
Mae Leighton Andrews, y Gweinidog Addysg a Sgiliau, wedi cyhoeddi'r cynigion ar gyfer gwneud newidiadau i ddulliau cofrestru'r gweithlu addysg ehangach ar draws Cymru, a hynny er mwyn codi safonau proffesiynol. Ar hyn o bryd, dim ond athrawon cymwysedig sy'n gorfod cofrestru gyda Chyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (CyngACC) a chael eu rheoleiddio ganddo. Fel rhan o'i gynllun gweithredu 20 pwynt i godi safonau addysg, mae Mr Andrews bellach yn cynnig ehangu'r gofyniad i gynnwys addysg bellach, dysgu seiliedig ar waith, cynorthwywyr addysgu ac o bosibl, gweithwyr ieuenctid a staff cymorth eraill.
Yn dilyn adroddiadau a ryddhawyd gan bapur newydd y Daily Telegraph am seminarau arholi a gynhaliwyd gan y byrddau arholi, mae'r Gweinidog Addysg wedi cyhoeddi bod adolygiad i'w gynnal o strwythur y farchnad cymwysterau cyffredinol yng Nghymru. Bydd yr adolygiad yn edrych ar yr effaith y mae strwythur y farchnad yn ei chael ar safonau mewn cymwysterau TGAU a Safon Uwch, a bydd yn mynd ati hefyd i asesu pa mor effeithiol yw'r strwythur hwnnw – gan nodi’r opsiynau ar gyfer ei newid a chan gyflwyno argymhellion.
Yn eu cyfarfodydd diweddar, cytunodd Bwrdd Coleg Llandrillo Cymru a Bwrdd Coleg Menai, ill dau, i uno'r ddau Goleg yn ffurfiol a llunio'r Grŵp Llandrillo-Menai newydd. Mae Llywodraeth Cymru yn nodi'r datblygiadau mewn perthynas â'r uno. Caiff unrhyw benderfyniad ei wneud gan y Gweinidog, gyda hyn.
Mae adroddiad diweddar yn anfon neges gadarnhaol iawn i bobl ifanc ynglÅ·n â gwerth hirdymor cymwysterau galwedigaethol fel NVQ, BTEC a City & Guilds, yn ogystal â manteision dilyn prentisiaethau. Mae'r adroddiad yn dangos yr effaith gadarnhaol y mae'r rhan fwyaf o gymwysterau galwedigaethol yn ei gael ar gyflogaeth a chyflogau, gan adlewyrchu canfyddiadau ymchwil blaenorol.
Mae'r ddogfen hon yn crynhoi'r ymatebion a gafwyd i ymgynghoriad ynghylch cynigion Llywodraeth Cymru i ddiwygio Rheoliadau Arfarnu Athrawon Ysgol (Cymru) 2002 (fel y'u diwygiwyd) er mwyn atgyfnerthu trefniadau rheoli perfformiad ar gyfer athrawon a phenaethiaid. Crynodeb o’r ymatebion a fwy o wybodaeth ar yr ymgynghoraiad.
Mae'r rhifyn newydd o Addysgu Cymru ar gael i'w ddarllen. Ceir nifer o erthyglau yn cynnwys adroddiad ar 'Ddysgu drwy lygaid disgyblion' - Darlith Addysg Cymru 2011 gan Comisiynydd Plant Cymru, Keith Towler.
Mae arian ar gael i athrawon a phenaethiaid ymweld ag ysgol bartner mewn unrhyw wlad a ystyrir yn gyrchfan pell (h.y. y tu allan i Ewrop). Diben yr ymweliad fyddai sefydlu partneriaeth yn seiliedig ar y cwricwlwm neu ddatblygu cysylltiad sydd eisoes yn bodoli. Gellir ariannu costau teithio, bwyd a llety. Uchafswm y grant a roddir i bob person am ymweliad yw £1000.
Mae JISC Advance yn dod â chyfres fer o ddigwyddiadau ar-lein i chi'n gynnar yn 2012 sy'n mynd i'r afael â thema allweddol Effeithlonrwydd Cost. Bydd y digwyddiadau hyn o ddiddordeb i Reolwyr, Staff Uwch a Gwneuthurwyr Polisi o bob sector addysg Ôl-16 drwy gydol y DU. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â RSC Cymru
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i atal iechyd gwael a lleihau anghydraddoldebau iechyd. Fel rhan o hyn rydym yn bwriadu cyflwyno Bil ar gyfer Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd statudol.
Mae Cyrsiau yng Nghymru yn adnodd chwilio ar y we sy'n rhoi gwybodaeth ar gyfleoedd dysgu ôl-16. Mae cynghorwyr, unigolion a busnesau'n gallu defnyddio'r adnodd chwilio drwy wefan Gyrfa Cymru ac mae'n rhoi gwybodaeth benodol i ymwelwyr ar yr ystod o gyfleoedd i gael hyfforddiant a dysgu yng Nghymru.
Cynhaliwyd yr arolwg yn ystod 2010, ac aseswyd llythrennedd a rhifedd cyffredinol oedolion (16-65 oed) yng Nghymru (trwy gyfrwng Saesneg), a sgiliau llythrennedd Cymraeg oedolion Cymraeg eu hiaith (16-65 oed) yng Nghymru.
(Yn anffodus, nid yw'r erthyglau canlynol ar gael yn y Gymraeg)
UK Employer Skills Survey 2011 (ESS 2011) provides for the first time UK-wide data on employer demand for labour, skill deficiencies and investment in skills. This First Findings report provides early sight of results across the UK in 2011 at a UK-wide level only. Wales-level information will be available in the more detailed Main Report, to be published in Spring 2012, alongside separate National Reports focussing on key findings for England, Wales, Scotland and Northern Ireland.
Working Futures 2010-2020 is the fourth in a series of reports providing a detailed assessment and projections of the labour market for the UK, Wales, Scotland, Northern Ireland and the English regions. It considers patterns of employment and productivity in terms of the historical trend and future projections for the growth and decline of industries and occupations, and the implications for skills.
A report published today by Ofsted has found that achievement in information, communication and technology (ICT) was inadequate in almost a fifth of the secondary schools visited.