
Heddiw mae’r Gweinidog Addysg, Leighton Andrews, wedi croesawu agwedd gadarn Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) wrth wrthod yr holl gynlluniau ffioedd a gyflwynwyd gan Sefydliadau Addysg Uwch a Sefydliadau Addysg Bellach Cymru.
Mae Chwaraeon Cymru’n annog Penaethiaid i ymwneud â’r Arolwg ar Chwaraeon Ysgol. Yn ychwanegol at helpu athrawon ac ysgolion i ddangos tystiolaeth o les, mae’r wybodaeth a geir o’r arolwg yn allweddol bwysig i’r sector chwaraeon er mwyn helpu i ganfod cryfderau’r ddarpariaeth a’r bylchau sydd ynddi, i siapio polisïau chwaraeon yn genedlaethol ac yn lleol ac i sicrhau bod pob plentyn yn gwirioni ar chwaraeon am oes.
Un agwedd ar ein cynllun cyfathrebu a marchnata i godi safonau llythrennedd plant yng Nghymru yw'r ymgyrch yn y sinema. Mae'r hysbyseb wedi'i thargedu at blant 7-11 oed ac enw'r hysbyseb yw ‘Darllen sy’n dechrau’r daith’.
Mae’r canllaw hwn, a gaiff ei ddiweddaru’n flynyddol, yn pennu’r gofynion ar gyfer darparwyr ôl-16 o ran cyflwyno adroddiad hunanasesu blynyddol a chynllun datblygu ansawdd. Defnyddir hunanasesu fel y man cychwyn ar gyfer monitro perfformiad. Mae hynny’n ein galluogi ni i farnu pa mor gywir yw barn y darparwyr ynghyd â mynd i’r afael ag unrhyw bryderon y byddwn yn eu gweld.
Mae Coleg Catholig Dewi Sant yn cynnal digwyddiad lledaenu gwybodaeth ar gyfer yr holl feysydd rhagoriaeth a nodwyd yn Adroddiad Estyn ar y coleg ym mis Tachwedd 2010. Mae’r coleg wedi lleihau’r gost o fynychu i £100 (arferai’r gost fod yn £130) a hynny gyda chymorth cronfa newydd Llywodraeth Cymru ‘Cronfa Rhannu Arferion Da y Sector’. Bydd y gronfa yn helpu i gydnabod a hyrwyddo’r hyn y mae’r sector ôl-16 yng Nghymru wedi’i gyflawni a lledaenu’r arferion gorau. I gael rhagor o wybodaeth am y digwyddiad cliciwch mwy (ddim ar gael yn Gymraeg) neu ebostiwch Post16quality@wales.gsi.gov.uk
Lansiwyd rhaglen cam 2 Menter Addysg ac Ymchwil y DU ac India yn swyddogol gan Lywodraeth y DU. Mae’r holl wybodaeth am y pedwar maes sydd ar agor ar gael ar wefan UKIERI 2. Wedi’i hariannu’n rhannol gan Lywodraeth Cymru (AdAS), mae’r fenter hon o ddiddordeb i’r Sefydliadau Addysg Bellach a’r Sefydliadau Addysg Uwch sydd â chysylltiadau presennol gyda sefydliadau yn yr India neu sydd wrthi’n datblygu cysylltiadau ar hyn o bryd. I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â: ukieri@in.britishcouncil.org
Er mwyn rhoi mynediad mwy hyblyg i athrawon i ddatblygiad proffesiynol, mae CILT Cymru wedi creu dewislen o gyfleoedd DPP mewn amryw o fformatau. Gall ysgolion neu grwpiau o ysgolion, AALlau neu gonsortia gael mynediad at hyfforddiant. Mae CILT Cymru hefyd yn darparu ymweliadau ymgynghorol am ddim i ysgolion i gefnogi pob agwedd o addysgu a dysgu Ieithoedd Tramor Modern. Os hoffech ragor o wybodaeth, cysylltwch â Kristina Hedges, Rheolwr Rhaglen
Mae arian ar gael i athrawon a phenaethiaid ymweld ag ysgol bartner mewn unrhyw wlad a ystyrir yn gyrchfan pell (h.y. y tu allan i Ewrop). Diben yr ymweliad fyddai sefydlu partneriaeth yn seiliedig ar y cwricwlwm neu ddatblygu cysylltiad sydd eisoes yn bodoli. Gellir ariannu costau teithio, bwyd a llety. Uchafswm y grant a roddir i bob person am ymweliad yw £1000.
Drwy'r rhaglen hon, gwahoddir penaethiaid i wneud cais i fod yn rhan o'r grŵp a fydd yn ffurfio cysylltiadau ag ysgolion yn UDA (Chicago). Ffocws yr ymweliad fydd meithrin cysylltiadau rhwng Cymunedau Dysgu Proffesiynol yng Nghymru ac UDA er mwyn canolbwyntio ar y cyd ar agwedd benodol ar wella ysgolion. Bydd dirprwyaeth o benaethiaid o Gymru yn ymweld â chlwstwr o ysgolion tebyg yn Chicago yn ystod tymor yr Hydref. Y dyddiad cau yw 1 Gorffennaf 2011
Gweithdy rhagarweiniol yw hwn sy'n cwmpasu egwyddorion, manteision addysgol, ymarferoldeb a hyfywedd partneriaethau ysgolion byd-eang. Bydd ysgol leol sydd wedi sefydlu partneriaeth ysgolion byd-eang yn rhannu ei profiad. Mae'r gweithdy ar gyfer staff ysgol sydd â diddordeb mewn sefydlu, neu sydd newydd sefydlu, partneriaeth ysgolion byd-eang.
Trefnir y rhaglen, a ariennir gan Llywodraeth Cynulliad Cymru, mewn partneriaeth â ColegauCymru a rhydd gyfle i ddarlithwyr Addysg Bellach yng Nghymru i ennill profiad o ymarfer addysgol da mewn gwahanol wledydd ar draws y byd.
Mae'r adnodd bwrdd gwyn rhyngweithiol hwn yn defnyddio detholiad o dirluniau ac astudiaethau o ffigurau gan Peter Prendergast fel symbyliad ar gyfer trafodaeth, dadansoddiad beirniadol a gwaith ymarferol.
Dyma gyfres o nodiadau ar gyfer athrawon, gweithgareddau ymarferol a nodiadau i ddysgwyr sy’n dilyn cwrs Drama Uwch CBAC.
(Yn anffodus, nid yw'r erthyglau canlynol ar gael yn y Gymraeg)
This Review aims to assess how children in this country are being pressured to grow up too quickly, and sets out some of the things that businesses and their regulators, as well as Government, can do to minimise the commercialisation and sexualisation of childhood.
This report provides a rich insight into the ways in which institutions and individual curriculum areas can make use of technology to respond more robustly to the demands of a changing world.