
Bwriad y cylchlythyr yw adrodd ar ddatblygiadau polisi ym myd addysg a hyfforddiant ôl-14 yng Nghymru a Lloegr.
Diben yr ymgynghoriad yw holi am farn pobl am y cynigion ar gyfer polisi ffioedd ôl-16, creu Cronfa Blaenoriaethau Sector a dyfodol Cyfrifon Dysgu Unigol (Cymru).
Cyhoeddodd John Griffiths gynllun gwerth £14 miliwn sydd â’r nod o wella cyfleoedd gyrfa i 22,000 o bobl ifanc Rhondda Cynon Taf a’u hatal rhag bod yn economaidd anweithgar. Bydd y cynllun tair blynedd hwn, Adeiladu’r Dyfodol gyda’n Gilydd, yn targedu’r rhai rhwng 11 ac 19 oed ac yn cynnig cymorth dwys un i un ar gyfer y sawl sy’n cael anhawster gyda mathemateg a llythrennedd, yn ogystal ag opsiynau hyfforddi galwedigaethol i ieuenctid sy’n ei chael hi’n anodd dysgu trwy ddulliau academaidd traddodiadol.
Mae Jane Hutt, y Gweinidog dros Addysg, wedi lansio fenter newydd ‘CânSing’, sy’n anelu at helpu plant ysgol yng Nghymru i ddarganfod eu lleisiau a dechrau canu. Wrth ymuno â Shaheen Jafargholi, sydd â llais sydd wedi gwneud argraff anhygoel ar y byd, yn ei ysgol yn Abertawe i wneud y cyhoeddiad, dywedodd y Gweinidog fod y prosiect yn cael ei gefnogi gan bron £476,000 o gyllid gan Lywodraeth Cynulliad Cymru dros gyfnod o dair blynedd.
Mae'r papur cryno hwn yn seiliedig ar gasgliadau Arolwg Llais y Dysgwr 2008. Cymerodd dros 3,700 ran, sef disgyblion Blwyddyn 10 ac 11 a Blwyddyn 12 a 13 sydd mewn darpariaeth a ariannwyd gan APADGOS. Edrychodd yr arolwg ar sawl agwedd ar brofiad dysgu disgyblion ac mae'r papur hwn yn canolbwyntio ar y casgliadau sy'n ymwneud â chyngor a chyfarwyddyd.
Cyhoeddodd y Gweinidog Addysg Jane Hutt newidiadau i gymhelliant hyfforddiant cychwynnol athrawon (ITT) ar gyfer cyrsiau ôl-raddedig yn y flwyddyn academaidd 2010/11. Bydd pob un o’r bandiau cymhelliant ITT ôl-raddedig yn gweld cynnydd o £1,800 o fis Medi 2010. Bwriad y newid hwn yw cynnal y cymorth a roddir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i’r rhai sy’n dilyn cyrsiau ITT ôl-raddedig yn sgil cael gwared ar y Grant Ffioedd Dysgu’n raddol o’r flwyddyn academaidd 2010/11 pan na fydd ar gael i fyfyrwyr newydd.
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi trefnu’r digwyddiadau gyda chydweithwyr yn Fforwm, NIACE Dysgu Cymru, Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru a chyrff dyfarnu.
Fel rhan o werthusiad yr Arsyllfa Dysgu a Sgiliau (LSO) ac adolygiad cylchlythyr Dysg, mae gennym ddiddordeb mewn dod i ddeall eich anghenion o ran gwybodaeth am sgiliau a dysgu. Er mwyn i ni wneud hyn byddwn yn ddiolchgar petaech yn medru treulio rhai munudau i gwblhau’r holiadur hwn. Bydd yr ymatebion yr ydych yn eu cynnig yn helpu i gyfeirio’r wybodaeth sydd ar gael o gylchlythyr Dysg a gwefan yr LSO a’r modd y mae’n cael ei gyflwyno yn y dyfodol.
Ddechrau eleni, bu’n rhaid i GSM Primographic ddileu swyddi, torri cyflogau a dechrau wythnos pedwar diwrnod... ond bellach mae’r sefyllfa wedi gwella, gan ennill contract mawr, cynyddu’i allforio a recriwtio staff. Mae Andrew Farthing, y Rheolwr Cyffredinol, wedi canmol ei staff a’r tîm rheoli cryf am eu cefnogaeth a’u hyblygrwydd, sydd wedi galluogi’r gweithgynhyrchydd rhannau moduron o Aberhonddu i weithio’i ffordd allan o’r dirwasgiad. Hefyd bu’n talu teyrnged i’r cymorth gan gynllun ProAct Llywodraeth Cynulliad Cymru, sydd wedi galluogi’r cwmni i hyfforddi a gwella sgiliau’r gweithlu, a’r cymorth a gafwyd drwy’r Gronfa Fuddsoddi Sengl ar gyfer offer newydd a phrosiect ymchwil a datblygu.
(Yn anffodus, nid yw'r erthyglau ar gael yn ddwyieithog)
This report examines nine case studies of good practice drawing out the key elements of collaboration that work to improve outcomes for young people. The benefits of close working and joint planning included: improved progression, attainment and retention, reduction in the numbers of young people not in education, employment or training (NEETs), enhanced range and quality of provision and improved transition support for learners.
Across OECD countries, governments are seeking policies to make education more effective while searching for additional resources to meet the increasing demand for education. The 2009 edition of Education at a Glance: OECD Indicators enables countries to see themselves in the light of other countries’ performance.
This report examines the impact of the recession on training and skills needs and considers the likely future implications for skills policy. It analyses how the skills system has coped with the changing needs and pressures brought about by the recession, what lessons can be learned and whether the system can be more flexible and effective in driving the economic upturn.
This is the latest edition of the FE and Skills e-newsletter - a direct news and information link from BIS to the further education (FE) and skills sector.
Four Sector Skills Councils (SSCs) have been relicensed, Business, Innovation and Skills Secretary Lord Mandelson announced, on behalf of the UK Government and the Devolved Administrations. Sector Skills Councils are employer-led bodies, established to enable employers to exert influence on the UK’s education and skills systems to ensure they meet their needs. All four have been successful in their application for a further trademark licence to operate as SSCs and have gone through a comprehensive assessment process led by the UK Commission for Employment and Skills.
**Os dymunwch dderbyn y cylchlythyr wythnosol yn y Gymraeg, anfonwch e-bost at rhys.davies4@wales.gsi.gov.uk.
This newsletter may contain links to websites that are created and maintained by other organizations. The Dysg newsletter does not necessarily endorse the views expressed on these websites, nor does it guarantee the accuracy or completeness of any information presented there.