
Mae Estyn wedi lansio ymgynghoriad cyhoeddus sy’n ceisio barn am y newidiadau arfaethedig i’r ffordd y mae darparwyr addysg a hyfforddiant yn cael eu harolygu. Bydd adborth o’r ymgynghoriad cyhoeddus yn cael ei ddefnyddio i gynllunio fframwaith arolygu newydd a fydd yn cael ei roi ar waith yn 2010.
Bydd cyflogwyr, darparwyr dysgu ac uwch swyddogion proffesiynol sy’n gysylltiedig â llunio gweithlu’r dyfodol yng Nghymru yn cyfarfod mewn cynhadledd bwysig ym mis Ionawr 2009. Cynhelir y digwyddiad proffil uchel hwn gan y corff annibynnol sydd newydd ei greu, sef Bwrdd Cyflogaeth a Sgiliau Cymru (WESB), sy’n cynghori Llywodraeth y Cynulliad ar ei blaenoriaethau a sut mae modd gwella sgiliau, cyflogaeth a systemau cymorth busnes i ddiwallu anghenion cyflogwyr ac unigolion ledled Cymru.
Ym mis Medi 2008, cynhaliodd Estyn gynhadledd ar lythrennedd ar gyfer dros 100 o gynrychiolwyr o ysgolion, awdurdodau lleol, sefydliadau hyfforddi athrawon, Llywodraeth Cynulliad Cymru a phartïon eraill. Canolbwyntiodd y gynhadledd ar ganfyddiadau dau o adroddiadau mwyaf diweddar Estyn ar lythrennedd - ‘Gwella dysgu ac addysgu medrau darllen cynnar’ ac ‘Arfer orau mewn darllen ac ysgrifennu disgyblion 7 i 14 oed’.
Caiff ei gynnal ar ffurf fideo-gynadledda pum ffordd. Yn ystod y digwyddiad, ceir cyflwyniadau ar fframwaith Arolygiad Estyn 2010, diweddariad ar ‘Llwybrau Dysgu 14-19, diweddariad ar gymwysterau ‘sgiliau’ a chyflwyniad gan Coleg Llandrillo, enillydd Gwobr Beacon ar gyfer Ymrwymiad Cyflogwr.
Mae Prifysgolion yng Nghymru yn cydweithio'n llwyddiannus ar nifer o brosiectau cydweithio. Ond mae lle i wneud mwy, a phrin fu'r cynnydd a wnaed mewn rhai meysydd. Casgliad adroddiad a gyhoeddwyd gan Archwilydd Cyffredinol Cymru yw nad yw'r potensial llawn ar gyfer cydweithio mewn addysg uwch – sy'n gallu arwain at arbedion cost, ehangu'r ddarpariaeth addysgu a chynyddu'r gallu i ymchwilio – wedi'i gyflawni hyd yma.
Comisiynwyd yr adroddiad i arfarnu’r trefniadau i gyflwyno cymwysterau medrau allweddol yng nghyfnod allweddol 4 y tu allan i gyd-destun Bagloriaeth Cymru. Bydd y canfyddiadau’n llywio’r cyngor ar gyfer y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau o ran cyflwyno cyrsiau TGAU diwygiedig yn 2010.
Agorodd y Prif Weinidog Rhodri Morgan yn swyddogol Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd, sef yr ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg gyntaf ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, a bu’n canmol cyngor yr ardal am fynd ati mewn ffordd ‘greadigol’ i ddatrys y diffyg o ran ysgol uwchradd Gymraeg a fu’n bodoli ers tro.
(Yn anffodus, nid yw'r erthyglau ar gael yn ddwyieithog)
The report "Working Futures" finds that despite the current crisis in both the world and the domestic economy, a more optimistic picture is projected for the labour market over the long term to 2017. Employment is projected to continue to rise over the decade as a whole, with the creation of 13.5 million job openings, of which two million will be new.
This report takes a critical overview of the impact of the Leitch agenda and assesses how the UK, and more specifically England, can move towards achieving the ambitious targets within a tight timescale. It does so in the context of the current economic climate which is very different from that in which Lord Leitch conducted the review, and should place skills development right at the top of the political and employment agenda.
Ed Balls has highlighted the success of a generation of children and teachers whose hard work has seen the educational gap between the least and most deprived communities narrow over the past decade. The Children’s Secretary pointed to figures that showed over ten years the percentage of children in the most deprived local authorities leaving school with five good GCSEs including English and maths had improved by 19.9 points, compared with 13.2 in the least deprived.
One hundred and thirty seven local authorities around the country have now agreed plans with the Government to transform their secondary schools which fall below the target of 30 per cent of pupils achieving five A* to C GCSEs, including English and Maths, Ed Balls announced.