
Cyhoeddodd Leighton Andrews, y Gweinidog dros Addysg, newid i’r ffordd y caiff cyllid ôl-16 dros y blynyddoedd ddod. Gyda setliad cyllidebol heriol, mae’r Gweinidog wedi dewis annog sefydlogrwydd yn y sector drwy roi dyraniadau tair blynedd am y tro cyntaf yn unol ag ymrwymiadau Cymru’n Un.
Mae Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009 yn sicrhau creu ystod eang o gwricwla lleol ar gyfer dysgwyr 14-19 yng Nghymru. Am y tro cyntaf yn 2011 bydd y Mesur yn darparu ar gyfer dysgwyr sy’n cychwyn ar addysg ar ôl oed gorfodol. Bydd y Rheoliadau Addysg (Cwricwlwm Lleol ar gyfer Myfyrwyr 16 i 18 Oed) (Cymru) 2011 yn darparu ar gyfer yr etholiadau gall ddysgwyr eu gwneud; penderfyniad y pennaeth ysgol neu'r pennaeth sefydliad ynghylch hawl, dyfarnu ysgol berthnasol neu sefydliad perthnasol disgybl a phenderfyniad pennaeth ysgol neu bennaeth sefydliad i ddileu hawl. Canllawiau ar y Cwricwlwm Lleol i Fyfyrwyr 16 i 18 oed a’r Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009
Cafodd strategaeth newydd i fynd i’r afael â thlodi plant yng Nghymru ei chyhoeddi gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Datganiad i’r wasg a’r strategaeth
Mae pobl sydd wedi elwa ar waith ieuenctid yng Nghymru yn cael eu hannog i enwebu rhywun ar gyfer un o Wobrau Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid Cymru. Bydd y gwobrau’n cael eu cyflwyno ar 17 Mawrth. Datganiad i’r wasg a gwnewch cais am y gwobrau
Cyhoeddodd Leighton Andrews, y Gweinidog dros Addysg, gyllid grant o dros £700,000 i estyn y Cynllun Grant Hyrwyddwyr Dwyieithrwydd i bedwar coleg Addysg Bellach ychwanegol ar draws Cymru.
Mae APADGOS yn gwerthuso’r trefniadau presennol o reoleiddio cyflogi plant oed ysgol ac yn edrych ar y dewisiadau ar gyfer diwygio’r gweithdrefnau cyfredol. Bwriadwn gynnal cyfres o Grwpiau Ffocws i gasglu barn y rhai sydd â diddordeb yng Nghymru. Cysylltwch â Elaine Hepple am fwy o wybodaeth.
Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi cymryd y cyfle drwy’r Mesur hwn i geisio pwerau gwneud Mesurau mewn perthynas â rheoleiddio a hyfforddi athrawon a’r gweithlu addysg ehangach yng Nghymru a Chyllid Ysgolion Cyn-16.
Mae'r arweiniad hwn ar gyfer darparwyr hyfforddiant cychwynnol athrawon TAR (AB) sy’n cynnig cyrsiau hyfforddiant cychwynnol athrawon amser llawn cyn gwasanaethu i fyfyrwyr TAR (AB) yn arwain at gymhwyster i addysgu ym maes addysg bellach ym mlwyddyn academaidd 2010/11.
(Yn anffodus, nid yw'r erthyglau canlynol ar gael yn y Gymraeg)
Better understanding the relationship between schooling and social inequality has long been a concern of educational researchers. Focusing on the UK, this Insight asks what they have discovered about this relationship, and examines the outcomes of strategies developed to break the links between education and disadvantage.
This report draws on evidence from visits by Ofsted inspectors to look at geography in a sample of 91 primary and 90 secondary schools (including one special school) from 2007 to 2010.
The study compares how making pupils repeat a school year - is applied in schools across Europe and produces an inventory of the legislations and practices in place.
The research explores young people’s use of their public libraries: numbers of users, and differences according to age or background demographics; the link between public library use and young people’s reading (enjoyment of reading, attitudes towards reading and reading behaviour).