
Mae Gwobrau'r Prentisiaeth Fodern - Cymru 2009, yn gwobrwyo prentisiaid, darparwyr dysgu, colegau a chyflogwyr sydd wedi rhagori o ran cyfrannu at ddatblygiad y rhaglen Prentisiaeth Fodern yng Nghymru. Ni chodir tâl am geisiadau a'r dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau wedi'u cwblhau yw 31 Gorffennaf 2009.
Cynhelir gweithdai rhanddeiliaid ar y Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg yng Ngogledd a De Cymru fel a ganlyn: Canolfan yr Holl Genhedloedd, Caerdydd, 6 Gorffennaf a Chanolfan y Techniwm, Bangor, 10 Gorffennaf. Er mwyn cadw lle yn un o’r gweithdai, ffoniwch 02920 694990
O 2009, bydd elfennau o’r Diplomâu newydd 14 i 19 sy’n cael eu datblygu yn Lloegr ar gael yng Nghymru. Oherwydd bod Bagloriaeth Cymru yn gymhwyster sefydledig ac yn un sy’n cael ei barchu yn barod, bydd yr elfennau hyn yn ffitio o fewn Fframwaith Cymhwyster Bagloriaeth Cymru.
Dyma’r wythfed Crynodeb Ystadegau Blynyddyol a gynhyrchwyd gan Gyngor Addysgu Cyffredinol Cymru o’r Gofrestr Athrawon Cymwysedig. Mae’r Gofrestr yn ffynhonnell wybodaeth bwysig ac unigryw am athrawon cofrestredig yng Nghymru.
Mae CCAUC yn cynnal cynhadledd ddi-dâl ar ADCDF i roi gwybod am weithgareddau a blaenoriaethau CCAUC a’r Cynulliad yn y dyfodol. Mi fydd y gynhadledd yn trafod canlyniadau adroddiad SQW Consulting ar arfer gorau, adroddiad archwilio cwricwlwm yr Academi Addysg Uwch, a’r cynnydd a wnaed hyd yma gyda systemau rheoli amgylcheddol.
Cynhelir cyfarfod nesaf y Rhwydwaith Ansawdd ac Effeithiolrwydd ar 8 Gorffennaf. Caiff ei gynnal ar ffurf fideo-gynadledda pum ffordd. Yn ystod y digwyddiad, ceir y cyflwyniadau canlynol: Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg, WorldSkills DU a ffocws ar Addysgeg
Mae’r rhaglenni astudio yn nodi’r cyfleoedd y dylid eu rhoi i ddysgwyr ym mhob cyfnod allweddol, ac maen nhw’n darparu’r sail sy’n eich galluogi chi, fel athrawon, i gynllunio gwaith dysgu ac addysgu. Mae’r rhaglenni astudio wedi eu rhannu’n ddwy adran, sef Sgiliau ac Ystod.
Cynhwysir gwybodaeth ar Ddemograffeg, Sefyllfa cymdeithasol, Data Economaidd, Y Farchnad Lafur, Addysg – Cyfranogiad a Chyrhaeddiad.
Fel rhan o agenda Real Help Now Llywodraeth y DU i gefnogi unigolion, teuluoedd a busnesau yn ystod yr enciliad economaidd, mae’r Cyngor Dysgu a Sgiliau yn awyddus i sicrhau bod Benthyciadau Datblygu Gyrfa’n fwy deniadol i ddysgwyr sydd am wella’u sgiliau gwaith, ac yn arbennig i’r rhai a ddiswyddwyd yn ddiweddar sydd am ailhyfforddi neu ddechrau gyrfa mewn diwydiant neu broffesiwn sy’n dod i’r amlwg.
(Yn anffodus, nid yw'r erthyglau ar gael yn ddwyieithog)
This report analyses the differences in the participation of men and women in higher education, and in their success when there. It shows that on virtually all measures women outperform men, and it discusses some of the possible causes for this and the implications.
On 29 April 2009, High Fliers Research published one of the largest independent surveys of final year students conducted in the UK (UK graduate careers survey 2009). The survey is based on face-to-face interviews with 16,357 final year students.
In this issue of tdaNews, the Chief Executive Graham Holley talks about the TDA’s remit for the year ahead.
British parents call for a radical overhaul of the education system, saying that secondary school is not working for over a quarter (28 per cent) of children. According to Edge, it is a situation that worsens with age as 40 per cent of 15-16 year olds are failing to thrive at school.