
Cyhoeddwyd adroddiad yn awgrymu sut mae mwy o arian yn gallu cyrraedd gwasanaethau llinell flaen addysg gan y Gweinidog dros Addysg Leighton Andrews. Mae’r adroddiad yn amcangyfrif y gost o weinyddu addysg ar draws Cymru. Mae’n ystyried nifer y bobl sy’n gweithio i weinyddu’r system addysg ac yn arbennig, mae’n nodi’r cyfleoedd sydd ar gael i symud yr adnoddau sydd ar gael i weinyddu’r system addysg i ddarparu gwasanaethau rheng flaen. Datganiad i’r wasg, Adolygiad o’r Gost o Weinyddu’r System Addysg yng Nghymru yr adroddiad, crynodeb gweithredol a’r cefndir
Mae'r Strategaeth Tlodi Plant yn cyflwyno gweledigaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer mynd i'r afael â thlodi plant yng Nghymru a gwella canlyniadau i blant a rhieni sy'n byw mewn teuluoedd incwm isel. Mae'r Cynllun Cyflenwi yn gosod y camau polisi y bydd Llywodraeth y Cynulliad yn eu cymryd i wireddu'r weledigaeth hon. Cyflwynwch eich sylwadau erbyn 12 Awst 2010. Datganiad i’r wasg a’r Dogfen ymgynghori
Y llinell gymorth hon – o’r enw Meic – yw’r un gyntaf o’r fath i gael ei rhoi ar waith ar draws Cymru gyfan. Rhoddwyd dros £450,000 o gyllid Llywodraeth y Cynulliad i’r llinell gymorth, a bydd yn rhoi help i blant a phobl ifanc gyda materion sy’n effeithio arnyn nhw, yn enwedig pan fyddant yn teimlo bod eu barn yn cael ei hanwybyddu neu ei diystyru. Mwy a’r safle we
Mae’r ddogfen hon yn rhoi canllawiau ar gyflawni aliniad rhwng asesu ar gyfer dysgu ac asesu’r dysgu ei hun. Mae asesu effeithiol a’r systemau sy’n sail iddo, yn allweddol i ddysgu ac addysgu o ansawdd uchel, ac i ysgolion llwyddiannus.
Ymwelodd arolygwyr Estyn â 13 o golegau addysg bellach rhwng Mehefin a Medi 2009 i ymgymryd â’r ymchwil ar gyfer yr adroddiad hwn. Adroddiad ac ymateb LlCC
Mae adroddiad a gyhoeddir gan Estyn yn datgelu nad yw llawer o athrawon sydd wedi’u hachredu â’r Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth yn dod yn benaethiaid o fewn tair blynedd o gymhwyso. Datganiad i’r wasg a’r adroddiad
Mae'r erthygl ystadegol hon yn darparu'r prif bwyntiau am y cefndir, methodoleg a chanlyniadau o'r arolwg peilot 2010 llais y dysgwr ar gyfer dysgu ôl-16 (ac eithrio Addysg Uwch).
Mae llawer o ddisgyblion sy’n syrthio nôl gyda’u medrau rhifedd yn gwella o ganlyniad i raglenni dal-i-fyny a gynigir gan ysgolion, yn ôl arolwg gan Estyn. Er bod medrau rhifedd cadarnach gan ddisgyblion ysgolion cynradd na disgyblion ysgolion uwchradd, yn gyffredinol, mae llawer yn ei chael hi’n anodd defnyddio mathemateg sylfaenol a chânt broblemau wrth gyfrifo. Datganiad i’r wasg, yr adroddiad ac ymateb LlCC
Mae asesiadau o dan reolaeth yn rhan o gymwysterau newydd sydd wedi eu cyflwyno ers Medi 2009. Mae’n gofyn i staff canolfannau a chonsortiwm i weithio gyda’i gilydd mewn ffyrdd newydd. Mae ystod o adnoddau wedi eu datblygu gynorthwyo staff swyddfa arholiadau canolfannau i baratoi ar gyfer y newid cyffrous ond heriol hwn.
Mae cyfres arholiadau'r haf wedi dechrau a dyma un o gyfnodau prysuraf y flwyddyn i swyddogion arholiadau. Mae swyddogion arholiadau yn hanfodol o ran sicrhau bod yr arholiadau'n rhedeg yn esmwyth.
Mae menyw ifanc a ddioddefodd anafiadau a niwed i’r ymennydd a oedd yn peryglu ei bywyd, mewn damwain car erchyll wedi cael ei henwi’n Ddysgwr y Flwyddyn yng Ngwobrau Addysg Oedolion Ysbrydoli! 2010.
Mae Dr Tony Jewell, y Prif Swyddog Meddygol, wedi croesawu'r Wythnos Cerdded i'r Ysgol (17 i 21 Mai) sy'n helpu plant i wireddu un o amcanion Newid am Oes sef gwneud un o'u pum sesiwn ymarfer corff 60 munud yr wythnos.
Yn Abertawe, bydd Michael Fullan, arbenigwr addysg rhyngwladol, yn cwrdd â Leighton Andrews, y Gweinidog dros Addysg, i drafod manteision Fframwaith Effeithiolrwydd Ysgolion (FfEY) arloesol Cymru.
Cymwysterau Galwedigaethol, 2008/09
Canlyniadau Arholiadau, 2008/09
Cymaryddion Cenedlaethol ar gyfer Addysg Bellach a Dysgu Seiliedig ar Waith, 2008/09
Mae'r ffigurau newydd yn dangos bod mwy na 10,000 o bobl wedi cael cymorth i barhau mewn gwaith diolch i gynllun ProAct Llywodraeth Cynulliad Cymru.
(Yn anffodus, nid yw'r erthyglau ar gael yn y Gymraeg)
There is a particular underachieving group in many schools which can easily be overlooked, especially when it represents a relatively small proportion of the school’s population.
This overview has been generated from the findings of 17 case studies, the summary reports of which are included in this publication. It distils the key messages from across the studies.
Launched in 2007, efutures is a dedicated website on e-assessment incorporating an online toolkit for e-assessment practitioners. The site is supported by the qualifications regulators, Ofqual, CCEA, SQA and DCELLS and has recently undergone a restructure and redesign incorporating new layers of content and functionality. If you have used e-futures in the past, please note that the address has now changed to www.e-assessment.org.uk.
Containing real practice examples and guidance on evidence gathering for self-evaluation, this publication looks at ways that extended services can support the Sustainable Schools agenda.