
Bwriad y cylchlythyr yw adrodd ar ddatblygiadau polisi ym myd addysg a hyfforddiant ôl-14 yng Nghymru a Lloegr.
Mi fydd cylchlythyr Dysg yn cael ei dosbarthu pob pythefnos yn ystod gwyliau’r haf.
Os hoffech chi ddarllen y cylchlythyr yn Saesneg, cliciwch yma.
Mae’r arolwg diweddaraf o’r llafurlu yng Nghymru a’r DU - a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol - yn dangos fod nifer y bobl ddi-waith yng Nghymru wedi gostwng eto, er bod cyfanswm y bobl ddi-waith yn y DU wedi cynyddu. Roedd ystadegau’r mis diwethaf yn dangos fod diweithdra a addaswyd yn dymhorol yng Nghymru wedi gostwng 1,000 o gymharu â’r chwarter blaenorol. Datganiad i’r wasg
Mae achosion o droseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn 47 o ysgolion Cymru wedi lleihau 89% ar gyfartaledd, a 100% mewn 9 o’r ysgolion – diolch i gyllid gwella diogelwch a roddwyd gan Lywodraeth y Cynulliad. Yn 2007 cyhoeddodd Llywodraeth y Cynulliad raglen o grantiau gwerth £12 miliwn, dros dair blynedd, i ddarparu chwistrellwyr dŵr mewn ysgolion a oedd mewn perygl o gael eu llosgi i lawr gan danau bwriadol.
Mae’n nodi diben y Model a’r hyn sy’n ofynnol wrth baratoi ar gyfer Mesurau, Rheoliadau a Chyfarwyddiadau newydd sydd i fod yn eu lle erbyn 2010. Caiff Arweiniad Statudol ei greu ar yr adeg hon er mwyn cefnogi’r partneriaid i weithredu’r Model. Bydd hyn yn cynnwys arweiniad ar gomisiynu. Cynlluniwyd y canllaw hwn i roi gwybodaeth er mwyn paratoi ar gyfer y newidiadau angenrheidiol, ac o'r herwydd, efallai y bydd rhanddeiliaid yn dymuno ystyried gosod y sylfeini ar gyfer y newidiadau hyn ymhell o flaen llaw.
Mae Llywodraeth y Cynulliad yn darparu grant penodol anghylchol o £0.5 miliwn i awdurdodau lleol iddynt allu ysgwyddo baich eu dyletswyddau o dan Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2008. Caiff hyn ei ariannu, o 2010/2011 ymlaen, fel rhan o setliad Grant Cymorth Refeniw llywodraeth leol.
Mae'r cyfarwyddyd hwn ynghylch Cyfrifon yn rhoi gwybod i sefydliadau am ofynion Llywodraeth y Cynulliad o ran eu datganiadau ariannol archwiliedig yn unol â pharagraff 54 o'r Memorandwm Ariannol.
Dyfarnwyd dros £2 filiwn i brifysgolion yng Nghymru er mwyn cefnogi gweithwyr,
cwmnïau a graddedigion yn ystod y dirywiad economaidd.
(Yn anffodus, nid yw'r erthyglau ar gael yn ddwyieithog)
This is Ofsted’s second report evaluating the progress made in implementing 14–19 reforms. It follows up some of the key strategic issues of the first report, in 2008, and focuses particularly on the introduction of the new 14–19 Diplomas. Overall, 14–19 initiatives have continued to widen opportunities and meet the needs of young people.
Most college learners believe their course played an important role in getting a job, a Government report has revealed. In a survey of over 4,800 people who had completed a further education course and were out of work when they began their studies, 41% had secured a job two years after they had ‘graduated’, up from 34% the previous year.
This is the latest edition of the FE and Skills e-newsletter - a direct news and information link from BIS to the further education (FE) and skills sector.
The Scottish Qualifications Authority (SQA) has announced the 2009 National Course results. Examination certificates are being sent to 159,901 learners this year, up from 158,627 in 2008.
Latest figures released show that the UK remains one of the most popular destinations for students across Europe to spend a year’s study in another country, but that UK students still lag behind their European counterparts in reaping the benefits of a year’s study abroad.
**Os dymunwch dderbyn y cylchlythyr wythnosol yn y Gymraeg, anfonwch e-bost at rhys.davies4@wales.gsi.gov.uk.
This newsletter may contain links to websites that are created and maintained by other organizations. The Dysg newsletter does not necessarily endorse the views expressed on these websites, nor does it guarantee the accuracy or completeness of any information presented there.