
Yr wythnos ddiwethaf anfonodd Llywodraeth Cymru gwybodaeth fandio dros dro ar gyfer ysgolion ac awdurdodau lleol trwy gyfrwng ‘DEWi’ - Menter Cyfnewid Data Cymru. Ceir mwy o wybodaeth ar wefan Llywodraeth Cymru.
Rydym wedi llunio adroddiad blynyddol i ysgolion sy’n cynnwys dolenni ar y we i ddogfennau sydd wedi’u llunio ar gyfer ysgolion a’u cyrff llywodraethu yn ystod y flwyddyn academaidd ddiwethaf (2010-11). Nod yr adroddiad yw dwyn ynghyd yr holl ganllawiau sydd wedi’u cynhyrchu yn un ddogfen hawdd ei defnyddio ar gyfer eich ysgol a chyrff llywodraethu.
Mae degfed arolwg blynyddol ar sut mae prifysgolion yn gweithio gyda busnes ac yn cynhyrchu busnes yn dangos eu bod yn parhau i wneud cyfraniad sylweddol i economi Cymru. Datganiad i’r wasg ac Arolwg Rhyngweithiad Addysg Uwch â Busnes a'r Gymuned
Mae cylch newydd o geisiadau wedi dechrau bellach o dan adain Prosiect Ysgolion Cymru-Tsieina ar gyfer ysgolion ledled Cymru sydd am gael eu hystyried ar gyfer statws “Ystafell Ddosbarth Confucius”. Y nod yw hybu dysgu ac addysgu Tsieineeg Mandarin.
Mae Llywodraeth Cymru yn dymuno ehangu ac ymestyn y defnydd o wybodaeth am y farchnad lafur (LMI) ar draws Cymru. Mae prosiect newydd gan Lywodraeth Cymru yn ymateb i’r cais am help i ganfod eu ffordd drwy’r farchnad lafur cynyddol gymhleth ac am fynediad rhwyddach, cliriach a gyda mwy o gyfeiriad i’r wybodaeth a ddadansoddwyd ac a ddehonglwyd. Hoffem glywed gennych os oes gennych unrhyw sylwadau am y mathau o LMI sydd o werth i chi yn eich gwaith a sut y bu LMI o fudd i chi.
Datblygwyd y Polisi Cwynion Enghreifftiol a Chanllawiau ar gyfer y gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru gan Grŵp Cwynion Cymru o dan gadeiryddiaeth Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Dylid edrych ar y Polisi fel canllawiau anstatudol sydd wedi’i ddatblygu ar gyfer cydweithwyr sy’n ymdrin â chwynion sy’n ymwneud â gwasanaethau cyhoeddus. Y canllawiau cyfatebol perthnasol ar gyfer ysgolion yw Cylchlythyr Cynulliad Cenedlaethol Cymru 03/2004 Gweithdrefnau Cwyno Cyrff Llywodraethu Ysgolion. Mae’r cylchlythyr hwnnw yn cael ei ddiweddaru ar hyn o bryd er mwyn ystyried y Polisi Enghreifftiol a chaiff y fersiwn ddiweddaraf ei chyhoeddi yn hwyrach eleni.
Mae Pŵer Darllen yn rhoi’r offer sydd eu hangen ar fyfyrwyr i fod yn ddarllenwyr mwy meddylgar ac ystyrlon yn ogystal â gwybod sut i fod yn “fetawybyddol” neu’n ymwybodol o’u sgiliau meddwl wrth iddyn nhw ddarllen. Mae datblygu “iaith gyffredin ar gyfer meddwl” drwy eu blynyddoedd ysgol yn elfen allweddol o’r dull hwn, tra bo athrawon yn dysgu pwysigrwydd defnyddio’r iaith hon ym mhob agwedd ar eu haddysgu. £85 y cynrychiolydd. I gadw lle anfonwch e-bost at Paul Booth.
Mae'r rhaglen, a ariennir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, mewn partneriaeth â CholegauCymru, yn rhoi cyfle i ddarlithwyr Addysg Bellach yng Nghymru brofi arfer addysgol da mewn gwledydd gwahanol ledled y byd.
Mae Estyn yn cynnig cyfle cyffrous i ddod yn arolygydd cymheiriaid i uwch athrawon profiadol a rheolwyr mewn ysgolion ac unedau cyfeirio disgyblion. Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw 2:00pm ar 6 Hydref.
CLIC yw'r Gwasanaeth Gwybodaeth a Chyngor Cenedlaethol i Bobl Ifanc 11-25 oed yng Nghymru. Darllenwch y rhifyn diweddaraf o CLICZINE sy'n cynnwys yr wybodaeth ddiweddaraf, storïau, cystadlaethau a digwyddiadau.
(Yn anffodus, nid yw'r erthygl canlynol ar gael yn y Gymraeg)
This publication provides an overview of the development of schools counselling to help school leaders and practitioners to develop the services in their institutions.
Disgyblion sy'n Derbyn Addysg Heblaw yn yr Ysgol, 2010/11
Cyfres o storïau rhyngweithiol sydd yn annog y dysgwyr i ystyried sut y gall stori newid wrth ei dweud o safbwynt cymeriad arall.
Adnodd rhyngweithiol sy’n caniatáu disgyblion i astudio cyfieithu’r Beibl i Gymraeg gan William Morgan. Mae’r adnodd yn ymdrin ag achos a chanlyniadau, yn cynorthwyo’r disgyblion wrth astudio ffynonellau hanesyddol ac yn cynnig cyfleoedd i ddatblygu sgiliau meddwl.
(Yn anffodus, nid yw'r erthyglau canlynol ar gael yn y Gymraeg)
This report draws together research which aims to provide a deeper understanding of young people’s attitudes to science education, particularly regarding the value young people place on science education.
This report, looks at national policies on access to higher education, funding and student support.
The drive to further support and improve outcomes for parents and young people is the focus of the 2011 DfE Green Paper on special educational needs (SEN) and Disability. Its proposals have a strong emphasis on local decision making and autonomy and reflect the government’s localism agenda.