
Mae'r Gweinidog dros Addysg, Leighton Andrews, wedi cyhoeddi bod yr amser sydd gan bobl i wrthwynebu cynigion statudol yr awdurdodau lleol i ad-drefnu ysgolion wedi'i leihau o ddau fis calendr i un.
Mae Leighton Andrews, y Gweinidog Addysg, wedi cefnogi rhaglen newydd i ehangu mynediad at Fathemateg Bellach ar lefel TAG UG/A2 yng Nghymru.
Ym mis Mehefin 2010, wedi cyhoeddi’r adolygiad o gost gweinyddu addysg, sefydlodd y Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes Adolygiad o Adnoddau Rheng Flaen er mwyn sianeli mwy o gyllid tuag at reng flaen addysg. Un awgrym yn yr adroddiad gwreiddiol oedd y byddai darparu addysg trwy nifer fechan o dimau o gonsortia rhanbarthol yn lleihau gorbenion ac yn gwella gwasanaethau. Mae’r Adolygiad o Adnoddau Rheng Flaen wedi bod yn mynd â’r syniad hwn yn ei flaen gan weithio gydag awdurdodau lleol i sefydlu consortia rhanbarthol.
Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi ymrwymo i wella safonau llythrennedd mewn ysgolion ac yn y gymuned ehangach. Mae hon yn flaenoriaeth allweddol ac i gefnogi hyn rydym wedi datblygu ymgyrch ‘Rho amser i ddarllen’ drwy barhau i godi ymwybyddiaeth ymhlith rhieni, teidiau a neiniau a gofalwyr o bwysigrwydd darllen.
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ystyried sut i arwain at welliannau tymor byr a thymor hir mewn safonau Cymraeg ail iaith. Er mwyn casglu gwybodaeth fanwl am drefniadau a darpariaeth Cymraeg ail iaith, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi comisiynu Arad Research i ymgymryd â phrosiect ymchwil cenedlaethol a fydd yn darparu sail dystiolaeth bwysig er mwyn bwydo datblygiadau’r dyfodol. Mae holiadur wedi ei baratoi ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd. Hoffwn annog pob ysgol perthnasol i gwblhau’r holiadur ar-lein erbyn 25 Mawrth 2011 gan ei fod yn bwysig sicrhau bod yr ymatebion yn gynrychioladol. Ewch i’r arolwg: Cymraeg ail iaith (Uwchraddd)
Mae’r Adran Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau (APADGOS) a’i phartneriaid yn cynnal diwrnod rhyngweithiol i bobl ifanc ac ymarferwyr i arddangos y gwaith a wnaed hyd yma ar brosiectau “Cyrraedd y Nod”.
WorldSkills UK yw’r enw a roddir ar gyfres o oddeutu 60 o gystadlaethau sgiliau a gynhelir yn flynyddol ar draws y DU. Rhennir y cystadlaethau’n 5 prif sector (yr Amgylchedd Adeiledig, y Celfyddydau Diwylliannol a Chreadigol, Peirianneg, TG a Gweinyddu Busnes a Gwasanaethau Cymdeithasol a Phroffesiynol) ac maent yn cynnwys cystadlaethau sy’n amrywio o Waith Coed, Blodeuwriaeth, Electroneg Ddiwydiannol i Ddylunio Gwefannau a Therapi Harddwch.
Yn 2009/10 bu 185 gwaharddiad parhaol, gostyngiad o 213 yn 2008/09.
Mae’r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd (GGD) yn rhoi cymorth, cefnogaeth a chyngor diduedd ac am ddim ar amrywiaeth o faterion teuluol fel gofal plant, hyfforddiant, iechyd, hamdden, y gyfraith a llawer mwy. Gallant helpu rhieni, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol ac mae un wedi’i lleoli ym mhob Awdurdod Lleol.
(Yn anffodus, nid yw'r erthyglau canlynol ar gael yn y Gymraeg)
This circular invites HEIs to submit innovation and engagement strategies and collaborative bids for the period 2011/12 to 2013/14 and announces indicative Innovation & Engagement Fund allocations for 2011/12.
Mae’r adnoddau hyn, sydd yn hyrwyddo meddwl ac yn ysgogi trafodaeth yn addas ar gyfer addysgu’r dosbarth cyfan yng Nghyfnod Allweddol 4.
Dyma gyfres o bedwar deg o weithgareddau gwerthuso rhyngweithiol ar gyfer eu defnyddio yng Nghyfnod Allweddol 3.
(Yn anffodus, nid yw'r erthyglau canlynol ar gael yn y Gymraeg)
Professor Alison Wolf analyses how millions of children have been failed over the past twenty years and sets out a blueprint for a very different system in which almost all young people have the chance of further education or a good job. report and press release
Showcasing opportunities are available for schools, colleges and training providers to celebrate their talent in front of 150,000 international visitors at this event. Apply by 17 March to secure your place.
This report looks at education and training opportunities for under-qualified adults and also covers policies and measures for enhancing the participation of adults in higher education.