
Cymerwyd cam ymlaen o ran dyfodol Llwybrau Dysgu 14-19 wrth i’r Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) arfaethedig gael cefnogaeth y Cynulliad i fynd yn ei flaen i’r cam nesaf. Mae Llwybrau Dysgu’n cynrychioli newid o bwys ar gyfer paratoi pobl ifanc Cymru ar gyfer datblygiad addysgol, gwaith a bywyd oedolyn.
Mae’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau wedi cydsynio bod y rhestr Cymeradwyo Cymwysterau yn cael ei chyhoeddi ar gyfer dysgwyr yng Nghymru. Mae hyn yn golygu bod y cyrsiau sy’n arwain at ennill cymwysterau yn gymwys yng Nghymru i gael cyllid oddi wrth AAL neu wrth LlCC.
Canfu’r Arolwg Byw yng Nghymru o farn Dinasyddion am y Gwasanaethau Cyhoeddus yng Nghymru fod rhwng 68% a 97% o’r cyhoedd yng Nghymru yn fodlon ar y cyfan â’r gwasanaethau cyhoeddus, yn arbennig y ffordd y delir â hwy gan staff y gwasanaethau cyhoeddus. Holwyd 7,753 o aelwydydd yng Nghymru wyneb yn wyneb am eu profiadau o’r canlynol: Gwasanaethau Cludo Cleifion, Gwasanaethau Deintyddol, Gwasanaethau Trenau, Gwasanaethau Glanhau Strydoedd, Gwasanaethau Llyfrgell, Gwasanaethau Damweiniau ac Achosion Brys, Gwasanaethau Ambiwlans a Gwasanaethau Addysg Bellach.
Mae cynlluniau i ehangu a gwella cludiant ar gyfer disgyblion a myfyrwyr ar draws Cymru, yn cynnwys cod Gymru gyfan ar ymddygiad, wedi cael Cymeradwyaeth Brenhinol. Fe gafodd y Mesur Trafnidiaeth Dysgwyr, sydd hefyd yn rhoi dyletswydd ar yr awdurdodau lleol i hyrwyddo mynediad at Addysg trwy Gyfrwng y Gymraeg ei chymeradwyo gan y Cynulliad ar ddiwedd mis Medi ac mae’r penderfyniad ddoe yn meddwl fod y Mesur nawr yn gyfraith.
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi cael sêl bendith i gyflwyno deddfwriaeth newydd a fydd yn diogelu a hyrwyddo lles yr holl blant a phobl ifanc yng Nghymru. Mae’r Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol ar gyfer Plant Agored i Niwed wedi cael Cydsyniad Brenhinol, ac o ganlyniad gall Llywodraeth Cynulliad Cymru lunio Mesurau yn ymwneud â phlant a phobl ifanc.
Mae LLUK yn datblygu Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Ymglymiad Dysgwyr. Ceir 2 digwyddiad: 16 Ionawr 2009, Coleg Powys, Y Drenewydd a 28 Ionawr 2009, Neuadd Sgeti, Abertawe.
Lansiodd Andrew Davies, y Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus, ymgynghoriad pwysig ar y rôl fydd gan arolygu, archwilio a rheoleiddio o ran cyflawni gwasanaethau cyhoeddus o’r radd flaenaf i bobl Cymru. Mae datganiad yr ymgynghoriad yn pennu polisi Llywodraeth Cynulliad Cymru ar arolygu, archwilio a rheoleiddio - hynny yw, yr adolygiad allanol o wasanaethau cyhoeddus - gan arolygiaethau gwasanaethau cyhoeddus fel Estyn, Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ac Archwilydd Cyffredinol Cymru.
Cyhoeddodd Llywodraeth Cynulliad Cymru fod Chris Tweedale wedi’i benodi’n Gyfarwyddwr Plant, Pobl Ifanc ac Effeithiolrwydd Ysgolion o fewn yr Adran Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau (APADGOS). Ar hyn o bryd Mr Tweedale yw Dirprwy Gyfarwyddwr Grŵp Strategaeth a Diwygio Cymwysterau, Y Gyfarwyddiaeth Pobl Ifanc, yn yr Adran Blant, Ysgolion a Theuluoedd yn Lloegr a bydd yn dechrau yn ei swydd ym mis Ionawr 2009.
Yn ddiweddar, mae’r Gyfarwyddiaeth Ystadegol wedi cychwyn prosiect i ddatblygu gwell amcangyfrifon o gyrhaeddiad mewn addysg ar gyfer pobl rhwng 14 a 19 oed yng Nghymru. Mae’r cylchlythyr yma yn rhoi gwybodaeth i rhanddeiliaid a chyfranogion ar ddatblygiadau a chynlluniau ar gyfer y misoedd nesaf.
(Yn anffodus, nid yw'r erthyglau ar gael yn ddwyieithog)
TIMSS is a worldwide research project, taking place every four years and providing data about trends in mathematics and science achievement over time. It assesses the knowledge and skills of pupils aged 9-10 and 13-14 around the world, and enables researchers to collect extensive background information about the quantity, quality, and content of teaching, which can be used to make comparisons between participating countries.
This is the fifth report on demand for higher education that HEPI has published, updated each year in the light of the most recent information. There are two main influences on demand for higher education – changes in the population from which students are drawn, and the ability and willingness of this population to participate in higher education (as well as the extent of that participation ). This report looks at each in turn, both nationally and regionally.
The focus of this e-bulletin from the UK Commission for Employment and Skills is on employment and skills issues from research and policy perspectives. This month's spotlight feature examines a new report by the OECD on Income Inequality.
Nearly half the country’s workforce say the current climate has made them think about training or learning a new skill.
Over a decade has gone by since the report of the Widening Participation Committee - Learning works - was presented to the Further Education Funding Council. Ten years on, this report asks how far have we come in the decade since Learning works? What progress have we made? And what barriers have we yet to overcome?
A new top-level Employer Taskforce is being launched by the Government today to spearhead a fresh drive to boost education by bringing more business expertise into the classroom. The new taskforce, will have senior business figures including representatives from CBI and the Chamber of Commerce.