
Bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cyhoeddi ei chyllideb ddrafft ar 17 Tachwedd. Mi fyddwn yn anfon cylchlythyr penodol ar Ddydd Mercher i’ch ddiweddaru ar sut y bydd yr adnoddau sydd ar gael yn cael eu dosbarthu rhwng portffolios y Gweinidogion a meysydd gwariant rhaglenni. Llinell Amser y Gyllideb: Beth sy’n digwydd nesaf?
Bydd ymgyrch newydd yn cychwyn heddiw i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o entrepreneuriaid ac ysgogi pobl ifanc Cymru i gychwyn eu busnes eu hun drwy greu agwedd hyderus. Datganiad i’r wasg a’r ymgyrch Syniadau Mawr Cymru
Mae deddfwriaeth newydd sy’n rhoi’r hawl i sefydliadau addysg bellach wneud cais am bwerau i ddyfarnu graddau sylfaen yn rhoi mwy o gyfleoedd i ddysgwyr yng Nghymru ddilyn gradd sylfaen yng Nghymru, meddai Leighton Andrews y Gweinidog Addysg. Datganiad i’r wasg a mwy o wybodaeth
Pwrpas yr arweiniad anstatudol hwn yw helpu penaethiaid a chyrff llywodraethu i egluro’u polisïau ar godi tâl a pheidio â chodi tâl am weithgareddau ysgol ac ymweliadau ysgol.
Mae’r ddogfen hon yn rhoi canllawiau ar gyflwyno data i ddarparwyr dysgu Cymraeg i Oedolion a chanolfannau rhanbarthol. Ei nod yw sicrhau set ddata gyson ar gyfer 2010/11 sy‘n cynnig y cyfle i lunio mesurau mewn perthynas â deilliannau dysgwyr a‘u datblygu ymhellach, fel bod modd gwneud gwaith dadansoddi, gan gynnwys meincnodi.
Rydyn ni’n galw ar bobl ifanc yng Nghymru sydd rhwng 14 a 18 oed i wneud cais i fod yn Hyrwyddwr Newid Hinsawdd heddiw! Bydd pob Hyrwyddwr yn llefarydd ar y newid yn yr hinsawdd yng Nghymru, gan ddangos i bobl yn ei ardal a ledled Cymru sut y gall pawb leihau eu hôl troed carbon. Mae’n brofiad hynod werthfawr ar gyfer yr Hyrwyddwyr a’u hysgolion. Bydd y gystadleuaeth yn cau ddydd Gwener 19 Tachwedd.
Mae'r ymgynghoriad hwn yn casglu sylwadau ar y Rheoliadau drafft i sicrhau bod dysgwyr 16 i 18 oed sy'n derbyn addysg uwchradd neu addysg bellach mewn sefydliad addysg uwch yn gallu derbyn yr un darpariaethau â'r myfyrwyr hynny mewn ysgolion neu sefydliadau addysg bellach.
Anogir defnyddwyr Ystadegau Addysg a Dysgu Gydol Oes i ymateb i’r ymgynghoriad hwn, sy'n cau diwedd mis Tachwedd.
Mae sêr rygbi Cymru wedi neilltuo amser cyn gêm ryngwladol nesaf Cymru yn erbyn De Affrica, pencampwyr rygbi'r byd, er mwyn gwneud ‘cais’ i rieni roi cynnig ar ddarllen gyda’u plant.
(Yn anffodus, nid yw'r erthyglau canlynol ar gael yn y Gymraeg)
Diplomas are enthusing learners but weaknesses remain, according to a report published today by Ofsted. Some aspects of the Diploma – especially the main subject content known as ‘principal learning’ – are working well, but the qualification as a whole is proving complex and challenging for both learners and providers.
The Register of Regulated Qualifications contains details of Recognised Awarding Organisations and Regulated Qualifications in England (Ofqual), Wales (DCELLS) and Northern Ireland (CCEA)
Teenagers are to be the prime target for next year’s World Book Day (WBD) with initiatives including a poster campaign featuring JLS member Ortise Williams. WBD will take place on 3rd March 2011.
The best primary schools in England teach virtually every child to read, regardless of the social and economic circumstances of their neighbourhoods, the ethnicity of their pupils, the language spoken at home and most special educational needs or disabilities.