
Nadolig Llawen a blwyddyn newydd dda i chi!
Mi fydd cylchlythyr Dysg yn cymryd seibiant dros y Nadolig ond mi fyddwn yn dychwelyd ym mis Ionawr.
Mae Leighton Andrews y Gweinidog Addysg wedi croesawu £471,000 o Gronfa Swyddi’r Dyfodol i greu 71 o swyddi yng Nghymru. Ers i’r Gronfa ddechrau ym mis Gorffennaf 2009, mae’r cynllun wedi creu 4,300 o swyddi ac wedi denu £27 miliwn i Gymru. Mae ‘Cronfa Swyddi’r Dyfodol’ yn helpu i greu swyddi i bobl ifanc sydd wedi profi diweithdra hirdymor. Mae’r Gronfa’n cael ei rhedeg gan yr Adran Gwaith a Phensiynau, ac yn anelu at greu 150,000 o swyddi dros dro tan 2011.
Mae dau o golegau mwyaf llwyddiannus Gogledd Cymru wedi arwyddo cytundeb sydd yn datgan eu bwriad i uno. Yn ddiweddar, fe arwyddodd Cyrff Llywodraethol Coleg Glannau Dyfrdwy, sydd wedi ei leoli yng Nghei Connah a Llaneurgain; a Choleg Llysfasi sydd yn Rhuthun a Wrecsam, Benawdau Cytundeb a fydd yn arwain at uno arfaethedig ar 1 Awst 2010.
Mae’r rhifyn hwn yn cynnwys diweddariad ar: y cynllun Llwybr Dysgu, Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009 – Diweddariada chyraedd y Nod: Prosiect Cronfa Gymdeithasol Ewrop ar gyfer disgyblion 11-19 oed.
Roedd 217,550 o ddysgwyr wedi eu cofrestru mewn sefydliadau AB yn ystod 2007/08. Bu gostyngiad o 1.6 y cant yng nghyfanswm niferoedd dysgwyr AB mewn sefydliadau Addysg Bellach ac Uwch rhwng Rhagfyr 2002 a Rhagfyr 2007. Bu 44,660 o ddysgwyr yn dilyn gweithgaredd Dysgu Cymunedol Awdurdodau Lleol yn 2007/08 (gan gynnwys y rheini a gofrestrwyd mewn sefydliadau AB ond a addysgwyd gan staff awdurdodau lleol).
Mae'r daflen yn crynhoi detholiad o wybodaeth am addysg ac hyfforddiant yng Nghymru sydd eisoes wedi'u cyhoeddi, ac mae'n rhoi cyfeirnodau at ffynonellau data mwy manwl.
Mae Estyn wedi newid ei chyfeiriadau e-bost o ‘enw@estyn.gsi.gov.uk’ i ‘enw@estyn.gov.uk’. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â’r tîm Cyfathrebu, y Cyfryngau a Marchnata ar 02920 446526.
Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi ariannu Teachers TV yn rhannol i ddatblygu dwy raglen sy’n seiliedig ar y strategaethau a ddefnyddir i godi safon darllen ymhlith bechgyn. Nod yr ymgyrch ‘Darllenwch Filiwn o Eiriau Gyda’ch Gilydd yng Nghymru’ yw mynd i’r afael â’r bwlch rhwng y rhywiau o ran llythrennedd, yn enwedig ymhlith bechgyn 9-14 oed. Fel rhan o’r ymgyrch hon, mae Llywodraeth y Cynulliad wedi ariannu Teachers TV yn rhannol i ddatblygu dwy raglen sy’n seiliedig ar y strategaethau hyn.
Ers llofnodi'r Cytundeb Cenedlaethol ym mis Ionawr 2003, mae WAMG wedi darparu cyfres o nodiadau canllaw sy'n canolbwyntio ar faterion penodol yn ymwneud â gweithredu ac sy'n helpu ysgolion wrth gynllunio sut y byddant yn gweithredu'r Cytundeb â strategaethau cynaliadwy. Mwy o wybodaeth ar WAMG
Paratowyd y dogfennau hyn gan APADGOS, Ofqual a CCEA, y Rheoleiddwyr Cymwysterau ar gyfer Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon yn eu tro, a chan yr Asiantaeth Datblygu Cymwysterau a'r Cwricwlwm (QDCA). Mae'r dogfennau'n rhoi canllawiau ar y Fframwaith Cymwysterau a Chredydau i randdeiliaid yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.
Mae Uned Addysg Ariannol Cymru (UAAC) wedi ei sefydlu fel un llinyn o strategaeth Cynhwysiant Ariannol Llywodraeth Cynulliad Cymru. Mae’r Uned wedi ei sefydlu i ddarparu cymorth i ymarferwyr sy’n darparu addysg ariannol i bobl ifanc 7 i 19 oed.
(Yn anffodus, nid yw'r erthyglau ar gael yn ddwyieithog)
This research sought to identify a typology of engaged / disengaged young people using information on their behaviours, attitudes and motivations available in the Longitudinal study of young people in England (LSYPE.)
Ofsted visited 14 schools over a three-year period to evaluate how effectively they had developed pupils’ understanding of sustainability and whether education for sustainable development had any impact on improving the broader life of the school. Over three years all but one of the schools improved the overall effectiveness of their provision for sustainable development, with a wide range of positive consequences.
This edition focuses on Ofsted’s Annual Report 2008/09. It includes news on the Independent Safeguarding Authority’s Vetting and Barring Scheme and Ofsted’s evaluation of serious case reviews. It highlights reports on 20 outstanding primary schools, faith schools and Train to Gain provision.
Banter over Christmas dinner is as big a part of the festive season as mistletoe and mulled wine. This year jobs and careers (22%) will be the top topic of conversation over Christmas dinner, following discussions about people’s New Year’s resolutions (25%) and how dry or juicy the turkey is (31%), says the Careers Advice Service.