
Mae UNICEF UK yn helpu Cymru yn ei hymdrechion i gynnwys hawliau plant a phobl ifanc mewn deddfwriaeth arloesol. Hon fydd y wlad gyntaf yn y DU i wneud hyn.
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ymgynghori ar gynigion i ychwanegu dau gategori newydd at y rhestr o bersonau nad ydynt yn athrawon cymwysedig ond a gaiff gyflawni ‘gwaith penodedig’ (h.y. addysgu) mewn ysgolion a gynhelir. Diwedd y cyfnod ymgynghori yw’r 10 Medi 2010.
Cyfarfu uwch-swyddogion o bob rhan o Ewrop yng Nghaerdydd i drafod mwy o gydweithio ym maes dysgu gydol oes.
Wyddech chi fod eich ysgol yn gallu gwneud cais am arian drwy raglen 'Arian i Bawb' y Gronfa Loteri Fawr? Cynllun grantiau bach yw Arian i Bawb Cymru, sy'n dyfarnu symiau rhwng £500 a £5,000. Nod y rhaglen yw helpu i wella cymunedau lleol a bywydau'r bobl fwyaf anghenus.
Bydd athrawon, ymgynghorwyr llythrennedd a phobl sy’n gweithio ym maes gwasanaethau plant yn ymuno ag Asiantaeth Ffilm Cymru i hybu addysg ffilm yng Nghymru. Mae’r seminar ar gyfer y rheiny sy’n ymwneud â phobl ifanc mewn ysgolion, cymunedau ac awdurdodau lleol ledled Cymru.
Comisiynwyd yr Uned Pobl a Gwaith gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i ymgymryd ag arolwg o fwlio mewn ysgolion yng Nghymru. Roedd yr arolwg yn anelu at ddarparu tystiolaeth sylfaenol o fynychder a nifer yr achosion o fwlio ymysg disgyblion oedran ysgol gorfodol yng Nghymru, a chaniatáu i Lywodraeth y Cynulliad fesur newidiadau yn y dyfodol i lefel bwlio yng Nghymru.
Mae’r adroddiad interim yn seiliedig ar adroddiadau hunanasesu (SARs) darparwyr a gyflwynwyd rhwng 1 Hydref 2009 a 23 Mawrth 2010. Mae’r adroddiad yn seiliedig ar werthuso’r blaenoriaethau strategol: meincnodi; sgiliau sylfaenol; dysgu cyfrwng Cymraeg; ac ymatebolrwydd i ddysgwyr a chyflogwyr.
Mae newyddlen diweddaraf CCAUC yn cynnwys newyddion ynglŷn â graddau sylfaen, y Coleg Ffederal, Wythnos y Prifysgolion a rhoi i brifysgolion.
Roedd 28,084 o athrawon cyfwerth ag amser llawn (CALL) yn cael eu cyflogi gan ALlau, gostyngiad o 333 ers mis Ionawr 2009. Roedd 78 o swyddi gwag gyda’u gilydd mewn ysgolion meithrin, cynradd ac uwchradd.
Bu gostyngiad o 3.4 y cant yn ystod 2009 yn y nifer o ddisgyblion oedd â datganiad o Anghenion Addysgol Arbennig, gan ddod â'r nifer sydd â datganiad i 14,327 ym mis Ionawr 2010.
Yn ystod Chwefror a Mawrth 2010, cynhaliodd Estyn arolwg i edrych ar yr hyfforddiant cymwysterau proffesiynol ar gyfer gweithwyr ieuenctid sy’n cael ei ddarparu gan SAUau yng Nghymru. Ystyriodd yr arolwg anghenion a phrofiadau myfyrwyr sy’n ariannu eu hunain, a myfyrwyr sy’n cael eu hariannu gan gyflogwyr gwasanaethau ieuenctid awdurdodau lleol fel rhan o’u datblygiad proffesiynol.
Mae’r ymgynghoriad hwn yn ceisio barn ar y diwygiadau arfaethedig i’r rheoliadau presennol sy’n rheoli gofal plant i blant o dan 8 oed.
Mae sefydliadau ledled y Gogledd ac o bob sector, gan gynnwys y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol wedi cyfarfod yn Wrecsam er mwyn cyfrannu at ddigwyddiad ymgynghori ar y Strategaeth Tlodi Plant newydd a'r Cynllun Cyflawni i Gymru.
(Yn anffodus, nid yw'r erthyglau canlynol ar gael yn y Gymraeg)
The latest UK-wide survey on how higher education (HE) institutions work with and generate business shows that universities in Wales are helping both businesses and the economy to weather uncertain times and lay down sound foundations for future recovery. HEFCW press release and Higher Education – Business and Community Interaction Survey 2008-09 (HEFCE)
VQDay is a national celebration of vocational qualifications for students, teachers and employers. Last year 3.6 million vocational qualifications were awarded and millions of people will achieve similar success this year.
This learning resource is for use with post-16 learners to debate issues such as FIFA's decision on the World Cup host nation, football ownership and democracy, player's salaries and fairness, anti-racism, and football in the community.
Intelligence surveys the employment and skills landscape in the UK and reports on key developments. Latest edition
This paper explores the types of resources young people have at home that support literacy and how this differs according to demographic background, and how they relate to reading enjoyment, attitudes and behaviour as well as reading attainment.
This report evaluates how well a sample of local authorities discharged their duties towards children and young people who are educated at home. The report considers the views of parents and their children, the reasons why some families chose home education, and the implications for the welfare and education of children and young people.
The overarching aim of the research is to provide insights into the approach and practice of local authorities’ work with parents of children with SEN.