
Cafodd menter Cydgyfeirio newydd gwerth £7 miliwn i atal miloedd o bobl ifanc difreintiedig rhag gadael ysgol, a dod yn economaidd anweithgar, ledled Blaenau’r Cymoedd ei gyhoeddi gan John Griffiths, y Dirprwy Weinidog dros Sgiliau.
Mae Estyn wedi cyhoeddi adroddiad sy’n nodi sut mae Safonau Cyfranogiad Cenedlaethol Plant a Phobl Ifanc Cymru yn cysylltu â Fframwaith Arolygu Cyffredin Estyn. Bwriedir i’r adroddiad helpu staff mewn ysgolion a darparwyr eraill i adolygu eu gweithdrefnau hunanarfarnu ac i ystyried a yw plant a phobl ifanc yn chwarae rhan ddigonol yn y broses.
ac ymateb LlCC i adroddiad cylch gwaith Estyn
Mae hwn yn adolygiad gwerthuso llawn o’r gwasanaeth y mae Cymorth Athrawon Cymru yn ei ddarparu. Lansiwyd Cymorth Athrawon Cymru gan y Gweinidog yng Nghymru ym mis Ebrill 2002 fel rhan o’r Rhwydwaith Cymorth Athrawon yng Nghymru (gynt y Gronfa Les Athrawon). Mae’n darparu gwasanaeth cwnsela, cefnogi a chynghori yn rhad ac am ddim i athrawon yng Nghymru.
Mae’r ddogfen hon yn rhoi gwybodaeth am y llwybrau trwy gyflogaeth i addysgu a fydd yn arwain at ennill Statws Athro Cymwysedig (SAC). Ffordd o ennill Statws Athro Cymwysedig (SAC) drwy gael hyfforddiant sy'n seiliedig ar gyflogaeth yw'r Rhaglen Athrawon Graddedig (RhAG). O dan y RhAG, gall graddedigion sydd heb SAC gael caniatâd Llywodraeth Cynulliad Cymru i ymgymryd â hyfforddiant mewn ysgol wrth ddilyn rhaglen hyfforddi gymeradwy.
Yn ystod 2008, arolygodd Estyn y dysgu mewn tri o’r pedwar carchar i ddynion yng Nghymru a chyfrannodd at arolygiad dan arweiniad Ofsted o garchar i ferched yn Lloegr sy’n dal merched o Gymru. Hefyd, arolygydd Estyn ddysgu i droseddwyr yn y gymuned, yn y pedair ardal prawf yng Nghymru.
Roedd 125,540 o fyfyrwyr AU wedi'u cofrestru gyda Sefydliadau Addysg Uwch yng Nghymru, 2.1 y cant yn is na 2006/07. Roedd 38 y cant yn fyfyrwyr rhan-amser. Roedd 101,965 o fyfyrwyr AU a oedd yn hanu o Gymru wedi'u cofrestru gyda Sefydliadau Addysg Uwch yn y DU, 3 y cant yn is na 2006/07.
Mi fydd chwilio am waith ymchwil sydd wedi ei gyhoeddi gan academyddion o Sefydliadau Addysg Uwch yn Nghymru dipyn yn hawddach yn dilyn lansio gwasanaeth ar-lein newydd – Y Rhwydwaith Cadwrfeydd Cymreig.
Mae Dysgu Gydol Oes yn y DU wedi cael cytundeb i lunio canllaw cymhwyso ar gyfer ymarferwyr dysgu gydol oes yng Nghymru sy’n cyflwyno Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang. Bydd y canllaw hwn yn diffinio gwybodaeth, dealltwriaeth ac arfer proffesiynol Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang sy’n ofynnol gan y rheiny sy’n gweithio ym maes addysg bellach, dysgu seiliedig ar waith, a darparwyr dysgu oedolion yn y gymuned yng Nghymru.
Cafwyd yn yr ymgynghoriad hwn wybodaeth am y newidiadau y mae angen eu gwneud i’r ddeddfwriaeth bresennol sy’n effeithio ar Gyngor Addysgu Cyffredinol Cymru o ganlyniad i Ddeddf Diogelu Grwpiau Agored i Niwed 2006.
(Yn anffodus, nid yw'r erthyglau ar gael yn ddwyieithog)
Hundreds of employers have given Apprenticeships the thumbs up in a new survey in which 81 per cent of businesses said apprentices helped to generate higher overall productivity.
Growth in higher education will be delivered through an increase in the number of part-time students as demographic changes mean a falling number of 18 year olds, John Denham told senior academics at a conference to debate the future of higher education.
The focus of this e-bulletin from the UK Commission for Employment and Skills is on employment and skills issues from research and policy perspectives. This edition's spotlight feature examines a new Welfare Reform White Paper, Raising Expectations and Increasing Support. The report sets out the UK Government's proposals for reforming the welfare state, in particular focusing upon a vision for a personalised welfare with higher expectations.
On February 24 LLUK published 'The Training Game', a special supplement with The Guardian that looks at aspects of the skills and training world in the light of the current economic climate. The supplement covers a range of subjects, from the impact of informal learning in libraries to developments in the higher education sector.