
Bwriad y cylchlythyr yw adrodd ar ddatblygiadau polisi ym myd addysg a hyfforddiant ôl-14 yng Nghymru a Lloegr.
Os hoffech chi ddarllen y cylchlythyr yn Saesneg, cliciwch yma.
Mae’r papur ymgynghori hwn yn ceisio safbwyntiau ar y cynnig i roi’r hawl i ofyn am amser i hyfforddi i weithwyr yng Nghymru. Mae’r papur yn ymgynghori ar gynnig i gyflwyno hawl cyfreithiol i weithwyr yng Nghymru i ofyn am amser i hyfforddi. Mae’r ddogfen yn nodi’r hyn a olygir gan ‘weithwyr’ cymwys a’r broses ar gyfer ymgeisio. Mwy
Mae’r cylchlythyr yn cynnwys gwybodaeth ar: Arolygu’r Cyfnod Sylfaen, asesu’r Cwricwlwm Cenedlaethol diwygiedig, arfer orau mewn medrau darllen ac ysgrifennu, Cau’r bwlch rhwng cyrhaeddiad bechgyn a marched. Mwy
Mae canran y disgyblion a gyrhaeddodd o leiaf lefel 5 (y lefel disgwyliedig) yn amrywio o 76.4 y cant mewn Technoleg Gwybodaeth i 54.1 y cant mewn Cymraeg Ail Iaith. Perfformiodd merched yn well na bechgyn ymhob pwnc heblaw Addysg Gorfforol lle perfformiodd bechgyn yn well na merched. Mwy
Mi fydd darlith Addysgu Cymru cael ei chynnal nos Lun 10 Tachwedd yn Amgueddfa ac Oriel Genedlaethol Cymru, Caerdydd. Caiff y Ddarlith, sy’n dwyn y teitl ‘Ysgolion yn y gymuned: wrth galon y newid’, ei thraethu gan y Farwnes Shirley Williams. Mwy
Cyhoeddodd Gweinidogion Llywodraeth Cynulliad y bydd ysgolion ar hyd a lled Cymru yn cael yr offer cyn bo hir a fydd yn gymorth iddynt arbed arian. Wrth lansio DVD a chanllawiau’r Prosiect Cymorth Refeniw Ysgolion, meddai’r Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus, Andrew Davies: Hydref y llynedd tynnais i sylw at y ffaith y gallai £20 miliwn ychwanegol gael ei ryddhau bob blwyddyn er mwyn ei ail-fuddsoddi mewn ysgolion yng Nghymru petai athrawon yn arbed arian wrth brynu cyfarpar pob dydd drwy Brosiect Cymorth Refeniw Ysgolion Llywodraeth Cynulliad Cymru, sef Gwerth Cymru. Mwy
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf mae athrawon o ledled Abertawe wedi bod yn ymchwilio i syniadau addysgu newydd i’w rhannu gyda chydweithwyr proffesiynol yn y rhanbarth. Fe gynhaliodd AALl Abertawe a Phrifysgol Fetropolitan Abertawe ddigwyddiad lledaenu, wedi ei ariannu ar y cyd gyda Chyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (CyngACC), i ganiatáu athrawon cynradd ac uwchradd o ledled y rhanbarth i rannu’r dulliau addysgu gorau yn ogystal ag archwilio syniadau addysgu newydd. Mwy
Mae’r cylchlythyr yn cynnwys gwybodaeth ar yr hyn sy’n digwydd gyda'r Byrddau Gwasanaethau Lleol a Chynllun Gofodol Cymru. Mwy
(Yn anffodus, nid yw'r erthyglau ar gael yn ddwyieithog)
This report evaluates the progress being made in implementing 14–19 reforms, based on visits to 16 local authority areas from April 2007 to March 2008. Partnerships were well established in almost all the areas visited and collaboration was effective in providing a broad range of courses, particularly in Key Stage 4. However, progression from 14 to 19 needs to be made clearer and more coherent, particularly for those on vocational programmes. More
A major new project investigating how employers can make the most of the skills of their workforce was launched today by the UK Commission for Employment and Skills. The Skills Utilisation project aims to identify exactly how employers can maximise the potential of all their staff and achieve more effective skills utilisation in the workplace at the same time as gaining improvements in performance - practices commonly referred to as High Performance Working. More
Triple science is seeing a resurgence in popularity, with a sharp rise in the number of entries for GCSEs in biology, chemistry and physics this year. Nearly 23,000 more students in England took biology this summer compared with 2007 – an increase of nearly 36 per cent. More
This is the first Bulletin aimed at those affected, involved or interested in the developing changes around 16-18 and post-19 funding.. The newsletter will provide: a short update on the progress being made across the pre and post-19 landscape; a look ahead to the key milestones; and Implementation and success stories from regions and groupings. More