
Bwriad y cylchlythyr yw adrodd ar ddatblygiadau polisi ym myd addysg a hyfforddiant ôl-14 yng Nghymru a Lloegr.
Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf un am farchnata, gan yr Adran Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau. Ei bwriad yw dweud wrthych sut mae dysgu a sgiliau'n cael eu hyrwyddo ledled Cymru, yn genedlaethol, ac yn fwy lleol hefyd ar y cyd â phartneriaid.
Cafodd unigolion, sefydliadau a chyflogwyr eu cydnabod am eu hymroddiad arbennig i ragoriaeth mewn datblygu sgiliau yn y Gwobrau Hyfforddiant Cenedlaethol a Phrentisiaeth Fodern 2009. Mae’r gwobrau, a noddir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru’n rhoi llwyfan i Brentisiaid Modern, busnesi, darparwyr dysg a phrosiectau cydweithredol sydd wedi gwneud cyfraniad hynod i hyfforddiant.
Mae Jane Hutt, y Gweinidog Plant wedi cyhoeddi gwasanaeth Eirioli a Chynghori Cenedlaethol i blant a phobl ifanc, gyda chymorth £459,850 o gyllid newydd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Bydd y llinell gymorth y gyntaf o’i bath yn y DU i’w rhoi ar waith yn genedlaethol, a bydd yn rhoi cyfle i blant a phobl ifanc dderbyn cymorth ar faterion sy’n bwysig iddynt, os ydynt yn teimlo nad oes neb yn gwrando arnynt neu nad ydynt yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt. Bydd y llinell gymorth ar gael drwy linellau ffôn am ddim, tecstio, e-bostio a negeseuon gwib am ddim.
Croeso i'r cylchlythyr Fframwaith Credydau a Chymwysterau cyntaf ar gyfer Cymru. Nod y cylchlythyr yw rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i randdeiliaid am Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru (FfCChC).
Mae rhaglen gwerth £33 miliwn, sy’n rhoi cyfle i gannoedd o unigolion ymgymryd ag ysgoloriaeth i feithrin sgiliau sy’n angenrheidiol i ddatblygu economi gwybodaeth Cymru, wedi cael ei lansio gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Dros y pum mlynedd nesaf, bydd rhaglen Ysgoloriaethau Sgiliau’r Economi Wybodaeth (KESS) yn cynnig lleoedd i dros 400 o fyfyrwyr Doethuriaeth a myfyrwyr Meistr i ddatblygu sgiliau uwch trwy brosiectau ymchwil a fydd yn cael eu cynnal ar y cyd â chwmnïau o Gymru.
Mae Jane Davidson, y Gweinidog dros yr Amgylchedd, wedi lansio pecyn newydd gan Lywodraeth y Cynulliad i ysgolion i geisio ennyn diddordeb disgyblion yn y newid yn yr hinsawdd er mwyn sicrhau bod eu llais yn cael ei glywed mewn trafodaethau hollbwysig yn Copenhagen fis Rhagfyr hwn. Nod y pecyn yw annog dosbarthiadau i ystyried y materion hyn a sut y gallwn gytuno ar ddêl newydd i leihau allyriadau nwyon tÅ· gwydr byd-eang.
Nod yr arolwg hwn yw gwella adran ystadegau ein gwefan. Ni ddylai gymryd mwy na 5 munud i’w gwblhau.
(Yn anffodus, nid yw'r erthyglau ar gael yn ddwyieithog)
An Ofsted report published last week showcases 12 outstanding special schools that excel at providing for very vulnerable children and young people. It shows how these schools deal with complex special educational needs, behavioural difficulties, disabilities and pupils excluded from mainstream schools. The report, Twelve outstanding special schools - Excelling through inclusion, describes schools that have the highest aspirations for every child and aim never to give up on them.
This is the latest edition of the FE and Skills e-newsletter - a direct news and information link from BIS to the further education (FE) and skills sector.