
Ers datganoli, mae Cymru wedi datblygu a gweithredu amrywiaeth o bolisïau addysgol arloesol gan gynnwys y Cyfnod Sylfaen a Llwybrau Dysgu 14 - 19, sy'n dechrau cyflawni canlyniadau pendant…Mae elfennau o'n system addysg sy’n dal ddim mor effeithiol ag y gallan nhw fod. Mae sawl un o'r rhain yn gymhleth ac yn hanesyddol a bydd angen gwneud newidiadau strwythurol i fynd i'r afael â nhw.
Yn Adroddiad Blynyddol 2009-2010, mae Estyn wedi amlygu astudiaethau achos arfer dda mewn darparwyr addysg a hyfforddiant ledled Cymru. Mae pob ffilm, sy’n cynnwys cyfweliadau gyda staff, dysgwyr a rhieni, yn edrych ar faes llwyddiant gwahanol mewn darparwr.
Byddant yn parhau yng Nghymru, ond byddant yn newid o fis Medi 2011. Efallai y bydd myfyrwyr yn gymwys i gael Lwfans Cynhaliaeth Addysg os ydynt yn 16, yn 17 neu’n 18 oed ar 31 Awst 2011 ac os ydynt yn parhau i astudio cwrs amser llawn neu’n astudio am o leiaf 12 awr yr wythnos mewn coleg. Mwy a chyfweliad gyda Leighton Andrews, y Gweinidog Plant, Addysg a Dysgu Gydol Oes (youtube)
Mae’r Dirprwy Weinidog dros Wyddoniaeth, Arloesi a Sgiliau, Lesley Griffiths AC wedi cyhoeddi hwb o £4.5 miliwn i hyfforddi pobl yn y Diwydiannau Creadigol i feithrin eu sgiliau er mwyn creu sector blaengar a deinamig.
(Yn anffodus, nid yw'r erthygl canlynol ar gael yn y Gymraeg)
Average spend per pupil on local authority education in Wales in 2009-10 was £5,595. This compares to £6,200 in England (£6,007 excluding London).
Y Fframwaith Effeithiolrwydd Ysgolion yw’r fframwaith cyffredin sy’n ceisio trawsnewid safonau a darpariaeth addysgol yng Nghymru. Er mwyn helpu ysgolion i egluro sut y dylid ystyried y fframwaith mae cyflwyniad ‘power point’ ar gael ar wefan FfEY.
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn gweithio ar y cyd â darparwyr hyfforddiant I godi proffil prentisiaethau ymhlith cyflogwyr yng Nghymru. Mae’r gweithgareddau’n cynnwys radio, y wasg, cysylltiadau cyhoeddus a digwyddiadau darparwyr.
Roedd nifer y disgyblion ym mhob etholaeth yn amrywio o 7,790 yn Nwyfor Meirionnydd, i 17,834 yng Ngorllewin Caerdydd.
Os nad yw eich sefydliad chi eisoes yn cymryd rhan yn WorldSkills Llundain 2011, dyma gyfle i chi fod yn rhan ohono! Mae WorldSkills yn chwilio am dros 100 o ysgolion, colegau, sefydliadau hyfforddi a grwpiau cymunedol, ar draws y DU i fod yn rhan o Arddangosfa Dalent ac i ddathlu talentau’r DU.
Mae Gwobrau Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid Cymru a gynigir ar y cyd gan Wasanaeth Ieuenctid yr awdurdod lleol a gwirfoddol a Llywodraeth Cynulliad Cymru, yn gyfle i waith caled, arloesed ac ymroddiad pobl ifanc, gweithwyr ieuenctid a phrosiectau gael eu cydnabod gan gydweithwyr a phobl ifanc. I wneud cais am y gwobrau, y cwbl sy'n rhaid i chi wneud yw lawrlwytho a dychwelyd y ffurflen/ni erbyn 25 Chwefror 2011.
(Yn anffodus, nid yw'r erthyglau canlynol ar gael yn y Gymraeg)
The Education Bill was introduced into the House of Commons on Wednesday 26 January 2011. The Education Bill takes forward the legislative proposals in the Schools White Paper, The Importance of Teaching.
The UK Employer Perspectives Survey 2010 report is now available to download from the UK Commission for Employment and Skills website. The Employer Perspectives Survey 2010, questioned 14,390 employers about their awareness, level of engagement and satisfaction with a range of government-funded support services. 1,987 interviews were conducted with employers in Wales. The survey found that 56% of Welsh employers accessed support from government in the areas of business services, recruitment or skills over the last 12 months.