
Os hoffech chi ddarllen y cylchlythyr yn Saesneg, cliciwch yma.
Nid yw pwysigrwydd gwella lefelau sgiliau gweithlu Cymru erioed wedi bod mor amlwg. Mae’r diwygio radical ar gymwysterau galwedigaethol a chyflwyno Fframwaith Credydau a Chymwysterau ymatebol, hyblyg a rheoledig sy’n seiliedig ar gredydau yn ddatblygiad pwysig sydd i'w groesawu yng Nghymru. Yn bwysig iawn, mae’r weledigaeth yn gwbl gyson â dyheadau Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru.
Ym mhedwaredd sesiwn Uwchgynhadledd Economaidd Cymru Gyfan daeth arweinwyr busnesau a chynrychiolwyr sectorau allweddol at ei gilydd i adolygu’r camau i fynd i’r afael â’r dirwasgiad.
Mae maint dosbarthiadau ac effaith ffrwynol cwricwlwm rhagnodol yn y DU yn effeithio ar greadigrwydd yn yr ystafell ddosbarth medd y Farwnes Shirley Williams wrth iddi annerch pumed Darlith Addysg Cymru. Cafodd dros 230 o bobl eu denu i glywed Y Farwnes Williams o Crosby yn trafod addysg yng Nghymru, a chafodd ei sylwadau ynglŷn â maint dosbarthiadau dderbyniad gwresog gan y gynulleidfa o athrawon ac addysgwyr o ledled Cymru. Mwy Araith lawn i’w chlywed ar-lein
Mae’r Cynllun Sabothol yn rhoi cyfle unigryw i athrawon, darlithwyr a hyfforddwyr wella’ch sgiliau yn yr iaith Gymraeg, er mwyn ichi allu addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog. Rydym yn recriwtio ar gyfer cyrsiau 2009/10 Am ragor o fanylion cysylltwch gyda’r tîm: Ffôn: 01443 663770;
e-bost:cynllunsabothol@cymru.gsi.gov.uk
Mae un o’r cwmnïau cyntaf yng Nghymru a allai elwa ar gynllun unigryw Llywodraeth Cynulliad Cymru, ProAct, wedi’i gyhoeddi heddiw [dydd Iau 5 Chwefror 2009] yn ystod ymweliad gan Brif Weinidog Cymru. Gallai 100 o staff y cwmni gweithgynhyrchu cydrannau cerbydau modur Japaneaidd, Shimizu, sydd wedi’i leoli’n bennaf yn y Trallwng, gael hyd at £2,000 yr un ar gyfer hyfforddiant a chymhorthdal o £2,000 yr un ar gyfer cyflogau.
Yn 2007, cynhaliodd Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru ymchwil i’r ddarpariaeth sgiliau sylfaenol yn y trydydd sector, a thanlinellodd y canfyddiadau i ba raddau y mae’r sector yn darparu cymorth i ddefnyddwyr gwasanaeth a buddiolwyr ledled Cymru.
Mae e-skills newydd cyhoeddi Cynllun Strategol ar gyfer Cymru 2009-2014'. Mae'r cynllun yn seiliedig ar ganfyddiadau yr adroddiad ymchwil sylweddol a gynhaliwyd yn 2008 'Technoleg yn Cyfri Cymru'.
(Yn anffodus, nid yw'r erthyglau ar gael yn ddwyieithog)
Almost 200,000 workers are set to benefit from training as eleven top firms make the Skills Pledge. Phones4u, Network Rail, BUPA, British Gas and others will commit to support all employees to acquire basic literacy and numeracy skills and work towards their first Level 2 qualification – the equivalent of five good GCSEs – in the areas relevant to their business.
The Qualifications and Curriculum Authority (QCA) has awarded employers Network Rail, Flybe and McDonald's awarding body status. QCA's announcement allows commercial companies the ability to award nationally accredited qualifications to employees, for the first time.
This edition includes an Inside view from Her Majesty's Chief Inspector, Christine Gilbert and an article on sharing good practice to drive improvement
This is a printed newspaper specifically for adult training and Further Education providers. In this issue Talisman focuses on those people not in education, employment and training.
This report details the aspects of provision for leisure, travel and tourism in colleges which enable post-16 learners to make good progress. Between September 2007 and March 2008 inspectors visited 17 colleges where provision in sport, leisure and recreation and travel and tourism had been judged outstanding or good at their most recent inspection. The report gives examples of good practice, and recommendations for improvement are made.
This report examines factors that enable post-16 learners to make good progress in the sector subject area of information and communication technology. Between October 2007 and March 2008, inspectors visited 25 colleges where provision in information and communication technologies had been judged to be good or outstanding at their most recent inspection. The report has examples of good practice and recommendations for further improvement.