
Mae AdAS wedi ymrwymo i ragori wrth gyfathrebu ac ymgysylltu â chi. Yn sgil derbyn canlyniadau Arolwg Rhanddeiliaid 2010, rydym wedi paratoi ffurflen adborth gryno i ymchwilio ymhellach i’r hyn yr ydych chi’n ystyried yw cryfderau a gwendidau’r Adran. Rydym am wybod yn benodol a ydy’r canfyddiadau yn amrywio ar draws y sectorau, er mwyn i ni allu nodi unrhyw welliannau sydd angen i ni eu gwneud, a mynd i’r afael â’r gwelliannau hynny yn effeithiol. Byddem yn gwerthfawrogi, felly, pe byddech yn gallu neilltuo ychydig funudau i lenwi’r ffurflen gyfrinachol hon.
Cyhoeddodd Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru, gynllun newydd gwerth £75 miliwn gan Lywodraeth Cymru a fydd, am y tair blynedd nesaf, yn creu 4,000 o swyddi newydd y flwyddyn yng Nghymru.
Cyhoeddodd Jeff Cuthbert, y Dirprwy Weinidog Sgiliau, gynllun £15 miliwn i helpu dros 10,500 o weithwyr yn y De-orllewin i feithrin sgiliau newydd a rhoi hwb i gynhyrchiant yn y gweithle.
Gweler yn amgaeedig gyflwyniad PowerPoint gyda nodiadau areithio. Gall ysgolion, awdurdodau lleol a grwpiau rhanddeiliaid ddefnyddio’r rhain i godi ymwybyddiaeth am y broses bandio.
Daeth y Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol Llywodraethwyr Ysgolion (Cymru) 2011 i rym ym mis Medi 2011. Maent yn cynnwys rhai categorïau newydd o wybodaeth i’w chyhoeddi yn adroddiad blynyddol y llywodraethwyr i rieni. Ceir mwy o wybodaeth ar dudalen 19 o’r rheoliadau ynghylch adrodd am wybodaeth am yr ysgol ac am ddisgyblion: canllawiau cryno
Mae’r ddogfen hon yn cynnwys strategaeth a dulliau ar gyfer arolygu llythrennedd mewn addysg bellach a dysgu yn y gwaith. Mae’n ddogfen fewnol sy’n dod â’r holl ddarnau o arweiniad a chymorth o arolygon blaenorol ar fedrau darllen ac ysgrifennu at ei gilydd, yn ogystal ag arweiniad ar arolygu medrau.
Ydych chi’n athro cynradd neu uwchradd, ddarlithiwr Addysg Bellach neu hyfforddwr yn y gweithle sydd eisiau gwella eich sgiliau llafar ac ysgrifenedig yn yr iaith Gymraeg? Beth am fynychu cwrs dysgu o bell gyda chyfnodau preswyl wedi ei achredu gan Brifysgol Bangor ar lefel 6? Mae’r cwrs am ddim a bydd Llywodraeth Cymru yn ad-dalu costau cyflenwi, llety a theithio. Bydd y cwrs yn rhedeg rhwng 9 Ionawr a’r 30 Fawrth 2012. Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru yw’r 4 Tachwedd. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â’r Tîm Sabothol ar 01443 663770 neu e-bost: cynllunsabothol@cymru.gsi.gov.uk
A hoffech chi gael gwasanaeth asesydd cymheiriaid sydd wedi’i hyfforddi i helpu gyda’ch arolwg mewnol? Mae gan ColegauCymru gronfa ddata sy’n cynnwys manylion 169 o Aseswyr Cymheiriaid y sector ôl-16. Mae pob aelod o staff cofrestredig wedi cwblhau’r rhaglen Hyfforddiant i Aseswyr Cymheiriaid yn ddiweddar, a gall darparwyr addysg bellach, dysgu seiliedig ar waith a’r sector dysgu yn y gymuned eu defnyddio. Dylai darparwyr gysylltu â hello@collegeswales.ac.uk i ddod o hyd i unigolion addas ar y gronfa ddata i helpu i ddod â safbwynt allanol i’w prosesau sicrhau ansawdd.
(Yn anffodus, nid yw'r erthygl canlynol ar gael yn y Gymraeg)
This circular gives the initial teacher training intake targets for the sector for 2012/13.
Mae’r prosiect FILMCLUB, sy’n derbyn cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru, yn helpu ysgolion sefydlu clybiau ffilm. Mae’r rhifyn arbennig hwn o’r cylchgrawn FILMCLUB yn canolbwyntio ar Gymru ac yn cynnwys erthyglau ar ffilmiau o Gymru, neu ffilmiau sydd â chyswllt Cymreig ynghyd â gwybodaeth am actorion o Gymru.
Pennodd Uned Addysg Ariannol Cymru (UAAC) raglen ddwy flynedd o waith ar gyfer 2009-2011. Yn dilyn gwerthusiad annibynnol o gynnydd yr Uned, mae’r Gweinidog Addysg a Sgiliau wedi cytuno y bydd UAAC yn parhau i weithredu, i helpu i roi addysg ariannol ar sail gadarn mewn ysgolion. Cewch wybodaeth am secondiad o 19 mis fel arbenigwr 11-19 o fewn UAAC. Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw 28 Hydref 2011. Yn ogysal, ceir cyfle am Arbenigwr yn yr Oedran Cynradd.
Cyfres o adnoddau sydd yn edrych ar Sir Y Fflint yn ystod yr 19fed ganrif a'r 20fed canrif cynnar
Mae yna 5 problem wedi eu creu o fewn PowerPoint ac mae pob cwestiwn yn rhoi help llaw neu yn cynnig awgrym neu gliw ar sut i daclo'r broblem. Mae’r atebion hefyd yn cael eu darparu.
(Yn anffodus, nid yw'r erthyglau canlynol ar gael yn y Gymraeg)
An Ofsted report has identified the factors which have helped colleges improve the quality of their science provision, or maintain high standards, and makes recommendations for further improvement.
The OECD Programme for International Student Assessment (PISA) aims to compare the abilities of pupils across participating OECD member states and partner countries to analyse, reason and communicate their ideas affectively.