
Mae Estyn wedi lansio ei fframwaith arolygu newydd ar gyfer ysgolion, awdurdodau lleol a’r sector ôl-16 yng Ngwesty’r Metropole, Llandrindod.
Mae Leighton Andrews, y Gweinidog dros Addysg, wedi rhyddhau data ar nifer y dyddiau ysgol a gafodd eu colli y gaeaf diwethaf o ganlyniad i dywydd garw. Yn ôl yr ystadegau, a gafodd eu dychwelyd gan 20 awdurdod lleol, ar gyfartaledd, roedd ysgolion ynghau am oddeutu 4 diwrnod ysgol (8 sesiwn hanner diwrnod).
Mae’r Gwobrau Hyfforddiant Cenedlaethol yn cydnabod effaith hyfforddiant ar berfformiad sefydliadau ac unigolion a’r cyfraniad mae’n ei wneud at ffyniant economaidd Cymru a’r Deyrnas Unedig. Mae’r holl derfynwyr ac enillwyr yn enghreifftiau ysbrydoledig o’r fantais orau y gall hyfforddiant a datblygiad ei chyflawni.
Mae Strategaeth Gorfforaethol newydd CCAUC yn amlinellu ei ddisgwyliadau ar gyfer addysg uwch yng Nghymru hyd 2013. Mae’n dymuno gweld prifysgolion a cholegau addysg bellach yn gweithio gyda’i gilydd mewn ffordd fwy integredig ar draws rhanbarthau Cymru er mwyn gwella darpariaeth i bob dysgwr sy’n gallu elwa ar AU. Datganiad i’r wasg a’r Strategaeth Gorfforaethol a 2009-10 hyd 2011-12
Bydd yr Aelodau’n gwybod imi fod yn ystyried materion sy’n berthnasol i bolisi trefniadaeth ysgolion ers imi ysgwyddo swydd y Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes. Cyhoeddais ddatganiad ysgrifenedig ar 12 Ionawr ynghylch swyddogaeth Gweinidogion Cymru wrth ad-drefnu ysgolion. Cadarnhaodd hwnnw mai ar ysgwyddau awdurdodau lleol y mae’r cyfrifoldeb am drefnu ac ad-drefnu ysgolion.
Er mwyn galluogi BCSC i ymgysylltu mwy â rhwydweithiau cyflogwyr a rhanddeiliaid, mae gan BCSC wefan newydd sy'n fwy rhyngweithiol. Ewch i'w wefan i weld adroddiad blynyddol 2010, newyddion diweddaraf a barn BCSC.
Mae cystadleuaeth o'r enw Geir-IAU yn annog plant a phobl ifanc i gydio mewn beiro, nodiadur, recordydd sain neu gamera fideo er mwyn cofnodi'r pethau da y mae pobl o'u cenhedlaeth nhw yn eu gwneud gartref, yn yr ysgol ac yn eu cymuned.
Dyma’r prif bwyntiau o’r datganiad diweddaraf (o’i gymharu â mis Ionawr 2009): 20 yn llai o ysgolion a gynhelir gan awdurdodau lleol (ALlau) a 2,500 yn llai o ddisgyblion; 4 yn fwy o ysgolion annibynnol a ceir 275 yn llai o athrawon (cyfwerth ag amser-llawn) yn y sector a gynhelir gan ALlau.
Mae’r ystadegau yn cynnwys data ar gyfer Cymru a Lloegr am y cyfnod blwyddyn academaidd 2008/09. Yn nghyfnod Allweddol 3 roedd y gyfran o ddisgyblion a gyrhaeddodd y lefel ddisgwyliedig yn is yng Nghymru nag yn Lloegr.
O’r graddedigion gradd gyntaf llawn-amser o SAU yng Nghymru yn 2008/09 lle gลตyr am eu cyrchfan 6 mis ar ôl graddio: roedd 60 y cant mewn cyflogaeth yn unig; roedd 8 y cant mewn cyfuniad o waith ac addysg; roedd 19 y cant mewn addysg bellach yn unig a tybiwyd bod 8 y cant yn ddi-waith.
Mae'r erthygl yma yn ystyried effaith y newid ar ystadegau'r farchnad lafur yng Nghymru wrth newid oedran pensiwn y wladwriaeth i ferched o 60 i 65.
86% of young people in the UK own a mobile phone, only 73% have books of their own. The study of over 17,000 young people also revealed a strong link between young people’s reading ability and their access to books at home.
SMEs are vital for addressing the national training picture due to their numbers and the numbers of people whom they employ, but they have often been seen as having weaknesses with regard to training their workforce. More
This is the latest edition of the FE and Skills e-newsletter - a direct news and information link from BIS to the further education (FE) and skills sector.