
Ar 16 Gorffennaf, anfonodd y Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes lythyr at benaethiaid sefydliadau a chyrff sy'n cynrychioli'r sector,fel cam dilynol i adroddiad PricewaterhouseCoopers, 'Adolygiad o’r gost o weinyddu’r system addysg yng Nghymru - Cam 1'. Mae Cam 2 , sef y cam gweithredu, wedi dechrau. Roedd y llythyr yn gosod her i'r cyrff hyn i esbonio sut y bydden nhw, yn unigol ac ar y cyd, yn ymateb i'r rhagdybiaethau yn yr adroddiad. Gofynnwyd am ymatebion erbyn 20 Medi. Mwy o wybodaeth ar yr adolygiad, ac ymatebewch i’r her.
Lansiodd Lesley Griffiths, y Dirprwy Weinidog dros Wyddoniaeth, Arloesi a Sgiliau, fuddsoddiad £17.5 miliwn i helpu gweithwyr nad oes llawer o sgiliau ganddyn nhw i wella'u sgiliau rhifedd a llythrennedd, pan fydd yn agor sgiliaucymru.
Nod yr adroddiad yw rhestru’r holl ddogfennau yr anfonodd y Gweinidog at benaethiaid yng Nghymru yn y flwyddyn academaidd flaenorol (2009-10). Y nod yw rhoi’r holl ganllawiau mewn un adroddiad er mwyn bod yn gyfeirbwynt brys i chi, eich cydweithwyr a’ch cyrff llywodraethu.
Clywodd cynrychiolwyr o ysgolion, awdurdodau lleol a’r sector ôl-16 beth mae’r fframwaith arolygu newydd yn ei olygu yn ymarferol mewn digwyddiad lansio a gynhaliwyd yn ystod yr haf. Amlinellodd Ann Keane, Prif Arolygydd EM, nodweddion allweddol yr arolygiadau arddull newydd i gynrychiolwyr a phwysleisiodd y pwysigrwydd a fydd yn cael ei roi i hunanarfarnu.
I gefnogi gweithwyr proffesiynol addysgol i gael dealltwriaeth gliriach a gwell o’r fframwaith arolygu newydd, mae Estyn newydd gyhoeddi’r ystod ganlynol o ddogfennau: Canllawiau hunanarfarnu (ysgolion) a hunanasesu (ôl-16), y trefniadau ar gyfer arolygiadau craidd yn esbonio’r hyn y mae angen i ddarparwr ei wybod cyn, yn ystod ac ar ôl arolygiad ac arweiniad i arolygwyr ar gynnal arolygiad a llunio barnau.
Tîm Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif – rhan o Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) – gomisiynodd y ddogfen hon i helpu awdurdodau lleol Cymru i lunio eu rhaglenni strategol. Cynhyrchwyd y canllaw ymarferol hwn i’r awdurdodau hynny sy’n datblygu cynlluniau i ad-drefnu ysgolion, er mwyn helpu i wneud rheoli’r broses mor esmwyth ac effeithlon â phosib. Nid canllaw cyfreithiol yw hwn, nac ychwaith ydyw’n ceisio darparu arweiniad ar ddehongli statud a chydymffurfio â’r gyfraith mewn perthynas â chynigion trefniadaeth ysgolion.
Mae 'Undod ac amrywiaeth' yn rhoi canllawiau ynglyn â chyfleoedd i hyrwyddo cydraddoldeb hiliol, ac amrywiaeth ethnig, diwylliannol, ieithyddol a chrefyddol yn y cwricwlwm ysgol yng Nghymru.
Mae’r Cod yn nodi egwyddorion a safonau allweddol ymddygiad ac ymarfer da i athrawon cofrestredig yng Nghymru. Bwriedir iddo lywio gweithredoedd a phenderfyniadau athrawon a rhoi gwybodaeth i rieni, disgyblion a’r cyhoedd am y safonau y gallant eu disgwyl gan athrawon cofrestredig.
Dathlir y Diwrnod Ewropeaidd ar gyfer Ieithoedd pob blwyddyn ar Fedi 26ain. Yng Nghaerdydd, mae Llwybrau at Ieithoedd Cymru yn ymuno â’r dathliadau drwy drefnu Diwrnod Hwyl i’r Teulu. Ar Ddydd Sul, Medi 26ain, 11yb-2yh, bydd Canolfan y Mileniwm Cymru yn rhedeg y diwrnod cyffrous hwn. Rhaglen y dydd
Cyhoeddwyd buddsoddiad o £28 miliwn i ddarparu sgiliau arwain a rheoli o safon fyd-eang ar gyfer busnesau Cymru y mae eu hangen er mwyn cystadlu’n llwyddiannus yn economi’r byd yn y 21ain ganrif.
Mae’r rhifyn yma yn cynnwys cyhoeddiadau diweddar a materion o ddiddordeb.
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ceisio barn defnyddwyr ystadegau addysg a dysgu gydol oes am ein cyfres bresennol o allbynnau ac am nifer o faterion penodol. Dechreuodd y cyfnod ymgynghori ar 8fed Medi am 12 wythnos.
A major review of special educational needs and disability arrangements published by Ofsted, reveals a range of concerns about the current system and how well it is serving children and young people.
Education Secretary Michael Gove today announced a major independent review of vocational education for 14- to 19-year-olds, to be led by Professor Alison Wolf, of King’s College London.
Since its first report in 2001, the Patterns series has examined the trends in UK higher education at both the sector and institutional level. We have built up a 10-year time series of information that has proved very useful to senior managers in the sector as well as being drawn upon by many outside higher education.
This review will be useful for teachers, headteachers and policymakers interested in science and how AfL can help teaching and learning.
The report considers the role of educational assessment in relation to inclusive education in mainstream settings, with a specific focus on the assessment of pupils with ASD.
The National Literacy Trust and Tom Palmer, author of the Foul Play football series, have teamed up again to develop free literacy resources for teachers and literacy professionals to celebrate the start of the new football season.