
Bu’r Adolygiad yn ystyried a yw’r trefniadau presennol, yn parhau’n berthnasol i’r heriau sy’n wynebu’r sector Addysg Bellach a’r economi ehangach o ran diwallu anghenion cyflogwyr, unigolion a’r gymuned, heddiw ac yn y dyfodol.
Rhoddwyd i’r Adolygiad y dasg o ystyried a oedd y ffurfiau presennol o lywodraethu cenedlaethol a sefydliadol wedi cyd-fynd ag anghenion, disgwyliadau a gofynion y dyfodol ym maes Addysg Uwch yng Nghymru a chanfod y newidiadau y mae eu hangen. Cyflwynodd y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ei adroddiad i’r Gweinidiog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes ar 17 Chwefror 2011.
Mae Estyn wedi ymrwymo i ledaenu'r ymarfer gorau drwy feysydd addysg a hyfforddiant. Gwyliwch ein ffilm ddiweddaraf i weld o lygad y ffynnon sut ybu i un ysgol uwchradd gyrraedd safon perfformiad uchel dros ben.
Cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog dros Wyddoniaeth, Arloesi a Sgiliau, Lesley Griffiths, gynllun gwerth £7.5m i helpu dros 5000 o weithwyr yn y Gogledd i ddysgu sgiliau newydd a gwella cynhyrchiant yn y gweithle. Coleg Llandrillo Cymru fydd yn arwain cynllun Y Dyfodol.
Mae atal trais yn erbyn menywod a cham-drin domestig a chodi ymwybyddiaeth ohonynt yn un o flaenoriaethau allweddol Llywodraeth Cynulliad Cymru. Er mwyn cefnogi athrawon, datblygwyd canllaw ar-lein ‘Addysgu am drais yn erbyn menywod a cham-drin domestig’ ac mae ar gael ar wefan canllawiau addysg bersonol a chymdeithasol (ABCh). Mae'r canllawiau hyn yn ategu Gwybodaeth a Chanllawiau ar Gam-drin Domestig; Diogelu Plant a Phobl Ifanc yng Nghymru (LlCC Mawrth 2010).
Mae’r adolygiad wedi’i gwblhau i adolygu gwaith ataliol mewn ysgolion a lleoliadau addysgol eraill i fynd i’r afael â thrais teuluol, gan ddarparu argymhellion yn nodi cydrannau rhaglen lwyddiannus i fynd i’r afael â thrais teuluol.
Mae Llywodraeth y DU wedi lansio canllawiau newydd i helpu gweithwyr proffesiynol rheng flaen fel athrawon i rwystro a delio â phroblem anffurfio organau cenhedlu menywod. Mae’r canllawiau’n egluro’r materion cymhleth sy’n gysylltiedig â hyn, yn helpu gweithwyr proffesiynol i adnabod yr arwyddion a allai olygu bod menywod neu ferched mewn perygl, ac i bennu’r camau y dylai’r gweithwyr hyn eu cymryd.
Yn 2009/10 roedd yna tua 20,140 aelod o staff yn gweithio mewn Sefydliadau Addysg Uwch yng Nghymru, 45 yn fwy nac yn 2008/09. Prifysgol Caerdydd oedd yn cyflogi'r nifer fwyaf o staff (5,880).
Fe gyhoeddodd Edwina Hart, y Gweinidog Iechyd, fod disgwyl i’r ymrwymiad yn Cymru’n Un i sicrhau bod nyrs ysgol ym mhob ysgol uwchradd yng Nghymru gael ei gyflawni erbyn diwedd y Cynulliad hwn.
Cyhoeddodd Leighton Andrews, y Gweinidog dros Addysg, fod Mr Roger Thomas, Cadeirydd Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, wedi'i ailbenodi am ail dymor o dair blynedd o 5 Mai 2011 ymlaen.
Casgliad yw hwn o waith gan oddeutu 20 athro, oedd yn fodlon enghreifftio sut mae cyfryngau digidol yn cynorthwyo ac yn cyffroi'r dysgu sy'n digwydd yn eu hystafell ddosbarth.
Mae hon yn un o bedair uned sy’n cynnwys amrywiaeth o weithgareddau darllen, gwrando ac ysgrifennu rhyngweithiol, lle mae’r prif ffocws ar ddatblygu sgiliau a strategaethau dysgu iaith.
(Yn anffodus, nid yw'r erthyglau canlynol ar gael yn y Gymraeg)
The National Network for Children in Employment & Entertainment (NNCEE) is running a national initiative ‘Child Employment Fortnight’ from 28 March to 8 April. 2011. This year the focus is on ensuring that children who do work are doing so safely. If you would like further information of activities within local authorities in Wales, please contact the Safeguarding Team.
Achievements and participation of 16- to 18-year-olds in education have improved, but issues with performance management and accountability arrangements remain.
The headline recommendation of the NIACE-led Independent Inquiry into Numeracy - which published seven recommendations to the UK Government - is that a new approach to numeracy is needed that focuses on how adults use maths and numbers in everyday life.
Using evidence from Her Majesty’s Inspectors’ focused surveys of primary and secondary schools, this report evaluates the provision of design and technology (D&T) in the curriculum.
Noder: mi fydd rhifyn arbennig o gylchlythyr Dysg yn cael ei ddosbarthu ar ddydd Iau (31 Mawrth) cyn i'r cyfnod cyn etholiad gychwyn.