
Cylchlythyr Dysg: Dydd Llun 22 Tachwedd (Rhifyn 229)
Mae’r Gweinidog wedi comisiynu Grŵp Gorchwyl a Gorffen annibynnol i ystyried strwythurau presennol y gwasanaeth addysg ledled Cymru. Ysgrifennodd Cadeirydd y grŵp at nifer o randdeiliaid addysg ar 19 Tachwedd, yn gofyn am eu ymatebion. Mae’r llythyr yn cynnwys fwy o wybodaeth am aelodau’r grŵp a’r cylch gwaith.
‘Heddiw rwy’n cyhoeddi Uchelgeisiau i’r Dyfodol: datblygu gwasanaethau gyrfaoedd yng Nghymru. Mae’r adroddiad hwn yn ganlyniad arolwg o wasanaethau gyrfaoedd a gomisiynwyd yn ystod Hydref 2009. Mae’n cwmpasu proses ddwys dros fisoedd lawer o gasglu tystiolaeth gan brif randdeiliaid yn y maes addysg a gwybodaeth, cyngor a chyfarwyddyd gyrfaoedd.’ Datganiad a’r adroddiad.
Yr wythnos hon, lansiwyd gwefan Ysgolion yr 21ain Ganrif, cydweithrediad unigryw rhwng Llywodraeth y Cynulliad a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, er mwyn rhoi gwybodaeth am Raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif i awdurdodau lleol a rhanddeiliaid eraill. Mae’r wefan yn cynnwys canllawiau, arferion gorau ac astudiaethau achos a fydd o ddefnydd a diddordeb i chi.
Mae'r 'Gronfa Ariannol wrth Gefn 2010/11' yn nodi'r telerau a'r amodau sy'n gysylltiedig â thaliadau a roddir i sefydliadau gan Weinidogion Cymru. Mae'r grant yn cael ei glustnodi'n benodol er mwyn rhoi cymorth i fyfyrwyr sydd mewn angen penodol.
Cyfres Bwrlwm (Canolfan Astudiaethau Addysg) - cyfres o 12 llyfr ffeithiol wedi’u hysgrifennu mewn modd syml a chyfeillgar ar gyfer darllenwyr anfoddog Mae’r gyfres yn cynnwys llyfrau ar Geir Cyflym, Nenblymio ac Arwyr a Dihirod.
Gramadeg Ffrangeg - Adnodd ar gyfer dysgu ac adolygu gramadeg Ffrangeg ar gyfer disgyblion sy’n dysgu Ffrangeg ac yn bwriadu ei ddilyn tuag at TGAU.
Mae plant a phobl ifanc ledled Cymru yn cael eu hannog i hyrwyddo negeseuon cadarnhaol am eu gweithgareddau yn y cyfryngau er mwyn gwrthbwyso'r delweddau negyddol a welir ohonynt yn aml mewn cymdeithas.
Nod y gynhadledd oedd cyflenwi pobl broffesiynol ym maes addysg gyda’r sgiliau, gwybodaeth, a’r ddealltwriaeth i fynd i’r afael â bwlio ar sail rhywiau mewn ysgolion. Mae’r cyflwyniadau o’r gynhadledd nawr ar gael.
Mae APADGOS, ar y cyd ag amrywiaeth eang o randdeiliaid, wedi bod yn edrych ar y Dimensiwn Rhyngwladol mewn Addysg a’r effaith mae’n ei gael ar effeithiolrwydd ysgolion a chyrhaeddiad dysgwyr – a chafwyd chanlyniadau cadarnhaol iawn. Datblygwyd offer newydd i helpu ysgolion i asesu’r effaith a chynllunio ar gyfer y dyfodol a pharatowyd enghreifftiau o weithgareddau sydd wedi profi’n llwyddiannus. Bydd y rhain oll yn berthnasol i’r Fframwaith Effeithiolrwydd Ysgolion a’r Fframwaith Arolygu Cyffredin. Rhagor o wybodaeth.
Rhoddodd APADGOS gyllid drwy raglen a reolir gan y Cyngor Prydeinig i grŵp o ysgolion sefydlu cysylltiadau ag ysgolion yn British Columbia. Pwrpas yr ymweliadau, a gynhelir fis Chwefror nesaf, yw edrych ar y modd y mae ysgolion British Columbia yn gwella llythrennedd a rhifedd drwy Gymunedau Dysgu Rhyngwladol a rhannu syniadau, meithrin cysylltiadau a chreu rhwydwaith rhyngwladol a fydd o fudd i’r ddwy wlad. Mae hwn yn ddatblygiad unigryw, oherwydd prin iawn yw'r enghreifftiau gwirioneddol o’r rhwydweithiau dysgu Rhyngwladol hyn. Ceir rhagor o fanylion gan Michelle Jones.
Y Fframwaith Cymwysterau Ewropeaidd yw’r fframwaith cyfeirio cyffredin sy’n cysylltu cymwysterau gwahanol wledydd gyda’i gilydd. Mae’n ei gwneud yn haws deall cymwysterau a systemau o un wlad i’r llall yn Ewrop, gan gynorthwyo dysgwyr a gweithwyr sy’n symud rhwng gwledydd, o swydd i swydd ac o un sefydliad addysgu i un arall.
Mae’r Cyngor Prydeinig yn trefnu digwyddiad ar gyfer AB o’r enw: Rhyngwladoli mewn amseroedd heriol: ysbrydoliaeth a chyfleoedd. Bydd y gynhadledd yn dwyn ynghyd amrywiaeth o arbenigwyr ym maes gweithgarwch rhyngwladol mewn AB ac Addysg a Hyfforddiant Galwedigaethol. Ceir cyflwyniadau gan John Mountford, Rheolwr Rhyngwladol Cymdeithas y Colegau ac ymarferwyr profiadol o’r sector AB yng Nghymru. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch ag Edwina Lewis-Chaston yn y Cyngor Prydeinig, Caerdydd.
Gyda chefnogaeth APADGOS, penododd Colegau Cymru Gydlynydd Symudedd Addysg a Hyfforddiant Galwedigaethol yn ddiweddar. Bydd Siân Holleran yn gweithio gyda’r holl Sefydliadau Addysg Uwch yng Nghymru i ddatblygu a chefnogi cyfleoedd symudedd i ddysgwyr, gan roi blaenoriaeth ar gyflwyno ceisiadau am gyllid yr UE drwy’r rhaglen Leonardo da Vinci erbyn mis Chwefror 2011. Bydd y gwaith hwn yn galluogi 30 o fyfyrwyr i fynd ar leoliad gwaith am 3 wythnos mewn gwlad arall yn Ewrop. Yn ail, bydd y swydd hon yn cefnogi a datblygu cyfleoedd rhyngwladol ym maes recriwtio a masnach. I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â Sian Holleran
(Yn anffodus, nid yw'r erthyglau canlynol ar gael yn y Gymraeg)
A proposal that the GCSE should be adapted to become a national examination for 14-year-olds is made by Professor Alan Smithers and Dr Pamela Robinson of the University of Buckingham in a report published today by the Sutton Trust, which commissioned their research comparing education systems in the 30 countries of the OECD.
Tax Matters offers an accessible introduction to tax and National Insurance. The resources are designed especially for young people aged 11-19.
This research aims to inform succession planning across colleges in England by developing a deeper understanding of what motivates people to apply for senior jobs in FE, and what deters them.
Business Secretary Vince Cable and Skills Minister John Hayes have launched the Government's strategy for skills and reform of the further education and skills system.