
Bwriad y cylchlythyr yw adrodd ar ddatblygiadau polisi ym myd addysg a hyfforddiant ôl-14 yng Nghymru a Lloegr.
Os hoffech chi ddarllen y cylchlythyr yn Saesneg, cliciwch yma.
Mae’r Gweinidog dros Addysg Jane Hutt yn canmol gwaith caled disgyblion Cymru wrth iddynt gasglu’u canlyniadau TGAU a Bagloriaeth Cymru. 98.5% oedd y gyfradd lwyddo gyffredinol, sef 0.1 pwynt canran yn uwch nag yn 2008.
Mae'r Gweinidog dros Addysg, Jane Hutt, wedi llongyfarch myfyrwyr Cymru ar eu llwyddiant yn eu harholiadau wrth i ganlyniadau Safon Uwch, Safon Uwch Gyfrannol a Chymhwyster Bagloriaeth lefel Uwch Cymru gael eu cyhoeddi. Mae'r canlyniadau sydd wedi'u cyhoeddi yn dangos y gyfradd lwyddo gyffredinol ar gyfer Safon Uwch oedd 97.6%
Mae croeso i geisiadau oddi wrth bawb sy’n darparu dysgu 14-19 oed yng Nghymru a dylent gael eu cyflwyno erbyn 6 Tachwedd 2009 fan bellaf. Mae angen ceisiadau oddi wrth ganolfannau newydd sydd am ddechrau addysgu Cymhwyster Bagloriaeth Cymru a chanolfannau sydd am newid / ymestyn nifer y myfyrwyr yn eu canolfannau.
Cyhoeddwyd yr Ystadegau Gwladol diweddaraf ar Asesiadau’r Cwricwlwm Cenedlaethol o ddisgyblion 7, 11 ac 14 mlwydd oed ar gyfer Cymru 2009 a gynhyrchir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ar 27 Awst 2009. Yng nghyfnod Allweddol 3 (disgyblion 14 mlwydd oed), roedd canran y disgyblion a lwyddodd i gyrraedd o leiaf y lefel ddisgwyliedig yn uwch ym mhob pwnc o'i gymharu â 2008. Datganiad i’r wasg
Cyflogwyd 13,780 aelod o staff, yn cynnwys 6,055 yn amser llawn a 7,725 yn rhan-amser, yn uniongyrchol gan Sefydliadau AB yn ystod 2007/08. Roedd nifer y staff amser llawn a rhan-amser yn cyfateb i 9,185 o staff amser llawn (cyfwerth ag amser llawn).
WorldSkills Calgary 2009 yw'r 40 cystadleuaeth WorldSkills - y mwyaf o'i fath yn y byd. Mi fydd yn cael ei gynnal rhwng 1 a’r 7 Medi 2009. Bydd dau ddyn ifanc o Gymru yn cystadlu yng nghystadleuaeth Calgary fel rhan o dîm y DU, Dean Jones (Technoleg Cerbydau) a Cliff Williams (Saer Coed). Byddwn yn dilyn hynt a helynt tîm y DU yn ystod y cystadlu, ac yn benodol, Dean a Cliff. Helpwch ni i gefnogi’n tîm. Ewch i’r wefan am fwy o wybodaeth neu darllenwch y cylchlythyr.
(Yn anffodus, nid yw'r erthygl ar gael yn ddwyieithog)
The analysis provides an insight into the employment patterns of graduates three and a half years into their careers and is based on responses from 41,395 graduates from the 2004/05 graduating cohort. 76 per cent of graduates were in full-time paid employment and 6 per cent of graduates were in part-time paid employment.
Mae’r canllawiau hyn yn darparu gwybodaeth am y cymhelliant hyfforddi athrawon TAR (AB) yng Nghymru ac yn amlinellu’r cyllid sydd ar gael, pwy sy’n gymwys i gael grant a sut y gwneir y taliadau. Maent yn berthnasol i fyfyrwyr ar gyrsiau llawn amser TAR (AB) sy’n cynnig hyfforddiant cychwynnol athrawon ac yn arwain at gymhwyster ar gyfer dysgu addysg bellach gan ddechrau rhwng Medi 2009 ac Awst 2010.
Yr wythnos nesaf, bydd miloedd o ddisgyblion o bob rhan o Gymru sy’n dechrau yn yr ysgol uwchradd yn cael cymorth ariannol gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i’w helpu i dalu am wisg ysgol. Mae’r cynllun wedi’i dargedu at ddisgyblion sy’n dechrau yn yr ysgol uwchradd, gan mai dyma’r adeg y bydd rhieni’n wynebu’r costau mwyaf wrth iddynt dalu am y wisg ysgol gyfan mewn un tro.
Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru a’r Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid wedi adolygu ac adnewyddu peirianweithiau cyflenwi Strategaeth Troseddwyr Ifanc Cymru Gyfan. Mae’r cynllun cyflenwi hwn yn disgrifio’r newidiadau sydd wedi’u gwneud, amlinellu’r themâu a gaiff flaenoriaeth a’r camau a gymerir.
Mae’r adroddiad yn cyflwyno canfyddiadau gwerthusiad gan Arad Consulting ar reolaeth y Flwyddyn Darllen Genedlaethol yng Nghymru 2008. Mae’r adroddiad hefyd yn cyflwyno argymhellion ynglŷn â sut y gallai gweithgareddau a ddarparwyd yn ystod y flwyddyn cael eu datblygu ymhellach i hyrwyddo darllen.
Pwrpas y ddogfen hon yw disgrifio’r amgylchedd polisi y mae darpariaeth dysgu a sgiliau troseddwyr ifanc wedi’i gosod ynddo a disgrifio'r rôl y mae disgwyl i ddarpariaeth dysgu a sgiliau troseddwyr ifanc ei chwarae wrth gyflawni amcanion polisi’r Llywodraeth yng Nghymru a Lloegr. Mae’r BCI a Llywodraeth Cynulliad Cymru yn berchen ar y ddogfen hon ar y cyd.
Ers 2008, bu cynnydd yn y ganran o ddisgyblion a gyrhaeddodd lefel 5 neu uwch ymhob pwnc oni bai am Daearyddiaeth (sydd wedi aros yr un peth) ac Addysg Gorfforol (sydd wedi gostwng o 0.1 pwynt canran). Bu’r cynnydd mwyaf yn Ieithoedd Tramor Modern (2.1 pwynt canran).
(Yn anffodus, nid yw'r erthyglau ar gael yn ddwyieithog)
A record number of students have been accepted into university or college this year, following the fastest period of processing ever seen by UCAS; 419,627 applicants have now had a place confirmed, an increase of 44,523 on the same point last year.
Schools, colleges and employers working in partnership are key to widening options for 14–19 year olds and successfully introducing the new Diplomas, according to a report published by Ofsted. The report, Implementation of 14–19 reforms, including the introduction of Diplomas, reveals that Her Majesty’s Inspectors found a mixed picture, but with positive features, at this relatively early stage in the Diploma programmes.
This large-scale multi-strand evaluation is exploring how diplomas are being implemented and delivered; assessing their impact on participation in education and training post-16 and attainment; and reviewing the perceptions of key stakeholders e.g. parents, employers and Higher Education Institutions (HEIs).
Lifelong Learning UK has launched a new guide to help people who are interested in starting a new career as a teacher or assessor in the further education sector. The Guide to Working in Further Education explains the sector and the sorts of training and learning it provides. It gives information on different roles, what they involve, typical pay and conditions, entry routes, and qualifications.
On 18 August 2009, the National School of Government’s Sunningdale Institute published a report which sets out the parameters to promote and cultivate leadership capability across the public service.
The latest edition of the Training and Development Agency for Schools has been released.
**Os dymunwch dderbyn y cylchlythyr wythnosol yn y Gymraeg, anfonwch e-bost at rhys.davies4@wales.gsi.gov.uk.
This newsletter may contain links to websites that are created and maintained by other organizations. The Dysg newsletter does not necessarily endorse the views expressed on these websites, nor does it guarantee the accuracy or completeness of any information presented there.