
Bydd ymgyrch hysbysebu yn ymddangos ledled Cymru i gynghori plant a phobl ifanc sy'n cael eu bwlio i siarad â rhywun neu gysylltu â llinell gymorth eiriolaeth meic am gymorth. Y ffocws ar gyfer wythnos Gwrth-fwlio eleni yw ar seiberfwlio a bwlio rhywiol. Mae'r canllawiau diwygiedig Gwrth-fwlio ar gyfer ymarferwyr a rhieni hefyd ar gael. Posteri Gwrth-fwlio a mwy o wybodaeth
Ar Ddiwrnod Cenedlaethol Cyllid Myfyrwyr, mae Leighton Andrews, y Gweinidog Addysg, wedi amlinellu sut y bydd Llywodraeth Cymru yn darparu £3.6 biliwn er mwyn cynorthwyo myfyrwyr gydol tymor y Cynulliad hwn.
Ar 08 Tachwedd gwnaeth y Gweinidog dros Addysg a Sgiliau Ddatganiad llafar yn y Siambr.
‘Ar 21 Mehefin 2011 cyhoeddais gynigion ar gyfer ariannu addysg uwch rhan-amser ynghyd â phecyn newydd o gymorth ar gyfer myfyrwyr israddedig rhan-amser sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru. Nod y cynigion yw sicrhau rhagor o gydraddoldeb rhwng myfyrwyr amser llawn a myfyrwyr rhan-amser o ran cymorth â ffioedd dysgu.’
Capasiti ysgol yw nifer y disgyblion y gall gynnig eu haddysgu. Mae’r canllawiau hyn yn disgrifio’r dull o asesu capasiti ysgolion cynradd ac uwchradd a phennu’r niferoedd derbyn priodol yn seiliedig ar y capasiti.
Mae’r Gweinidog Addysg a Sgiliau wedi gofyn i Janet Hayward, Pennaeth Ysgol Gynradd Cadoxton, gadeirio grŵp gorchwyl a gorffen i ystyried sut orau i ddefnyddio addysg ddigidol i wella profiadau dysgwyr a chydweithredu ymhlith athrawon. Mae Janet yn awyddus i dderbyn sylwadau a safbwyntiau o bob rhan o addysg a hyfforddiant yn cynnwys: 1) Sut ddylai cynnwys digidol Cymraeg a Saesneg hygyrch o’r radd flaenaf gael ei ddatblygu ar gyfer yr ystafell ddosbarth? A 2) Sut ddylai athrawon gael y sgiliau addysgu digidol i ddefnyddio TGCh i weddnewid ysgolion? Os hoffech rannu’ch sylwadau a’ch profiadau, anfonwch eich atebion at y blwch post. Y dyddiad cau ar gyfer derbyn sylwadau yw 6 Ionawr 2012.
Mae'r ymgynghoriad hwn yn gofyn am sylwadau ar gynigion i gyflwyno ar sail cyflogaeth diwygiedig Cynllun Hyfforddi Athrawon i ddod i rym o 1 Medi 2013.
Mae'r ddarpariaeth sy’n gosod dyletswydd ar ysgolion ac awdurdodau lleol i ddarparu cymhorthion ategol yn rhan o’u dyletswydd i wneud addasiadau rhesymol ar gyfer plant anabl.
Yn ystod y cyfnod o 2007 i 11, roedd tua hanner y darparwyr a fu’n ddarparwyr arweiniol wedi gweithio gyda’u hisgontractwyr yn effeithiol. Roedd y darparwyr arweiniol da hyn yn nodi ac yn rhannu arfer dda yn arbennig o effeithiol ar draws yr holl sefydliadau ag isgontract.
Dyma’ch cyfle olaf i drefnu lle ar Wobrau Prentisiaethau Cymru a Chynhadledd Flynyddol NTfW – Sefyll i Fyny dros Sgiliau, a gynhelir yr wythnos hon yng Ngwesty’r Mercure Holland House, Ffordd Casnewydd, Caerdydd. Dyfernir y Gwobrau nos Fercher 16 Tachwedd a chynhelir y Gynhadledd ddydd Iau 17 Tachwedd. I gael mwy o wybodaeth a ffurflen archebu lle cliciwch ar y dolenni canlynol, Gwobrau Prentisiaethau Cymru a Cynhadledd Flynyddol NTfW.
Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) wedi ei fabwysiadu gan Lywodraeth Cymru ac ers Mai 2011 Cymru yw’r unig wlad o fewn y DU i ymgorffori’r Confensiwn o fewn ei chyfraith ddomestig. Mae’n diogelu hawliau dynol pob plentyn o dan 18 oed. Beth am gynnal gwasanaeth arbennig yn eich ysgol i ddysgu am y Confensiwn i eraill? Mae digon o adnoddau ar gael ar wefan Llais Disgyblion Cymru a Gwneud Pethau’n Iawn.
I ddathlu 200 mlynedd ers genid Charles Dickens mae gwahoddiad i ysgolion gyda cysylltiadau neu ddidordeb mewn Tseina i gymrud rhan yn gweithdai i gymharu themau yn gwaith Dickens gyda rhai yn llenyddiaeth cyfoes Tseinieg. Am rhagor o wybodaeth.
Mae'r Pecyn Celf yn cynnwys llyfr athrawon 16 tudalen sy’n cynnwys gweithgareddau y gellir eu llungopïo. Mwy. Am fwy o wybodaeth am gyhoeddiadau newydd, ewch i adran Llyfrau Newydd ar gwales.com
(Yn anffodus, nid yw'r erthyglau canlynol ar gael yn y Gymraeg)
The STRB considers aspects of teachers’ pay and conditions for just under half a million teachers and school leaders in England and Wales. Its work has a direct impact on teachers and through them on the education of children. More information on applying to become a Member or Chair
As part of the survey, children in school years 7 to 13 (aged 11 to 18) were asked questions about the types of bullying they had experienced over the last 12 months and why they think they may have been bullied.
This study was commissioned by BIS to determine the type of information that would most effectively support learners, employers and advice and guidance intermediaries in making choices about post-16 provision.