
Mae'r Cynllun Gweithredu Ymgysylltiad a Chyflogaeth Pobl Ifanc yn amlinellu dull LlCC o atal plant a phobl ifanc rhag ymddieithrio o ddysgu a'u cefnogi i ymuno â'r farchnad lafur.
Cyhoeddodd y Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes (ar 30 Tachwedd) sut y byddai Cymru yn ymateb i benderfyniad Llywodraeth y DU i gynyddu ffioedd dysgu mewn sefydliadau addysg uwch yn Lloegr. Mae’r ymgynghoriad yn manylu ar y gwaith sydd ar y gweill ar hyn o bryd i weithredu’r model cyllido newydd ar gyfer ariannu addysg uwch a chyllid myfyrwyr yng Nghymru o 2012/2013 ymlaen.
Mae Deddf Addysg 1996 yn gofyn i benaethiaid, cyrff llywodraethu ac awdurdodau lleol sicrhau bod disgyblion yn derbyn safbwyntiau cytbwys os yw nhw’n cael eu haddysgu am ddemocratiaeth a gwleidyddiaeth.
Heddiw cyhoeddodd Leighton Andrews, y Gweinidog dros Addysg, y bydd cymhwyster Bagloriaeth Cymru yn cael ei chyflwyno i 53 o ganolfannau eraill ac yn cael ei ehangu mewn chwe chanolfan arall, gan felly sicrhau ei bod ar gael ar gyfer ryw 7500 o fyfyrwyr ychwanegol.
Mae'r gofynion ar gyfer cerddoriaeth yng Nghyfnodau Allweddol 2 a 3 wedi eu gosod allan yn ‘Cerddoriaeth yn y cwricwlwm cenedlaethol yng Nghymru’. Mae’r ddogfen yn cynnwys y rhaglenni astudio ar gyfer pob cyfnod allweddol, ynghyd â thargedau cyrhaeddiad a disgrifiadau lefel.
Yn dilyn llwyddiant lansio gwasanaeth eiriolaeth ‘meic’ ym mis Mai 2010 rydym yn ymestyn y gwasanaeth i fod ar gael 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos.
Mae NIACE Dysgu Cymru eisiau cydnabod, a dathlu, tiwtoriaid a mentoriaid ardderchog o bob rhan o Gymru. Gwahoddir enwebiadau o bob sector o'r ddarpariaeth addysg i oedolion - statudol neu wirfoddol, ffurfiol neu anffurfiol, hyfforddiant neu addysg a gwahanol ddulliau o astudio gan gynnwys dysgu o bell. Dyddiad cau ar gyfer enwebiadau yw 21 Ionawr 2011.
O fis Ionawr 2012 ymlaen, bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn dechrau casglu gwybodaeth am iaith gyntaf pob disgybl o oed ysgol gorfodol ym mhob ysgol a gynhelir drwy broses y Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion (CYBLD).
Roedd yna 127,885 o gofrestriadau Addysg Uwch yn Sefydliadau Addysg Uwch yng Nghymru, cynnydd o 1 y cant. Bu cynnydd o 9 y cant yn nifer y cofrestriadau llawn-amser a gostyngiad o 12 y cant yn nifer y cofrestriadau rhan-amser.
Bydd y Gweinidog dros Addysg, Leighton Andrews, yn ymweld ag Ysgol Gyfun Gwynllyw yn Nhorfaen heddiw i agor yn swyddogol borth dysgu newydd yr ysgol, sy’n elwa o'r dechnoleg fwyaf modern ac arloesol yn y byd ar gyfer yr ystafell ddosbarth.
995 disgyblion wedi’u cofnodi fel cael eu haddysgu heblaw yn yr ysgol; 222 o’r disgyblion hyn wedi cael eu cadw ar y gofrestr mewn ysgol a gynhelir. Mae o gwmpas tri chwarter y disgyblion EOTAS yn fechgyn.
(Yn anffodus, nid yw'r erthyglau canlynol ar gael yn y Gymraeg)
In 2008 Ofsted published The changing landscape of languages: an evaluation of language learning 2004/2007. This report follows up achievements since then and examines the current challenges.
In this clip, Professor Steve Higgins talks about how he has used Research for Teachers with ITT students and teachers. Steve Higgins is Professor of Education at Durham University.
Professor Steve Higgins explains how schools can use technology effectively and efficiently in times of constrained budgets by using technology they already have in alternative ways.