
Roedd cyfreithiau newydd ar gyfer mynd i’r afael â thangyflawni gan ysgolion, gwneud i gynghorau weithio gyda’i gilydd a system newydd ar gyfer rhoi organau ymhlith y Biliau newydd a gynigiwyd heddiw gan Lywodraeth Cymru.
‘Ar ddiwedd blwyddyn academaidd brysur arall rwy'n siŵr eich bod yn edrych yn ôl ar lwyddiannau a heriau'r flwyddyn...’
Yn dilyn araith y Gweinidog ym mis Chwefror, sefydlwyd Uned Safonau Ysgolion newydd o fewn Adran Addysg a Sgiliau. Un o dasgau cyntaf yr Uned oedd datblygu system genedlaethol o fandio ysgolion. Mwy a datgainiad Ysgrifenedig gan y Gweinidog
Diben y datganiad hwn yw rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y Rhaglen Ysgolion ar gyfer yr 21ain ganrif a’r gwariant ar gyfalaf am y cyfnod 2011-2014. Datgainiad Ysgrifenedig
Diben y ddogfen hon yw helpu athrawon i adnabod a hybu sgiliau uwch mewn mathemateg yng Nghyfnod Allweddol 3 a thrwodd i Gyfnod Allweddol 4. Bwriad y canllawiau yw helpu athrawon mathemateg sy’n gweithio gyda dysgwyr galluog yng Nghyfnod Allweddol 3, i’w helpu i sicrhau canlyniadau gwell ar ddiwedd Blwyddyn 9, ac mewn TGAU a thu hwnt.
Mae’r angen i brifysgolion sydd â’r capasiti a’r màs critigol i weithredu’n ddeinamig, yn effeithiol ac yn effeithlon yn egwyddor sydd wedi’i hen sefydlu ym mholisïau Llywodraeth Cymru ar gyfer addysg uwch. Datgainiad Ysgrifenedig a’r Ymgynghoriad
Mae CCAUC wedi cymeradwyo cynlluniau ffioedd 13 o brifysgolion a cholegau yng Nghymru, a gallant bellach gynyddu eu ffioedd dysgu ar gyfer cyrsiau israddedig o’r flwyddyn academaidd 2012. Mwy a’r Datgainiad Ysgrifenedig gan Y Gweinidog Addysg a Sgiliau
Mae’r WESB yn cyflwyno ei gyngor ar y blaenoriaethau ar gyfer buddsoddi mewn hyfforddiant a sgiliau ôl-16 gan ganolbwyntio ar anghenion yr economi a’r gweithlu ar hyn o bryd ac yn y dyfodol. Mwy a’r datganiad i’r wasg
Bu gwelliant o ran lefelau llythrennedd: aseswyd bod gan 12 y cant o oedolion lythrennedd Lefel Mynediad neu'n is, gostyngiad o 25 y cant yn 2004.
Yn ôl adroddiad gan Estyn, yr arolygiaeth dros addysg a hyfforddiant yng Nghymru, mae angen i ysgolion wella o ran nodi a chynorthwyo dysgwyr o gefndiroedd dan anfantais. Datganiad i’r wasg a’r adroddiad
Canfu Estyn nad oes digon o ysgolion yn cynllunio cwricwlwm ‘yn seiliedig ar fedrau’ sy’n cynnwys gweithgareddau sy’n raddol yn fwy cymhleth, wedi’u cynllunio i ddatblygu medrau meddwl, cyfathrebu, TGCh a rhif disgyblion. Datganiad i’r wasg a’r adroddiad
Mae nifer y dysgwyr mewn ysgolion, colegau a darparwyr dysgu yn y gwaith sy’n ennill cymwysterau cymhwyso rhif wedi cynyddu’n sylweddol dros y pum mlynedd diwethaf. Fodd bynnag, mae gormod o’r dysgwyr hyn yn ennill cymwysterau ar lefel rhy isel o’i gymharu â’u gallu. Nid yw’r dysgwyr hyn yn gwella eu medrau rhifedd trwy ddilyn cymwysterau ar lefel rhy isel.
Yn y mwyafrif o ysgolion cynradd, nid yw disgyblion sy’n fwy galluog a dawnus yn cael digon o her, yn ôl Estyn,. Nid yw’r ysgolion hyn yn gwneud digon i nodi, cefnogi nac olrhain cynnydd disgyblion mwy galluog a dawnus.
Ymgyrch post uniongyrchol flynyddol yw “Ble Nawr” a gynhelir ledled Cymru i gyd-daro â chyhoeddiad canlyniadau arholiadau. Anfonir taflen ddwyieithog yn uniongyrchol i gyfeiriad cartref pobl ifanc ym Mlynyddoedd 11, 12 a 13, i’w hatgoffa o’u hopsiynau a’r ffynonellau help, cyllid a gwybodaeth sydd ar gael iddynt yr adeg hwn.
Mae’r Rhaglen Lleoli Athrawon yn rhoi’r cyfle i athrawon cymwysedig o Gymru weithio mewn ysgol yn Lesotho am 6 neu 12 mis. Mae’r rhaglen yn canolbwyntio ar rannu sgiliau proffesiynol a gwella addysg yn Lesotho tra hefyd yn datblygu sgiliau’r athrawon o Gymru a rhoi profiad rhyngwladol unigryw iddynt sy’n cyfoethogi eu gwaith wedi iddynt ddychwelyd i Gymru. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 25 Awst 2011.
Grantiau i gefnogi unrhyw aelod o staff ysgol i gwblhau cwrs datblygu proffesiynol, cysgodi cydweithiwr neu fynd i gynhadledd neu seminar yn unrhyw un o'r 32 Gwlad Comenius arall sy'n cymryd rhan. Y Dyddiad cau yw’r 16eg Medi 2011.
(Yn anffodus, nid yw'r erthyglau canlynol ar gael yn y Gymraeg)
For the first time, a pan-European study offers a comprehensive picture of reading literacy and identifies some of the key factors impacting on the acquisition of reading skills for 3-15 year olds. It addresses four key topics: teaching approaches, tackling reading difficulties, teacher education and the promotion of reading outside school.
This Review, which specifically looks at the Scottish system, identifies where and how joint working between the employment and skills systems provide an opportunity to maximise the outcomes for individuals and employers.
This survey examines the use of nurture groups and related provision in a small sample of 29 infant, first and primary schools. Nurture groups are small, structured teaching groups for pupils showing signs of behavioural, social or emotional difficulties.