
Enillodd 63 y cant o ddisgyblion 15 mlwydd oed y trothwy lefel 2, 2 pwynt canran yn uwch nag yn 2008/09. Roedd 1 y cant heb ennill unrhyw gymhwyster cydnabyddedig. Enillodd 95 y cant o’r disgyblion 17 mlwydd oed, a gofrestrwyd ar gyfer 2 Safon Uwch neu gyfwerth, y trothwy Lefel 3, 1 pwynt canran yn is nag yn 2008/09.
Nod cyffredinol yr ymchwil oedd pwyso a mesur barn rhieni/gofalwyr a phobl ifanc yng Nghymru ar wisg ysgol a chostau ehangach addysg.
Mi fydd y gynhadledd yn cychwyn gyda anerchiad gan Lywydd NTfW, yr Arglwydd Rowlands CBE ac anerchiad gan y Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes, Leighton Andrews AC. Rhaglen y gynhadledd
Mae’r gronfa ar gael i bob darparwr ôl-16 y mae Llywodraeth y Cynulliad yn eu cyllido i ddarparu dysgu cymunedol (DC), addysg bellach (AB) a dysgu'n seiliedig ar waith (DSW) neu ddysgu ar gyfer troseddwyr. Bydd darparwyr yn gallu gwneud cais am grant o hyd at £6,000 er mwyn cyflawni gweithgareddau penodol ar gyfer gwella ansawdd.
Cyn bo hir, bydd ysgolion a cholegau addysg bellach Cymru yn cael y pŵer i sgrinio unrhyw ddisgybl am gyllell neu arf. Mae’r Gweinidog dros Addysg, Leighton Andrews, wedi llofnodi gorchymyn sy’n golygu y bydd y pwerau a nodir yn Neddf Lleihau Troseddau Treisgar 2006 yn dod i rym ar 31 Hydref 2010.
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn hwyluso'r broses o ddyrannu Rhif Unigryw'r Dysgwr (ULN) i bob disgybl 14 oed a hŷn mewn ysgolion a gynhelir yng Nghymru. Bydd hyn o gymorth i gyflawni llawer o swyddogaethau. Yn benodol, yn y lle cyntaf, bydd o gymorth i gydgrynhoi data ar Gymhwyster Bagloriaeth Cymru.
Bellach mae cymhwyster eirioli achrededig yn bodoli a gydnabyddir yn genedlaethol ac a danategir gan Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol. Mae’r pecyn tiwtor a hunanastudio ar gyfer y modiwl hyfforddi i ennill Tystysgrif Lefel 3 mewn Eiriolaeth Annibynnol gyda Phlant a Phobl Ifanc wedi’i gymeradwyo’n ffurfiol gan City & Guilds. Mwy (YouTube) neu anfonwch e-bost am fwy o wybodaeth.
Yr hydref hwn mae Amnest hefyd wedi cynhyrchu pecyn adnoddau dwyieithog, rhad ac am ddim, yn benodol ar gyfer ysgolion cynradd Dysgu am Hawliau Dynol yn yr Ysgol Gynradd. Bydd y Gweinidog Addysg, Leighton Andrews AC a'r Comisiynydd Plant yng Nghymru, Keith Towler, yn bresennol yn lansiad yr adnodd newydd hwn yng Nghaerfyrddin dydd Gwener 15 Hydref 2010. Hefyd, mae Amnest wedi cynhyrchu pecyn dwyieithog, rhad ac am ddim, ar gyfer ysgolion uwchradd Mater o Fyw a Marw sy'n canolbwyntio ar y Gosb Eithaf . Ewch i wefan Amnest am fwy o wybodaeth.
(Yn anffodus, nid yw'r erthyglau canlynol ar gael yn y Gymraeg)
This circular asks all higher education institutions, and further education institutions with 6000 or more higher education credits, to publish an employability statement. It also provides an update about work underway to review employment data and performance indicators.
This circular sets out guidance on the management of full-time undergraduate student numbers from 2011/12.
Cwta flwyddyn sydd ar ôl cyn y gystadleuaeth sgiliau fwyaf yn y byd. Mae tri cham pwysig gall pob ysgol a choleg eu cymryd nawr er mwyn dechrau paratoi: Cadw dyddiad WorldSkills London 2011 yn rhydd trwy ei ychwanegu at eich calendr ysgol neu brosbectws eich coleg, cofrestru ar ein gwefan i dderbyn y newyddion diweddaraf a manylion am ddeunyddiau addysg am ddim ac yn olaf rhannu’r wybodaeth ac anfon y neges yma ymlaen at eich cydweithwyr.
Mae angen gwneud mwy i sicrhau bod disgyblion yn cael cyfle i ddysgu ac ymarfer eu Cymraeg yn ein hysgolion, yn ôl ymchwiliad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Datganiad i’r wasg a’r adroddiad
Bydd y Mesur arfaethedig ynghylch Diogelwch ar Gludiant i Ddysgwyr (Cymru) yn cyflwyno amrywiaeth o fesurau diogelwch ar gyfer cludiant ysgol.
(Yn anffodus, nid yw'r erthyglau canlynol ar gael yn y Gymraeg)
The overarching aims of the research were to review national patterns of usage of the four main parental responsibility measures (Parenting Contracts, Parenting Orders, Penalty Notices and Fast Track) and corresponding national patterns of attendance/exclusions across Local Authorities (LAs). Final Report – Brief
The number of teaching assistants (TAs) in schools has increased dramatically in recent years. At the same time there has been a large increase in the number of pupils with special educational needs (SEN) in mainstream schools, and increased numbers of pupils identified as in need of support by school staff.
This study was commissioned to assess the feasibility of undertaking a quantitative survey to measure the medium term impact of individuals spending a period of time not in education, employment and training (NEET) at ages 16-18 as compared with being in employment or education.
Over the past two decades UK government legislation has led to an increased focus on inclusive education. The report considers the role of educational assessment in relation to inclusive education in mainstream settings, with a specific focus on the assessment of pupils with ASD.
The new adult careers service Next Step is now providing a new online service, helping adults make informed choices about which skills and courses are best suited to them. Press release and Next Step Site