
Mae’r Asesiad Cenedlaethol Dysgu a Sgiliau yn nodi ‘blaenoriaethau ar gyfer newid’ y mae’n rhaid i ddarparwyr dysgu ar hyd a lled Cymru ymateb iddynt. Mae’r llythyr yn diweddaru’r ACDS a gyhoeddwyd fis Hydref 2007..
Mae cynllun gweithredu pwysig newydd i wella ymddygiad a phresenoldeb yn ysgolion Cymru wedi’i lansio gan y Gweinidog Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, Jane Hutt. Enw’r cynllun yw Ymddygiad a Phresenoldeb sy’n ymateb i’r Adolygiad o Ymddygiad a Phresenoldeb (NBAR) gafodd ei gyhoeddi ym mis Mai 2008 gan yr Athro Ken Reid a’i Grŵp Adolygu annibynnol.
Prif ganfyddiadau: mae’r cytundeb baich gwaith yn cael effaith gadarnhaol iawn mewn ysgolion. Mae hanner yr ysgolion wedi newid eu trefniadau cychwynnol wrth iddynt ddatblygu ffyrdd gwell o fodloni gofynion y cytundeb. Mae’r mwyafrif o ysgolion yn awr yn dechrau arfarnu’r effaith y mae’r trefniadau yn ei chael ar ddarpariaeth y cwricwlwm a chodi safonau.
Yn y rhifyn hwn, ceir gwybodaeth ar y mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) a’r Cwricwlwm Lleol 14-19.
(Yn anffodus, nid yw'r erthygl ar gael yn ddwyieithog)
In 2007/08 there were 241 permanent exclusions, a decrease from 291 in 2006/07. The highest rate of permanent exclusions, 2.6 exclusions per 1,000 pupils, was seen in Cardiff and Neath Port Talbot local authorities (with 55 and 23 permanent exclusions respectively).
Yn 2007/08 roedd yna tua 19,315 aelod o staff yn gweithio mewn Sefydliadau Addysg Uwch yng Nghymru, 1,250 mwy nac yn 2006/07. Prifysgol Caerdydd oedd yn cyflogi'r nifer fwyaf o staff (5,880), mwy na dwbl nifer y staff y nesaf - Prifysgol Morgannwg (2,855), Phrifysgol Abertawe (2,395, cynnydd o 56 y cant ar y flwyddyn flaenorol), Prifysgol Aberystwyth (1,955) a Prifysgol Bangor (1,805).
Dyma ganlyniadau allweddol y ffigurau mynediad ar gyfer 2008: Derbyniwyd cyfanswm o 23,639 o ymgeiswyr gan sefydliadau Cymreig. Roedd hyn yn gynnydd o 5 y cant ar 2007 a 29 y cant yn uwch na 1997. Derbyniwyd 18,595 o ymgeiswyr sy'n hanu o Gymru gan sefydliadau'r DU - roedd hyn 7 y cant yn fwy na 2007 ac 28 y cant yn uwch na 1997.
Mae’r Dirprwy Weinidog dros Sgiliau John Griffiths wedi lansio gwefan ryngweithiol Pwyllgor Trefnu Gemau Olympaidd a Pharalympaidd Llundain 2012 (LOCOG). Mae wefan wedi’i chreu i ysgogi plant a phobl ifanc yng Nghymru ac ar draws Prydain i ymddiddori a chymryd rhan mewn digwyddiadau sy’n gysylltiedig â Gemau Olympaidd 2012.
Mae cynlluniau ar gyfer gwella cludiant i ddisgyblion a myfyrwyr ledled Cymru wedi’u dadorchuddio heddiw (Dydd Mercher, 1 Ebrill), gyda Llywodraeth y Cynulliad yn cyhoeddi ei chanllawiau ar gyfer awdurdodau lleol. Dywedodd y Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth, Ieuan Wyn Jones, y byddai’r canllawiau’n helpu awdurdodau lleol i reoli’u trefniadau teithio i ddysgwyr ac y byddai hyn yn gam allweddol arall i’r Mesur Teithio gan Ddysgwyr.
O heddiw ymlaen (1 Ebrill 2009), Llywodraeth y Cynulliad fydd yn gyfrifol yn ffurfiol am addysg a llyfrgelloedd yng ngharchardai Cymru. O dan orchymyn trosglwyddo swyddogaethau a gafodd ei gymeradwyo’n ddiweddar gan y Senedd yn Llundain, caiff y cyfrifoldeb am addysg i garcharorion yng Nghymru ei drosglwyddo oddi wrth yr Adran Arloesedd, Prifysgolion a Sgiliau i Lywodraeth y Cynulliad. Ar gyfer 2009-2010, bydd gan Lywodraeth y Cynulliad £2.65 miliwn i ddarparu’r gwasanaeth.
Roedd cyfanswm o 6,400 o fyfyrwyr mewn Addysg Bellach wedi gwneud cais am GDC erbyn 8 Mawrth 2009. Nifer y ceisiadau llwyddiannus oedd 4,790 (75 y cant o’r ceisiadau), gostyngiad o 3 y cant i’w gymharu â’r un pryd yn 2007/08.
Mae Estyn wedi cyhoeddi adroddiad heddiw ar arfer orau yng ngwaith darllen ac ysgrifennu plant rhwng 5 a 7 oed. Er bod llawer o ysgolion wedi bod yn llwyddiannus wrth wella safonau dros y degawd diwethaf, mae cyflymder y gwelliant bellach wedi arafu. Dros y pum mlynedd diwethaf, mae cyfran y plant 5-7 oed sy’n cyflawni lefelau da o ran medrau darllen ac ysgrifennu wedi stopio codi mewn Cymraeg a Saesneg.
Hoffai e-skills UK wahodd darparwyr i fynychu cynhadledd ar y fframwaith ITQ newydd ar 27 Mai ym Maes Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru yn Llanelwedd. Mae'r digwyddiad yn rhad ac am ddim i gynrychiolwyr.
(Yn anffodus, nid yw'r erthyglau ar gael yn ddwyieithog)
Diplomas are reaching the crucial ‘tipping point’ as new figures show that over 97 percent of local authorities will be offering the new qualifications by September 2010, Schools Minister Jim Knight said. He also revealed that the numbers of students registered to study Diplomas is likely to triple this year – to at least 40,000.
This booklet sets out in detail what is expected of Sector Skills Councils (SSCs) in the area of Labour Market Information (LMI), delineating a common LMI framework for SSCs.
This report results from a survey of factors which enable post-16 learners to make good progress in sector subject area 12: languages, literature and culture, specifically, in English and modern foreign languages. Inspectors visited 18 colleges where provision in English and/or modern foreign languages had been judged to be good or outstanding at their most recent inspection. The report contains examples of good practice and recommendations for further improvement.
City & Guilds announces its sponsorship of the 2009 Apprenticeship Awards City & Guilds are delighted to announce that it is sponsoring the 2009 National Apprenticeship Awards to be held in July. This is the fifth successive year that City & Guilds is the premier sponsor of the Apprenticeship Awards, highlighting the successful partnership enjoyed by the Learning and Skills Council (LSC) and City & Guilds in promoting Apprenticeships.
This edition includes an update on the Inspection Development Programme, the new comprehensive area assessment and the social care self-evaluation form.
The Talisman is a printed newspaper specifically for adult training and Further Education providers. This issue of talisman reviews inspection including animal care, culture, retail, social science, hospitality and construction. More