
Cyhoeddodd y Gweinidog dros Addysg a Sgiliau yn ei araith ym mis Chwefror y byddem yn cyflwyno prawf darllen cenedlaethol, a hefyd yn datblygu cynlluniau tebyg ar gyfer rhifedd, yn rhan o’n Cynllun Llythrennedd Cenedlaethol. Bydd y Profion Darllen a Rhifedd Cenedlaethol yn cael eu rhoi ar waith yn statudol; bydd y grwpiau cyntaf o ddysgwyr yn sefyll y profion ym mis Mai 2013.
Cafodd gwybodaeth bandio ar gyfer pob ysgol uwchradd yng Nghymru ei chyhoeddi gan Lywodraeth Cymru. Datganiad i’r wasg, bandio Ysgolion Uwchradd a’r Methodoleg Bandio Ysgolion Uwchradd.
‘Yr wyf wedi gweld yr adroddiadau a gyhoeddwyd gan bapur newydd y Daily Telegraph mewn perthynas â’r seminarau arholi a gynhaliwyd gan y byrddau arholi, CBAC yn benodol, lle ymddengys bod gwybodaeth am bynciau a chwestiynau arholiadau sydd i’w cynnal yn y dyfodol wedi cael ei rhyddhau. Mae’r cyhuddiadau hyn yn rhai difrifol iawn’.
Mae ffurflen gais ar gyfer rhaglen CPCP 2011-2012 ar gael nawr yma. Fe fydd canllawiau ar gyfer ymgeiswyr hefyd ar gael yn fuan yn yr un lle.
Bydd cyfres o bedwar gweithdy rhanbarthol yn cael ei gynnal ym mis Chwefror 2012. Bydd y gweithdai yn darparu cyngor a chymorth ymarferol i ddeall arddull, pwrpas a lefel her yr asesiadau PISA a sut mae deunyddiau o fewn arddull PISA yn cael eu defnyddio bob dydd fel rhan o ddysgu ac addysgu mewn ysgolion uwchradd, i fedru paratoi dysgwyr yn well ar gyfer y math hwn o asesiad i gefnogi addysgeg fwy eang. Gwahoddir ysgolion uwchradd i’r gweithdai perthnasol yn eu rhanbarth drwy gonsortia rhanbarthol. Bydd rhagor o wybodaeth a'r newyddion diweddaraf yn ymwneud ag asesiadau PISA 2012 ar gael ar yn y cylchlythyr hon yn y dyfodol, fodd bynnag, os oes gennych ymholiadau pellach, anfonwch e-bost atom.
Mae’r Dirprwy Weinidog Sgiliau wedi cyhoeddi enwau aelodau’r Bwrdd Prosiect Adolygu Cymwysterau 14-19.
Mae Llywodraeth Cymru’n ymgynghori ar gynigion i gyflwyno rheoliadau wedi’u diweddaru i ddisodli Rheoliadau Addysg (Cymwysterau Athrawon Ysgol) (Cymru) 2004. Mae’r ymgynghoriad yn cynnig newid rhai o’r gofynion ar gyfer cydnabyddiaeth fel athro/athrawes cymwysedig yng Nghymru.
Nod y gynhadledd rhad ac am ddim yw rhoi fforwm i athrawon profiadol i ystyried y math o Ddatblygiad Galwedigaethol Parhaus angenrheidiol i alluogi athrawon Mathemateg, Ffiseg a Chemeg i wella profiad y myfyriwr. Mae nifer y lleoedd yn gyfyngedig, felly os oes gennych ddiddordeb, e-bostiwch m.r.boex@swansea.ac.uk i gadw eich lle.
Cafodd y seremoni ei chynnal yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar 19 Tachwedd. Bwriad y gwobrau yw cydnabod ymdrechion y bobl ifanc yng Nghymru. Roedd dros 200 o bobl broffesiynol ym maes ieuenctid a phobl ifanc dros Gymru yn y digwyddiad. Y gwestai arbennig oedd Dirprwy Weinidog Sgiliau Cymru, Jeff Cuthbert, a fu'n cyflwyno araith fer ac yn cyflwyno'r Wobr am CLICiwr y Flwyddyn.
Cyfres o adnoddau rhyngweithiol i ymdrin â’r rhan fwyaf o’r agweddau canlynol, Grymoedd, Momentau a Gwasgedd ar bob lefel o ddatblygiad a gallu.
Adnoddau sy’n gymorth i fyfyrwyr sydd yn astudio ar gyfer cymhwyster lefel 2 mewn Peirianneg Fecanyddol a Gweithgynhyrchu. Bydd gan y myfyrwyr hyn brofiad o weithgynhyrchu ar safon TGAU neu gyffelyb.
(Yn anffodus, nid yw'r erthygl canlynol ar gael yn y Gymraeg)
Marking International Volunteering Day, Ofsted has published Choosing to volunteer, a survey of what works best in engaging young people in volunteering within schools, colleges and in the community.