
Bwriad y cylchlythyr yw adrodd ar ddatblygiadau polisi ym myd addysg a hyfforddiant ôl-14 yng Nghymru a Lloegr.
Mae'r ddogfen hon yn cyflwyno strategaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer datblygu gwasanaethau cynghori mewn ysgolion i blant a phobl ifanc sy’n o safon uchel. Mae wedi ei gyflwyno mewn ymateb i argymhelliad yn Adroddiad Ymchwiliad Clywch Comisiynydd Plant Cymru a hefyd er mwyn cyflwyno un o’r camau allweddol a nodir yn y Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Plant, Pobl Ifanc a'r Gwasanaethau Mamolaeth yng Nghymru.
Mae’r ddogfen yn cyflwyno y fframwaith ar gyfer darparu addysg ynglÅ·n â CEB a chanllawiau ar sut y gellir bodloni’r gofynion yn ymarferol. Mae CEB yn rhan o ofynion y Craidd Dysgu a Llwybrau Dysgu 14-19.
Roedd amrywiaethau daearyddol o bwys mewn cyfranogiad ôl-16 yn 2006/07. Yr awdurdodau unedol a oedd â’r graddfeydd cyfranogiad safonol uchaf ymhlith dysgwyr ôl-16 oedd Sir y Fflint, Sir Ddinbych a Chonwy. Yr awdurdodau unedol a oedd â’r graddfeydd cyfranogiad safonol isaf ymhlith dysgwyr ôl-16 oedd Casnewydd, Blaenau Gwent a Rhondda Cynon Taf .
Ar y cyfan, gwelwyd cynnydd yn lefelau cymhwyster yng Nghymru yn 2008, yn parhau â’r cynnydd cyffredinol dros y blynyddoedd diweddar. Amcangyfrifwyd bod 14 y cant o oedolion o oedran gweithio yng Nghymru heb gymhwyster, 1 pwynt canran yn llai nag yn 2007. Roedd gan 70 y cant o’r holl oedolion o oedran gweithio yng Nghymru gymhwyster lefel 2 neu uwch. Roedd y gyfran â chymhwyster lefel gradd (NQF lefel 4 neu uwch) yn 28 y cant.
Mae’r Gweinidog Addysg Jane Hutt yn croesawu pecyn gwerth mwy na £67 miliwn o gyfalaf i’w fuddsoddi i wella addysg yng Nghymru. Y pedwar prosiect yw: mae £35 miliwn yn cael ei roi i Ebbw Vale Learning Works, mae £12 miliwn yn cael ei roi i Gampws Dysgu Taf Elái, mae £15 miliwn yn cael ei roi i Ganolfan Celfyddydau ac Arloesi Da Vinci ym Mhrifysgol Bangor ac y mae £5.3 miliwn yn cael ei roi i brosiect Ysgolion yr 21ain ganrif yng Ngwynedd.
Mae Sgiliau Hanfodol Cymru yn gyfres newydd o gymwysterau sgiliau a fydd yn disodli Sgiliau Allweddol Cyfredol Cyfathrebu, Cymhwyso Rhif a TGCh, yn ogystal â Sgiliau Sylfaenol Llythrennedd Oedolion, Rhifedd Oedolion a TGCh Sgiliau am Oes. Bydd y gyfres newydd hon o gymwysterau sgiliau yn cael ei gweithredu o 1 Medi 2010. Darllenwch am fwy o wybodaeth.
Mae Estyn wedi cyhoeddi adroddiad ar sut y mae Cymru yn cefnogi’r nifer gynyddol o blant gweithwyr ymfudol, yn enwedig o wledydd eraill yn yr Undeb Ewropeaidd. Canfu arolygwyr Estyn fod nifer y plant gweithwyr ymfudol wedi cyrraedd y nifer uchaf erioed, ond bod ysgolion yng Nghymru wedi llwyddo i sicrhau eu bod yn meithrin perthynas dda â’r dysgwyr hyn a’u bod yn integreiddio’n llwyddiannus ym mywyd yr ysgol. Datganiad i’r wasg, yr adroddiad, Ymateb LlCC
(Yn anffodus, nid yw'r erthygl ar gael yn ddwyieithog)
In total, 477,277 applicants were accepted to full-time degree, foundation degree and HND courses, across the UK, starting in autumn 2009. This figure is 6 per cent higher than at the same point last year. 20,230 Welsh domiciled applicants were accepted, an increase of 10.7 per cent compared with last year (18,275).
Mae Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (CyngACC) yn annog athrawon, undebau a'r cyhoedd i ymateb i'w God Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol a fydd i'w weld am y tro cyntaf ar 20 Hydref 2009. Mae'r cod, sy'n amlinellu'r ymddygiad a'r safonau ymarfer a ddisgwylir gan athrawon cofrestredig yng Nghymru, yn ddatblygiad ar y canllawiau presennol.
Lansiodd y Dirprwy Weinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Gwenda Thomas, becyn dysgu arloesol i helpu plant prin eu golwg i wneud y gorau o’r golwg sydd ganddynt. Cafodd y Pecyn Cymorth i Blant Prin eu Golwg ei ddatblygu gan Eiriolydd Plant Prin eu Golwg Cymru, a chafodd ei dreialu gyda phlant a phobl ifanc ledled Cymru. Cafodd ei ddylunio i’w dysgu am eu golwg a beth allan nhw ei wneud i fanteisio i’r eithaf ar y golwg sydd ganddynt.
(Yn anffodus, nid yw'r erthyglau ar gael yn ddwyieithog)
Simply providing learners with “food labelling” style information about courses could free up more money for front-line learning, according to a report by the UK Commission for Employment and Skills. The report, “Skills, Jobs, Growth,” says that providing learners with information which is easy to understand and compare is the key to making both FE and HE provision higher quality, less bureaucratic, and more responsive to employer needs. The report: Towards Ambition 2020: skills, jobs, growth
Education Minister Iain Wright announced a major step towards all young people continuing in education and training until 18. Trials launched in 11 areas, backed by £1m of Government investment, will pave the way for the raising of the participation age (RPA) across England in 2015.
Following a record-breaking processing year for applications, the provisional final figures for the number of students being accepted into university or college has now been released by UCAS; 477,277 applicants have now had a place confirmed at a university or college this year, an increase of 25,406 (5.6%) on the same point last year.
The Talisman is a printed newspaper specifically for adult training and Further Education providers. This issue is all about equalities and diversity with features on Warwickshire College and Brook House Sixth Form College, plus contributions from the National Learner Panel and union learn.
**Os dymunwch dderbyn y cylchlythyr wythnosol yn y Gymraeg, anfonwch e-bost at rhys.davies4@wales.gsi.gov.uk
This newsletter may contain links to websites that are created and maintained by other organizations. The Dysg newsletter does not necessarily endorse the views expressed on these websites, nor does it guarantee the accuracy or completeness of any information presented there.