
Mae’r Adran dros Addysg a Sgiliau wedi diwygio sawl set o reoliadau sy'n ymwneud ag adrodd i rieni, y System Drosglwyddo Gyffredin, Adroddiadau Blynyddol Llywodraethwyr, Prosbectysau ysgolion a Gosod targedau i ysgolion. Daeth y rheoliadau newydd a diwygiedig i rym ar 1 Medi 2011.
Mae'r ymgynghoriad hwn ymhlith rhanddeiliaid yn gofyn am eu sylwadau ar y newidiadau arfaethedig i'r polisi o ran ariannu addysg uwch a chymorth ariannol ar gyfer astudio'n rhan amser yn 2012/13. Cyflwynwch eich sylwadau erbyn 03 Hydref 2011.
Mae'r canllawiau diweddar yn mynd i'r afael â dyletswyddau ychwanegol sefydliadau statudol, yn enwedig o ran tlodi plant, yn sgil Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010. Mae'r canllawiau hyn yn cyd-fynd â Cynllunio ar y Cyd i Wella Canlyniadau (2007) a Partneriaethau Cryfach i Wella Canlyniadau (2006), sy'n delio â dyletswyddau o dan Ddeddf Plant 2004. Mae'r canllawiau gwreiddiol yn dal i fod yn berthnasol.
Mae arian ar gael i athrawon a phenaethiaid ymweld ag ysgol bartner mewn unrhyw wlad a ystyrir yn gyrchfan pell (h.y. y tu allan i Ewrop). Diben yr ymweliad fyddai sefydlu partneriaeth yn seiliedig ar y cwricwlwm neu ddatblygu cysylltiad sydd eisoes yn bodoli. Gellir ariannu costau teithio, bwyd a llety. Uchafswm y grant a roddir i bob person am ymweliad yw £1000.
Sarah Dickins, sef un o gyflwynwyr BBC Radio Wales a Good Morning Wales, fydd wrth y llyw ar y diwrnod. Bydd y digwyddiad unigryw hwn, sydd am ddim ac a gynhelir yn ystod y dydd, yn dwyn ynghyd siaradwr busnes proffil uchel. Mi fydd cyfle i rwydweithio a dathlu cyflawniadau sefydliadau rhagorol sydd wedi buddsoddi mewn datblygu sgiliau.
Lansiwyd y Fframwaith Ansawdd ac Effeithiolrwydd ar gyfer dysgu ôl-16 ym mis Mawrth 2009. Gan adeiladu ar drefniadau sicrhau ansawdd blaenorol, ei nod yw sefydlu cyfres o ddangosyddion symlach y gellir eu defnyddio i fonitro perfformiad darparwyr. Mae'r adroddiad hwn yn crynhoi'r cynnydd a wnaed yn 2010/11, ail flwyddyn y Fframwaith.
Mae’r diweddariad isod yn darparu’r newyddion addysgol diweddaraf a chrynodeb o wybodaeth am gyhoeddiadau a digwyddiadau cyfredol, ac yn y dyfodol.
Dyma’r ail ddigwyddiad o’i fath a daw ynghyd â gwneuthurwyr polisi Llywodraeth Cymru a’r Dirprwy Weinidog dros Sgiliau, cyflogwyr, Bwrdd Cyflogaeth a Sgiliau Cymru, ynghyd â phersonél allweddol o’r sector Addysg Bellach ac Addysg Uwch sy’n darparu cyrsiau TG/cyfrifiadureg.
CLIC yw'r Gwasanaeth Gwybodaeth a Chyngor Cenedlaethol i Bobl Ifanc 11-25 oed yng Nghymru. Darllenwch y rhifyn diweddaraf o CLICZINE sy'n cynnwys yr wybodaeth ddiweddaraf, storïau, cystadlaethau a digwyddiadau.
Mae gwersi Addysg Bersonol a Chymdeithasol (ABCh) CLIC ar gael ar wefan ProMo-Cymru. Mae cyfanswm o ddeg cynllun gwers: pump ar gyfer Cyfnod Allweddol 3 a phump ar gyfer Cyfnod Allweddol 4. Mae'r cynlluniau gwersi manwl hyn yn cydymffurfio â'r Fframwaith ABCh ar gyfer plant a phobl ifanc 7 i 19 oed yng Nghymru ac yn gofyn ichi ddefnyddio gwefan CLIC i archwilio'r pynciau o fewn y cwricwlwm ABCh.
Mae’r adnoddau rhyngweithiol wedi’u cynllunio i ategu adolygu, hybu trafodaeth a helpu i ddatblygu techneg arholiad ar gyfer myfyrwyr Safon UG/Uwch.
(Yn anffodus, nid yw'r erthygl canlynol ar gael yn y Gymraeg)
The analysis compares how graduates from part- and full-time study fare in the labour market six months and three and a half years after graduation. This is the first time such analysis has been undertaken.