
Mae Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru, wedi cyhoeddi pwy fydd aelodau ei Gabinet newydd wrth i Lywodraeth Cymru ddechrau ar ei rhaglen uchelgeisiol i sefyll yn gadarn dros Gymru. Leighton Andrews AC yw’r Gweinidog Addysg a Sgiliau.
Mae dau ganllaw newydd ar gael ar gyfer cefnogi addysg grefyddol yng Nghyfnod Allweddol 2 a 3. Mae’r dogfennau Addysg grefyddol: Canllawiau ar gyfer Cyfnodau Allweddol 2 a 3 a Proffiliau enghreifftiol dysgwyr yng Nghyfnodau Allweddol 2 a 3 mewn addysg grefyddol: Canllawiau ychwanegol yn ategu’r gwaith o gyflawni’r fframwaith enghreifftiol trwy ddarparu negeseuon allweddol ar gyfer cynllunio dysgu ac addysgu.
Mae’r ddogfen hon yn rhoi canllawiau statudol i awdurdodau lleol yng Nghymru. Mae’r canllawiau yn ategu cyfrifoldebau’r awdurdodau lleol i gefnogi addysg a hyfforddiant y plant a phobl ifanc sydd yn nalfa’r ifanc. Mwy
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn comisiynu ystod eang o adnoddau Cymraeg a dwyieithog i gefnogi addysgu’r Gymraeg fel pwnc, addysgu pynciau eraill drwy gyfrwng y Gymraeg, ac addysgu agweddau ar y cwricwlwm ysgol/coleg sy’n benodol i Gymru. Byddwn yn croesawi unrhyw sylwadau a syniadau am y fath o adnoddau yr hoffech weld yn cael eu comisiynu. A wnewch chi anfon eich sylwadau a syniadau at Heulwen Goodwin erbyn y 10fed o Fehefin os gwelwch yn dda.
Nod y rhaglen CânSing yw annog a datblygu gweithgareddau canu mewn ysgolion ledled Cymru. ContinYou Cymru sy’n gyfrifol am ddarparu’r rhaglen hon, gyda chymorth ariannol gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Cynhelir Diwrnod Cenedlaethol CânSing ddydd Mawrth 21 Mehefin 2011.
Mae Undeb Gwyddbwyll Cymru (UGC) yn awyddus i bob ysgol yng Nghymru sefydlu clybiau gwyddbwyll, ac mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ei annog i fynd ymlaen â’r nod hon. Os hoffech ddechrau clwb gwyddbwyll yn eich ysgol, edrychwch ar wefan UGC am syniadau a help ar sut i’w ddechrau.
Nod menter Blas am Oes Llywodraeth Cynulliad Cymru yw gwella’r bwyd a’r diod a ddarperir mewn ysgolion. Mae’r wybodaeth hon, sydd ar ffurf Cwestiynau Cyffredin, wedi ei pharatoi ar gyfer Llywodraethwyr Ysgol i’w helpu i ddeall Blas am Oes a sut y gallan nhw roi hwb i’r gwaith.
Mae'r Clip DVD yn sôn am gyfuno'r elfennau sy'n helpu ysgol i fod yn gynaladwy gan gynnwys ymgynghori â'r disgyblion a'r staff wrth ei dylunio a'i chodi ac wrth gyflwyno'r cwrícwlwm.
Nod y diweddariad yw eich hysbysu o ddatblygiadau wrth weithredu'r 'Model ar gyfer Darparu Gwasanaethau Eirioli i Blant a Phobl Ifanc' a'i ddatblygu ymhellach.
Cynhadledd Flynyddol WLGA yw’r achlysur cyntaf o bwys ar ôl etholiad y Cynulliad.
(Yn anffodus, nid yw'r erthygl canlynol ar gael yn y Gymraeg)
The aim of this report is to improve practice in English across all schools and particularly to help them become outstanding. More
Talk is a teacher’s prime teaching tool, but how many of us stop to plan or analyse what we say, or think about how it affects pupil learning? This research summary features a project* that examined in detail how teachers use talk to promote meaningful learning in science.
The UK Government announced plans to ensure that more young people leave school or college with a good grasp of English and maths. More