
Bwriad y cylchlythyr yw adrodd ar ddatblygiadau polisi ym myd addysg a hyfforddiant ôl-14 yng Nghymru a Lloegr.
Mae Jane Hutt, y Gweinidog Addysg, wedi estyn ei chefnogaeth i ddathliad a fydd yn para wythnos gyfan i gydnabod pwysigrwydd gweithwyr ieuenctid Cymru a'r grwpiau yn maent yn eu cynnal. Mae Wythnos Gwaith Ieuenctid, sy'n cychwyn ar 1 Tachwedd, yn fenter sy'n cael cefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru i annog mwy o bobl ifanc i gymryd rhan mewn gweithgareddau rheolaidd yn y gymuned. Y gobaith hefyd yw y bydd yn perswadio rhagor o bobl i ddod yn wirfoddolwyr a gweithwyr ieuenctid. Eleni bydd dros 300 o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal ym mhob cwr o'r wlad i ddathlu'r wythnos.
Bydd dros £34 miliwn yn cael ei fuddsoddi mewn rhaglen dysgu seiliedig ar waith i helpu bron i 8,000 o bobl ar draws Gorllewin Cymru a’r Cymoedd i wella’u sgiliau a hynny gan barhau yn eu swyddi, cyhoeddodd Jane Hutt, y Gweinidog Addysg. Bydd y rhaglen yn cynnig cyfleoedd dysgu cyfnod byr ar gyfer NVQ Lefel 4 ac uwch.
Mae’r llyfryn A5 defnyddiol yn rhoi gwybodaeth sylfaenol i ymarferwyr yng Nghymru ar gyngor, arweiniaid a chymorth cyllid, ynghyd â manylion cyswllt ar gyfer rhaglenni sydd ar gael ym maes addysg ryngwladol. Mae’r rhain yn cynnwys y rheini a ariennir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, y DU a’r UE, ynghyd â chymorth gan sefydliadau a mudiadau addysgol. Lluniwyd y canllaw gan NIACE DC ar y cyd ag Uned Addysg Ryngwladol Llywodraeth y Cynulliad mewn ymateb i anghenion ymarferwyr; cafodd ei ddosbarthu i bob sefydliad addysgol yng Nghymru yn gynharach y mis hwn.
Cyhoeddwyd yr Ystadegau Gwladol diweddaraf ar Ysgolion ac Athrawon, a gynhyrchir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, ar 29 Hydref 2009, yn unol â’r trefniadau a gymeradwywyd gan Awdurdod Ystadegau y Deyrnas Unedig. Mae’r gyfrol flynyddol ‘Ysgolion yng Nghymru: Ystadegau Cyffredinol 2009’ yn cyflwyno gwybodaeth ar y sector ysgolion yng Nghymru o nifer o ffynonellau, y prif un yw’r Cyfrifiad Ysgolion.
Gofynnwyd i bob darparwr Dysgu Seiliedig ar Waith gwblhau a chyflwyno adroddiad hunan-asesu erbyn 30 Hydref 2009. Mae Ymlaen Ceredigion wedi’u penodi gan APADGOS i helpu i ddatblygu ADCDF mewn Dysgu Seiliedig ar Waith ymhellach. I gyd-fynd â’r hunan-asesiadau, bydd Ymlaen Ceredigion yn hwyluso nifer o rwydweithiau ledled Cymru, yn benodol ar gyfer darparwyr Dysgu Seiliedig ar Waith, a gaiff eu cynnal gan hwyluswyr arbenigol sydd â chyfoeth o brofiad yn ADCDF.
Roedd cyfanswm o 6,690 o fyfyrwyr mewn Addysg Bellach wedi gwneud cais am Grant Dysgu’r Cynulliad erbyn diwedd Gorffennaf 2009, cynnydd o 8 y cant o’i gymharu â 2007/08. Nifer y ceisiadau llwyddiannus oedd 5,250 (79 y cant o’r ceisiadau), cynnydd o 2 y cant o’i gymharu â 2007/08.
(Yn anffodus, nid yw'r erthygl ar gael yn ddwyieithog)
This circular sets out for consultation options for the continuing support of the sector’s third mission activities for the academic years 20010/11 to 2012/13. It also gives notice of a workshop to be held on 4 December 2009, the outcomes of which will also feed into the consultation process.
(Yn anffodus, nid yw'r erthyglau ar gael yn ddwyieithog)
This short review explores why further education provision has flourished in some higher education institutions but not in others. Drawing on inspection evidence from the period 2003 to 2009, the review illustrates the characteristics of the best and the least successful provision, from which it draws conclusions and makes recommendations.
The focus of this e-bulletin from the UK Commission for Employment and Skills is on employment and skills issues from research and policy perspectives.
How can action research inspire teachers to promote inclusion? Inclusion, that is, ‘reducing the barriers to learning and participation for all pupils’, is a challenge for many schools. Some of these barriers to learning and participation are inevitably found in the classroom, so if inclusion is going to be fully realised it requires the engagement and involvement of classroom teachers.
The UK is facing major skills challenges with working age employment continuing to fall and school leavers facing the worst labour market for fifteen years. Fair and affordable access to the right skills and training is more important than ever.
This month’s newsletter includes new resources such as Teachers TV programmes on special educational needs, and new web pages designed to help teachers deliver careers information, advice and guidance to students.