
Mae’r gwaith o weithredu Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg Llywodraeth Cymru yn mynd yn ei flaen yn gyson yn ôl yr adroddiad blynyddol cyntaf. Datganiad i’r wasg a’r Adroddiad Blynyddol 2010-11
Yn ystod tymor yr hydref 2010, cafodd rhaglen Hyfforddiant ar gyfer Aseswyr Cymheiriaid ei chynnal gan ColegauCymru, ar ran yr Adran Addysg a Sgiliau. Nod yr rhaglen oedd rhoi gwybodaeth i staff o’r sector ôl-16 am fframwaith newydd Estyn, ac i annog darparwyr i weithio gyda’i gilydd ar brosesau hunanasesu a chynnal arolygiadau mewnol. Gall darparwyr gysylltu â ColegauCymru i ddod o hyd i unigolion addas o’r gronfa ddata i’w helpu i gael barn unigolion allanol wrth gynnal eu prosesau sicrhau ansawdd.
Gwelwyd cynnydd yn lefelau cymhwyster yng Nghymru yn 2010, sy’n parhau â’r cynnydd cyffredinol dros y blynyddoedd diweddar. Amcangyfrifwyd bod 12 y cant o oedolion o oedran gweithio yng Nghymru heb gymhwyster, o’i gymharu â 14 y cant yn 2009.
Mae’r adroddiad yma yn cyflwyno darganfyddiadau cam un o’r gwerthusiad ac yn canolbwyntio ar y darganfyddiadau o ddadansoddiad eilaidd o ddata ynghyd a chanlyniadau o arolygon o gynghorwyr ysgol, athrawon pennaeth/cyswllt a arweinion awdurdodau lleol/rheolwyr gwasanaeth.
Yn ystod 2009/10, roedd cyfanswm o 8,530 staff cyfwerth ag amser llawn (CALl), a gyflogir yn uniongyrchol gan sefydliadau AB yng Nghymru. Roedd y nifer cyffredinol y staff CALl, a gyflogir yn uniongyrchol gan sefydliadau AB yng Nghymru, wedi gostwng bron i 3 y cant rhwng 2008/09 a 2009/10.
Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno canfyddiadau’r adolygiad o Uned Addysg Ariannol Cymru (UAAC), a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru ac a gynhaliwyd gan Arad.
Mae’r ddogfen ymgynghori hon yn ceisio safbwyntiau ar Reoliadau drafft sy’n nodi gweithdrefnau sy’n ymwneud ag apelau anghenion addysgol arbennig (AAA).
(Yn anffodus, nid yw'r erthyglau canlynol ar gael yn y Gymraeg)
Different areas of the same cities and counties in Britain have huge disparities in educational achievement. The analysis, from UCU, reveals 'two Britains' divided between the educational haves and have nots. It ranks the 632 parliamentary constituencies in England, Scotland and Wales according to the percentage of working age people (16-64) who have no qualifications.
Intelligence is a monthly e-briefing which reports on key developments in the fields of employment and skills.