydig funudau, ar-lein, a gellir cael gafael arno o wefan Llywodraeth Cymru ar 23 Tachwedd
Roedd Deddf Diogelu Grwpiau Hawdd eu Niweidio 2006 yn gosod sylfaen ar gyfer Cynllun Fetio a Gwahardd a fyddai’n cryfhau’r trefniadau ar gyfer y rhai sy’n dymuno gweithio gyda phlant neu oedolion hawdd eu niweidio.
Hoffai Cynulliad Cenedlaethol Cymru glywed barn pobl ifanc i weld pa fudd maent yn ei gael o ddarpariaethau Mesur Dysgu a Sgiliau Llywodraeth Cymru
Mae AdAS wedi ymrwymo i ragori wrth gyfathrebu ac ymgysylltu â chi. Yn sgil derbyn canlyniadau Arolwg Rhanddeiliaid 2010, rydym wedi paratoi ffurflen adborth gryno i ymchwilio ymhellach i’r hyn yr ydych chi’n ystyried yw cryfderau a gwendidau’r Adran. Byddem yn gwerthfawrogi, felly, pe byddech yn gallu neilltuo ychydig funudau i lenwi’r ffurflen gyfrinachol hon.
Yn dilyn arolwg Estyn ym Mai 2011, mae’r Coleg yn falch o gyhoeddi y bydd yn cynnal cynhadledd ddydd Llun 28 Tachwedd i ledaenu’r arfer da a gydnabuwyd gan Estyn fel ‘Rhagorol’ yn ei arolwg o ddarpariaeth y Coleg.
Mae e-skills UK, y Cyngor Sgiliau Sector ar gyfer Technoleg a Busnes wedi lansio ei gwefan Gyrfaoedd gyntaf erioed ar gyfer Technoleg Gwybodaeth yng Nghymru, Uchelgais Fawr Cymru/BigAmbition Wales.Gall myfyrwyr, athrawon a chynghorwyr gael gwybodaeth ar y cyfleoedd sydd ar gael gyda gyrfaoedd mewn technoleg gwybodaeth mewn amrywiaeth o gwmnïau, yn cynnwys y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, cwmnïau amddiffyn a llawer mwy.
Erbyn diwedd yr uned dylai'r disgyblion ddeall bod testun cyfryngol wedi ei lunio yn ofalus ac yn fwriadol er mwyn targedu cynulleidfa arbennig, ac i sicrhau ymateb penodol.
Cyfres o adnoddau i gefnogi addysgu Calcwlws i fyfyrwyr sy’n astudio Mathemateg Ychwanegol neu Fathemateg Uwch/UG.
(Yn anffodus, nid yw'r erthyglau canlynol ar gael yn y Gymraeg)
STEMNET’s vision is to increase young people’s choices and chances through science, technology, engineering and mathematics (STEM).
There has been a significant increase in the number of pupils being entered early for GCSEs particularly in mathematics and English. Whilst there has been a long history of this practice for the highest achieving pupils, the trend is increasing for pupils of all abilities. For many, this can be detrimental to their overall performance.