
Heddiw mae’r Gweinidog dros Addysg a Sgiliau, Leighton Andrews, wedi cyhoeddi Papur Gwyn yn gofyn am sylwadau ynghylch y cynigion ar gyfer Bil Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru).
Mae’r gyfres newydd o ganllawiau gwrth-fwlio yn datblygu ar y canllawiau a gafodd eu cyhoeddi yn 2003, ac yn darparu cyngor manwl i ysgolion ar ymateb i fwlio a’i atal. Mae’r canllawiau yn cynnwys enghreifftiau o arfer da, astudiaethau achos a sefyllfaoedd.
Mae’r dudalen hon yn gosod y gofynion statudol ar gyfer asesiad athrawon yn y flwyddyn ysgol 2011/12. Mae’n rhoi gwybodaeth bwysig ynghylch trefniadau asesu statudol yng Nghyfnodau Allweddol 2 a 3. Mae’r cyhoeddiad hwn yn disodli fersiwn 2010/11 o’r llyfryn trefniadau asesu statudol.
Mae’r Cod Teithio wedi bod ar waith ers mis Ionawr 2010. Mae’n rhan annatod o bolisi ymddygiad cyffredinol pob ysgol, a rhaid i bob dysgwr gydymffurfio â’r Cod. Mae cyfrifoldeb ar athrawon, penaethiaid, awdurdodau lleol a rhieni i hyrwyddo ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o’r Cod, ac i ledaenu’r neges bod dilyn y Cod yn gallu arbed bywydau. Rydym wedi datblygu rhai adnoddau a allai fod yn ddefnyddiol i chi. Maen nhw ar gael ar wefan y Cod Teithio a gallwch eu defnyddio mewn gwasanaethau ysgol ac wrth gynllunio gwersi ABCh sy’n addas ar gyfer Cyfnod Allweddol 3 a 4. Mae gan y wefan hefyd rai gweithgareddau sy’n benodol ar gyfer disgyblion, fel Cwis y Cod Teithio ac Arolwg Barn y Cod Teithio sydd i’w cael yma.
Yn dilyn y diweddariad ar fandio ysgolion yr wythnos diwethaf, mae’r ddogfen cwestiynau ac atebion wedi ei diweddaru i gynnwys ymatebion i’r ymholiadau diweddaraf gan ein rhanddeiliaid. Darllenwch fwletin yr Hydref a’r ddogfen Cwestiynau ac Atebion diweddaraf
Bydd gan bobl ifanc yng Nghymru gyfle i ddatblygu sgiliau newydd a magu profiadau drwy gyfres wythnos o hyd o ddigwyddiadau, a fydd yn cael eu cynnal yn hwyrach yn y flwyddyn. Mae’r Wythnos Gwaith Ieuenctid, sy’n cael ei chynnal rhwng 1 a 7 Tachwedd, yn ddathliad blynyddol o rôl gweithwyr ieuenctid a grwpiau ieuenctid yng Nghymru. I ddysgu mwy am yr hyn sy’n digwydd yn eich ardal, ewch i wefan Gwaith Ieuenctid Cymru.
Mae’r arolwg hwn yn cefnogi prosiect a gyflawnir gan Lywodraeth Cymru i hysbysu cynulleidfaoedd ledled Cymru yn well ynghylch Gwybodaeth am y Farchnad Lafur (LMI) a galluogi’r cynulleidfaoedd hynny i ddefnyddio LMI wedi’i ddadansoddi i wneud penderfyniadau deallus.
Cystadleuaeth genedlaethol yw’r ‘Next BRIT thing’ i bobl ifanc rhwng 11 ac 19 oed yn y DU, ac mae’n cael ei chynnal rhwng mis Medi 2011 a mis Mawrth 2012. Mae pobl ifanc yn cael eu gwahodd i lwytho eu perfformiadau ar ffurf sain neu fideo i wefan ‘Next BRIT thing’, gan ddechrau nawr. Bydd y caneuon a fydd wedi derbyn y nifer mwyaf o bleidleisiau erbyn mis Rhagfyr yn mynd gerbron panel o’r diwydiant a fydd yn gwahodd y gorau i berfformio’n fyw mewn 6 rownd derfynol ranbarthol, gan gynnwys rownd derfynol ar gyfer Cymru.
Wrth ganolbwyntio ar gefnogi staff, ac ar eu datblygiad personol, yn ystod diwrnodau hyfforddiant mewn swydd a digwyddiadau i staff, gallwch ddefnyddio’r offeryn di-dâl i wirio sefyllfa ariannol, sy’n offeryn newydd di-dâl ar-lein ar gyfer cynllunio ariannol. Mae’r Gwasanaeth Cynghori Ariannol yn wasanaeth annibynnol ac mae’n helpu pawb i ddeall eu harian yn well. Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r gwasanaeth sydd wedi cael ei gyflwyno i lawer o gyflogwyr yng Nghymru. Rhagor o wybodaeth neu cysylltwch â Tiana yn y swyddfa yng Nghymru i gael rhagor o wybodaeth.
Mae’r linciau i Asiantaeth yr Amgylchedd ac i adnoddau NGfL Cymru yn darparu ffynhonnell o ddata eilaidd ar gyfer ymchwiliadau. Mae’r data yn cynnwys mynediad i lefelau afonydd amser real a chynlluniau rheoli llifogydd.
(Yn anffodus, nid yw'r erthyglau canlynol ar gael yn y Gymraeg)
This research presents findings from the 2011 study to explore the evidence of the programme's impact on young people’s attainment and attendance.
In spring 2010, the UK Commission for Employment and Skills and LSIS came together to explore the implications for colleges and providers of the UK Commission’s proposal for ‘community scorecards’ to be part of an emerging suite of public information to inform choice.
This study was commissioned by the Department for Business, Innovation and Skills (BIS) and undertaken by the University of Warwick Institute for Employment Research (IER). The aim of the study was to investigate the options available for a long-term evaluation of Apprenticeships.