
Bydd mwy na 12,000 o bobl ifanc ledled De-orllewin Cymru sy'n debygol o adael yr ysgol neu o roi'r gorau i'w cyrsiau addysg yn elwa cyn bo hir ar gynllun newydd gwerth £32 miliwn i wella'u cyfloedd o lwyddo yn y byd gwaith. Dyma fyrdwn y cyhoeddiad y mae'r Dirprwy Weinidog dros Sgiliau, John Griffiths, wedi ei wneud. Bydd YMGYSYLLTU, menter gan Awdurdodau Lleol a cholegau Addysg Bellach, yn targedu pobl ifanc rhwng 14 a 16 oed sy'n wynebu anawsterau, er enghraifft, rhai sy'n tangyflawni neu'n absennol o'r ysgol.
Ym mis Tachwedd, aeth Llywodraeth Cynulliad Cymru ati i wneud gwaith ymchwil i ymchwilio i ystod o faterion yn ymwneud a'r gweithlu sy'n effeithio ar benaethiaid cyfredol a darpar benaethiaid yng Nghymru. Yn gyffredinol, nod yr ymchwil oedd: "canfod anghenion a dyheadau arweinwyr ysgolion cyfredol a darpar arweinwyr ysgolion o safbwynt eu cyflogaeth a'u gyrfa".
(Yn anffodus, nid yw'r erthygl ar gael yn ddwyieithog)
fforwm – the national organisation that represents all of Wales' 24 further education (FE) colleges and institutions is rebranding as ColegauCymru / CollegesWales on Wednesday 11 November. There has never been a more critical time to ensure that colleges are at the heart of policy making. ColegauCymru / CollegesWales' mission is to do just that. ColegauCymru / CollegesWales is the voice of further education, striving always to make sure that key decision-makers deliver improved opportunities for learners in Wales.
Comisiynwyd consortiwm o dan arweiniad SQW Consulting i gynnal gwerthusiad cenedlaethol o'r rhaglenni Cymorth a Dechrau'n Deg a hynny dros gyfnod o dair blynedd. Mae'r broses werthuso yn ystyried pa mor effeithiol yw'r rhaglenni a chanfod effaith Dechrau'n Deg ar blant a'u teuluoedd. Mae'r adroddiad hwn yn cyfuno'r dystiolaeth o gyflawniadau'r ddwy raglen o ran eu strwythurau a'u prosesau cyflawni a'r manteision a grëwyd ganddynt.
Diben yr ymgynghoriad hwn yw gofyn barn pobl ynghylch y trefniadau arfaethedig o ran gweinyddu’r cynllun hyfforddi athrawon ar sail cyflogaeth. Mae'r ymgynghoriad hefyd yn gofyn barn ar gyfer thelerau cynllun diwygiedig sydd i’w roi ar waith o 1 Medi 2011 ymlaen. Mwy
Cyfanswm lefel y cronfeydd wrth gefn yn ysgolion Cymru oedd £75 miliwn ar 31 Mawrth 2009, sy'n gyfwerth â £164 y disgybl. Mae hyn yn ostyngiad o 2.2% ar y flwyddyn flaenorol. Roedd cronfeydd wrth gefn mewn ysgolion cynradd yn cyfrif am £48 miliwn neu 64% o'r cyfanswm. 4.1% oedd lefel y cronfeydd wrth gefn fel canran o'r gwariant sy'n cael ei ddirprwyo i ysgolion. Mae hyn yn ostyngiad o 0.3 pwynt canran ar y flwyddyn flaenorol. Mwy
Ymwelodd Jane Hutt, y Gweinidog dros Addysg, â chwmni ym Mhen-y-bont ar Ogwr i wed â'i llygaid ei hun lwyddiant gwaith y cwmni gyda Rhaglen Go Wales. Ariannwyd y rhaglen yn gynharach eleni drwy becyn cydgyfeirio £17 miliwn gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, ac mae Go Wales wedi parhau i roi mantais yn y farchnad waith gyfredol i fyfyrwyr a graddedigion drwy ddarparu ystod o gyfleoedd profiad gwaith, hyfforddiant a gwaith, ynghyd ag ystod ddefnyddiol o adnoddau gyrfa.
Y mesur a fydd yn gonglfaen i ymrwymiad Llywodraeth Cynulliad Cymru i fynd i'r afael â thlodi plant wedi cael ei basio gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Bydd y Mesur yn sail i strategaeth Llywodraeth y Cynulliad ar gyfer bodloni targed Llywodraeth y Deyrnas Unedig i ddileu tlodi plant erbyn 2020. Mae'n cydnabod bod plant a theuluoedd sy'n byw mewn tlodi yn aml yn wynebu sawl math o anfantais, sy'n galw am gymorth hynod arbenigol a dwys. Bydd hefyd yn cefnogi’r gwaith o orfodi rheoliadau mewn lleoliadau gofal plant.
(Yn anffodus, nid yw'r erthyglau ar gael yn ddwyieithog)
This report was commissioned by the Learning and Skills Improvement Service (LSIS) and the Association of Colleges (AoC), to review governance and strategic leadership in the whole further education (FE) system in England and in particular, to look forward and review the implications of the proposed move towards shared regulation and the introduction of the machinery of government changes in 2010.
This study represents the first in-depth investigation of pupil characteristics and school characteristics in relation to bullying of secondary school pupils aged 14 to 16 in England. This summary presents the topline findings from the full report which is due to be published in January 2010.
Two further Sector Skills Councils (SSCs) have been relicensed, Business, Innovation and Skills Secretary Lord Mandelson announced today, on behalf of the UK Government and the Devolved Administrations. Sector Skills Councils are employer-led bodies, established to enable employers to exert influence on the UK’s education and skills systems to ensure they meet their needs.