
Methu credu’r peth? Dros 100 yn arddangos, theatr sgiliau, seminarau arloesol a chyfleoedd i roi cynnig ar amrywiaeth ryfeddol o sgiliau – hyn i gyd yn y digwyddiad gyrfaoedd a sgiliau i Gymru. Bydd cyfle hyd yn oed i chi gael tynnu’ch llun gyda’r Daleks neu’r Tardis! Mae sgiliaucymru’n enfawr - does dim dwywaith am hynny! Mae’n cael ei gynnal yn Stadiwm y Mileniwm, sef y lleoliad cynnal digwyddiadau mwyaf yng Nghymru, rhwng 16 a 18 Medi 2010. Mae’n rhad ac am ddim a gall unrhyw un alw heibio; dyma’r digwyddiad gyrfaoedd a sgiliau mwyaf erioed i’w gynnal yng Nghymru. www.skillscymru.co.uk
Mae Huw Lewis, y Dirprwy Weinidog dros Blant, wedi annog athrawon ac ymarferwyr Cymru i gofrestru ar gyfer cynhadledd addysg a gynhelir ar 17 Medi fydd yn canolbwyntio ar les emosiynol a chymdeithasol disgyblion, myfyrwyr ac athrawon Cymru.
Mae’r cyhoeddiad hwn yn gosod y gofynion statudol ar gyfer asesiad athrawon yn y flwyddyn ysgol 2010/11. Mae'n crynhoi manylion trefniadau asesu statudol yng Nghyfnodau Allweddol 1 a 2 a 3 mewn un llyfryn, ac yn disodli’r llyfrynnau ar wahân blynyddoedd blaenorol ar gyfer y Cynradd a Chyfnod Allweddol 3.
Mae’r Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes wedi cyhoeddi y caiff ysgolion prif ffrwd dau ddiwrnod ychwanegol o HMS ym mlwyddyn ysgol 2010/11 i helpu i roi’r Fframwaith Effeithiolrwydd Ysgolion ar waith. Mae’r ymgynghoriad hwn yn gofyn am sylwadau ar drefniadau arfaethedig blwyddyn ysgol 2010/11 ac ar ofynion diwrnodau HMS ychwanegol yn y dyfodol.
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi comisiynu Cymdeithas Cwnsela a Seicotherapi Prydain, mewn partneriaeth ag Ipsos Mori, i asesu effaith ac effeithiolrwydd y Strategaeth Cwnsela mewn Ysgolion.
Gall dysgwyr ag anableddau, gyda chytundeb y corff dyfarnu, gael eu heithrio rhag gwneud un neu fwy o unedau mewn asesiad. Ar ôl ymgynghori â CBAC, cynrychiolwyr grwpiau anabledd a rheolyddion cymwysterau eraill, mae APADGOS wedi cynhyrchu set o egwyddorion ar gyfer defnyddio esemptiadau o fewn Cymhwyster Bagloriaeth Cymru. I lawrlwytho’r egwyddorion, cliciwch yma.
Mae Gorchymyn Diddymu wedi diddymu Corfforaeth Addysg Bellach Coleg Gorseinion a Chorfforaeth Addysg Bellach Coleg Abertawe, gan drosglwyddo’u heiddo, eu hawliau, eu rhwymedigaethau a’u staff i Gorfforaeth Addysg Bellach Coleg Gŵyr Abertawe.
Mae gwefan Llais Disgyblion Cymru yn esbonio beth yw cyfranogiad disgyblion, pam ei fod yn bwysig a sut y gall wneud pethau’n well i bawb yn yr ysgol. Er mwyn gwneud y safle hwn yn fwy rhyngweithiol fyth, cafodd cystadleuaeth clip fideo 'Eich Dyfodol Eich Delweddau' ei lansio. Mae dyddiad cau’r gystadleuaeth wedi’i ymestyn i 18 Hydref 2010. Dysgwch fwy a sut i fynd amdani.
Mae’r canllawiau hyn yn cynnwys gwybodaeth am y prif ddewisiadau sydd ar gael i ddisgyblion ar ôl Blwyddyn 11, 12 a 13 a ble i ddod o hyd i ragor o help a chyngor. Ble Nawr 16+ Canllaw Gwybodaeth; Ble Nawr 17+ Canllaw Gwybodaeth, a Ble Nawr 18+ Canllaw Gwybodaeth.
Bwriad y digwyddiad yw ymgynghori gyda hapddalwyr ar flaenoriaethau ar gyfer Cynllun Gweithred SSIE ar gyfer Cymru. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Michael.Landers@wales.gsi.gov.uk
Yng nghyfnod Allweddol 3, roedd canran y disgyblion a lwyddodd i gyrraedd o leiaf y lefel ddisgwyliedig yn uwch ym mhob pwnc o'i gymharu â 2009. Ac eithrio Cymraeg sydd wedi codi bron i 6 pwynt canran ers 1999, mae'r perfformiad ym mhob pwnc wedi codi o leiaf 10 pwynt canran ers 1999.
Yng nghyfnod Allweddol 3, ers 2009 bu cynnydd yn y ganran o ddisgyblion a gyrhaeddodd y lefel ddisgwyliedig (lefel 5 neu uwch) ym mhob pwnc. Roedd y cynnydd mwyaf yng Ngherddoriaeth (3.9 pwynt canran).
Cyflogwyd 13,565 aelod o staff, yn cynnwys 6,030 yn amser llawn a 7,535 yn rhan-amser, yn uniongyrchol gan Sefydliadau AB yn ystod 2008/09.
Mae’r Gweinidog dros Addysg, Leighton Andrews, wedi ymuno â myfyrwyr Cymru i ddathlu eu llwyddiant yn eu harholiadau.
Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, wedi llongyfarch y myfyrwyr sy'n casglu eu canlyniadau TGAU a Chymhwyster Bagloriaeth Cymru.
Wrth i bobl ifanc ledled Cymru aros ar bigau’r drain i glywed eu canlyniadau Safon Uwch yfory, mae’r Gweinidog dros Lywodraeth Leol, Carl Sargeant, am atgoffa pawb y gall prentisiaid, yn ogystal â myfyrwyr, gael eu heithrio rhag talu’r dreth gyngor.
Mae’r chweched arolwg blynyddol o fyfyrwyr wedi dangos bod dros bedwar o bob pum myfyriwr yng Nghymru yn parhau’n fodlon ar eu cwrs prifysgol.
(Yn anffodus, nid yw'r erthygl canlynol ar gael yn y Gymraeg)
This event will explore the issues and opportunities in the ICT and creative industries and the vital importance of IT skills for professionals and citizens. Registrations are now open.
(Yn anffodus, nid yw'r erthyglau canlynol ar gael yn y Gymraeg)
Consultation seeking views about the future of the ‘right to request time to train’ legislation and whether the right should be repealed, retained for large organisations or extended to small and medium sized organisations as planned. The legal right to allow workers in businesses with more than 250 employees, to request time to take up relevant training came into effect from 6 April this year. The closing date for the consultation is 15 September 2010.
Earlier this year Careers England commissioned Dr Deirdre Hughes to review the evidence of the impact careers advice and guidance has on social mobility. She was also invited to interview leading figures in the worlds of education (secondary, higher and Adult Education) and employment.
The headline findings from the 2009 survey are that the levels of vacancies, hard-to-fill vacancies and skill-shortage vacancies have fallen sharply since 2007, in line with what might be expected during a recession.
This survey evaluates the effectiveness of actions taken by local authorities in relation to children and young people who are missing from education.