
Yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth y DU ar yr Adolygiad o Wariant, gall Llywodraeth Cynulliad Cymru bellach gwblhau eu cyllideb ddrafft eu hunain, fydd yn cael ei chyhoeddi ganol Tachwedd, gyda’r gyllideb derfynol yn cael ei chyflwyno i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ddechrau Chwefror 2011.
Roedd 192,770 o ddysgwyr wedi eu cofrestru mewn sefydliadau AB yn ystod 2008/09, 6.7 y cant yn llai nag yn 2007/08. Bu 43,485 o ddysgwyr yn dilyn gweithgaredd Dysgu Cymunedol Awdurdod Lleol yn 2008/09 (gan gynnwys y rheini a gofrestrwyd mewn sefydliadau AB ond a addysgwyd gan staff awdurdodau lleol), 1.5 y cant yn llai na’r flwyddyn flaenorol. Dilynodd 56,550 o ddysgwyr rhaglenni dysgu seiliedig ar waith mewn sefydliadau AB a darparwyr hyfforddi eraill yn 2008/09, 1.7 y cant yn llai nag yn 2007/08.
Rydym yn gwahodd ceisiadau i’r rownd gyllido olaf ar gyfer Cymhwyster Bagloriaeth Cymru ar y lefel Sylfaen ôl-16 a’r lefel Sylfaen a Chanolradd cyn-16. Dyma’r cyfle olaf i wneud cais i dderbyn arian i gyflwyno’r cymhwyster ac mae’r cyfnod ymgeisio’n cau ar 8 Tachwedd 2010. Cewch hyd i’r ffurflen gais, canllawiau a gwybodaeth am ariannu yma.
Ar y cyfan, gwelwyd cynnydd yn lefelau cymhwyster yng Nghymru yn 2009, sy’n barhad o’r cynnydd cyffredinol dros y blynyddoedd diweddar. Amcangyfrifwyd bod 14 y cant o oedolion o oed gweithio yng Nghymru heb unrhyw gymhwyster, yr un canran ag yn 2008.
Mae’r ymgynghoriad hwn yn ceisio safbwyntiau ynghylch Rheoliadau drafft darparu bwrsari i bobl sy’n gadael gofal ac yn dilyn cyrsiau addysgol. Bydd canlyniadau’r ymgynghoriad hwn yn llywio penderfyniadau ar gyfer y flwyddyn academaidd hon a thu hwnt. Y dyddiad cau ar gyfer ymatebion yw 15 Rhagfyr.
Roedd ymrwymiad Llywodraeth Cynulliad Cymru yn Cymru’n Un i greu adeiladau sy’n addas ar gyfer dysgu yn yr unfed ganrif ar hugain i’w weld yn glir heddiw wrth i Leighton Andrews, y Gweinidog dros Addysg agor yn swyddogol Ganolfan Adnoddau Dysgu a Ffreutur newydd Coleg Ystrad Mynach.
Bydd y gynhadledd yn cychwyn gydag anerchiad gan Lywydd NTfW, yr Arglwydd Rowlands CBE ac anerchiad gan y Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes, Leighton Andrews AC.
DVD dwyieithog a gyhoeddwyd gan Ganolfan Astudiaethau Addysg yw Cynhyrchu Cnydau yng Nghymru/Crop Production in Wales, sy’n cyflwyno'r prif ddulliau o gynhyrchu cnydau a'u defnydd wrth ffermio da byw. Am fwy o wybodaeth am adnoddau newydd, ewch i’r adran Llyfrau Newydd ar gwales.com.
Fel ran o’i hadolygiad o Anghenion Addysgol Arbennig, comisiynwyd Swyddfa Archwilio Cymru gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i archwilio'r gwaith o ddarparu adnoddau i ysgolion arbennig ac i nodi enghreifftiau o arfer da.
Mae'r cyhoeddiad hwn yn gosod dangosyddion iechyd, addysg ac agweddau eraill o fywyd yng Nghymru ochr yn ochr â ffigurau ar gyfer gwledydd eraill.
(Yn anffodus, nid yw'r erthygl ganlynol ar gael yn y Gymraeg)
This circular requests institutions to return aggregated student data to enable HEFCW to make allocations of funds for teaching, have early indications of student numbers and calculate fee compensation for ERASMUS registrations.
(Yn anffodus, nid yw'r erthyglau canlynol ar gael yn y Gymraeg)
In total, 479,057 applicants were accepted to full-time degree, foundation degree and HND courses, across the UK, starting in autumn 2010. This figure is 0.4 per cent higher than at the same point last year, but total applicants accepted is 0.3 per cent lower than 2009 when excluding acceptances that would previously have been processed by CATCH.
Ofqual has published the latest report from its on-going research programme into the reliability of results from national tests and qualifications used in England. This report gauges public perceptions of unreliability in examination results.
Items in this edition: Spending Review 2010 and Browne Review – Future of HE Funding 33 Edition
This publication includes more than 40 case studies focusing on the use of mobile technologies in the context of work-based and vocational learning.